Teyrnged i ddyn 'ffyddlon a gofalgar' wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn a laddwyd yn dilyn gwrthdrawiad yn Wrecsam nos Fercher.
Bu farw George Ian Stevenson, 86, wedi gwrthdrawiad gyda char Citroen ar y Stryd Fawr yn Johnstown.
Wedi'r heddlu gael eu galw toc wedi 19:30 nos Fercher, cludwyd Mr Stevenson i Ysbyty Maelor Wrecsam, ond bu farw yn ystod oriau man y bore.
Yn ôl ei deulu roedd Mr Stevenson, o Johnstown, yn "ŵr, tad, taid a hen daid ffyddlon".
"Mae'r teulu wedi'i frawychu a bydd Ian yn cael ei golli gan bawb.
"Roedd wedi ymddeol ar ôl gweithio mewn nifer o rolau trwy gydol ei oes ond parhaodd i weithio hyd yn oed yn ei 80au.
"Roedd Ian yn berson gweithgar, gofalgar a heddychlon iawn, oedd yn caru ei fywyd teuluol a bob amser yn edrych ymlaen at dreulio amser gwerthfawr gyda nhw.
"Roedd yn weithgar iawn yn y byd beiciau modur lle treuliodd flynyddoedd lawer yn marsialu yn y rasys TT yn Ynys Manaw."
Arestiwyd gyrrwr y car Citroen C2 coch, dyn 40 oed, ar amheuaeth o droseddau gyrru ond mae bellach wedi'i ryddhau wrth i'r ymchwiliad barhau.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i apelio ar unrhyw dystion, neu rywun oedd yn teithio yn yr ardal a allai fod â lluniau camera cerbyd, i alw 101 gyda'r cyfeirnod 22000150294.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2022