43 marwolaeth yn gysylltiedig â Covid yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Cofnodwyd 27 o farwolaethau yng Nghymru lle'r oedd Covid-19 yn achos sylfaenol, yn ôl y ffigyrau wythnosol diweddaraf.
Mae hyn yn llai na 4% o'r holl farwolaethau yng Nghymru yn y cyfnod, yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Yn yr wythnos ddiweddaraf, hyd at 25 Chwefror, roedd 43 marwolaeth yn ymwneud â'r feirws, lle cafodd ei nodi ar dystysgrif marwolaeth fel achos wnaeth gyfrannu at y farwolaeth.
Mae hyn yn cymharu â 47 marwolaeth yn yr wythnos flaenorol, yn ôl yr ONS.
Is na'r misoedd blaenorol
Yn ystod y cyfnod diweddaraf, y feirws oedd yr achos sylfaenol mewn 63% o farwolaethau yn ymwneud â Covid - felly 27 o farwolaethau oedd yn uniongyrchol oherwydd Covid.
Mae hon yn ganran is na'r misoedd blaenorol lle'r oedd y cyfartaledd yn 87% yng Nghymru.
Roedd un farwolaeth yn ychwanegol oherwydd Covid na'r hyn o gofrestrwyd yr wythnos gynt.
Roedd marwolaethau oherwydd Covid bedair gwaith yn uwch yn yr un wythnos yn 2021.
Ni chofnodwyd unrhyw farwolaethau yn ymwneud â Covid mewn chwe sir - Ynys Môn, Blaenau Gwent, Ceredigion, Gwynedd, Merthyr Tudful a Sir Benfro.
Mae cyfanswm y marwolaethau lle'r oedd Covid yn achos sylfaenol bellach yn 8,419 yng Nghymru.
Mae nifer y marwolaethau lle cafodd y feirws ei nodi ar dystysgrif marwolaeth fel achos wnaeth gyfrannu at y farwolaeth yn 9,729 erbyn hyn.
Mae'r ONS hefyd yn cofnodi'r hyn sy'n cael ei alw'n farwolaethau ychwanegol, sef y gwahaniaeth rhwng y ffigwr ar gyfer marwolaethau o bob achos, a'r nifer cyfartalog dros bum mlynedd mewn cyfnod heb bandemig.
Ers Mawrth 2020, roedd 6,038 o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru na'r ffigwr cyfartalog.
Roedd y nifer yn uwch na'r cyfartaledd yn ail hanner 2021, ond mae wedi cwympo i'r cyfartaledd neu'n is yn y saith wythnos diwethaf.
Bu cyfanswm o 677 o farwolaethau o bob achos - 47 yn llai na'r cyfartaledd (6.5%) rhwng 2015-19.
Cyfraddau uchaf
Yn Rhondda Cynon Taf y mae'r gyfradd marwolaethau uchaf yng Nghymru yn ystod y pandemig.
Erbyn 25 Chwefror roedd cyfanswm y marwolaethau yn ymwneud â Covid yn y sir wedi cyrraedd 1,047.
O ran y gyfradd marwolaethau yn gyffredinol yng Nghymru a Lloegr, mae'r sir yn bedwerydd gyda 434 marwolaeth i bob 100,000.
Roedd Merthyr Tudful yn 12fed ar y rhestr, gyda 414.4 marwolaeth i bob 100,000 person.
Mae nifer y cleifion gyda Covid yn unedau gofal dwys ysbytai Cymru, ar gyfartaledd, bellach yn llai na 10 am y tro cyntaf ers canol Gorffennaf 2021.
Naw claf Covid, ar gyfartaledd, oedd yn cael cymorth peiriannau anadlu yn ysbytai Cymru yn ddyddiol yn yr wythnos ddiwethaf, yn ôl ystadegau Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Roedd wyth o'r cleifion Covid oedd yn cael gofal critigol ddydd Llun yng Nghaerdydd, tra bo'r nawfed, dan ofal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, yn cael triniaeth yn bennaf at gyflwr arall.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2022