Sut gallai’r pandemig fod wedi effeithio ar eich ymennydd?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Abbie WrightFfynhonnell y llun, Abbie Wright
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Abbie Wright ei bod wedi dioddef o niwl yr ymennydd o ganlyniad i'r hyn y mae arbenigwyr yn ei alw'n 'ymennydd pandemig'

Mae colli cof, blinder a thrafferth canolbwyntio weithiau'n symptomau'r rhai sy'n dioddef o effeithiau hirdymor cael coronafeirws.

Ond mae gwyddonwyr yn meddwl bod pobl nad ydyn nhw wedi cael Covid hefyd yn dioddef mwy o flinder, amhariad ar wneud penderfyniadau a diffyg ffocws oherwydd y pandemig.

Mae arbenigwyr yn credu bod ansicrwydd Covid ac aflonyddwch i arferion wedi arwain at ffenomen a elwir yn 'ymennydd pandemig'.

Mae niwrowyddonydd ymddygiadol blaenllaw bellach yn galw am fwy o ymchwil iddo.

Yw'r pandemig wedi effeithio ar eich ymennydd?

"Mae pobl yn ffurfio arferion, felly rydyn ni'n gweld ffrindiau ar ddiwrnod penodol neu'n mwynhau chwaraeon ar noson benodol - ac mae'r diffyg rheoleidd-dra hwnnw'n gallu bod yn dipyn o her," meddai Dr Emma Yhnell.

"Mae ansicrwydd yn dylanwadu ar fioleg ein hymennydd - ac yn gyffredinol gallwn ymdopi â rhywfaint o ansicrwydd ond po hiraf ydyw, yn gyffredinol y gwaethaf ydyw i'n hymennydd.

"Mae llawer o ymchwil wedi edrych ar effaith haint Covid ar yr ymennydd ond mewn gwirionedd rydyn ni'n gwybod bod byw mewn pandemig yn fwy cyffredinol wir wedi cael effaith ar weithrediad ein hymennydd ac iechyd yr ymennydd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond unwaith y dydd y gallai pobl fynd allan yn lleol i wneud ymarfer corff gydag aelodau o'u cartref ar ddechrau'r pandemig

Mae gan y DU boblogaeth o fwy na 68 miliwn o bobl ac mae ffigyrau diweddaraf y llywodraeth yn dangos bod mwy na 18.9 miliwn o achosion Covid yn y DU wedi'u cadarnhau ers mis Ionawr 2020.

Ddwy flynedd yn ôl y mis hwn, cyhoeddwyd argyfwng Covid-19 yn bandemig byd-eang ac aeth y DU i gyfnod clo - gyda mwy na 160,000 yn marw yn y DU ar ôl profi'n bositif am y coronafeirws.

Mae yna lawer o astudiaethau i effaith hirdymor cael haint Covid neu Covid hir ond mae'r rhai nad ydyn nhw wedi cael y feirws wedi dweud bod dwy flynedd o fyw gyda chyfyngiadau wedi cael effaith.

'Roeddwn i'n betrusgar i gofleidio fy mam'

Dywedodd Sannan Iqbal ei fod yn "betrusgar" i gofleidio ei fam yn ystod y pandemig wrth i'r dyn 22 oed â pharlys yr ymennydd (cerebral palsy) gysgodi i geisio amddiffyn ei hun.

Ffynhonnell y llun, Sannan Iqbal
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sannan Iqbal fod ei lefelau o bryder yn eithriadol o uchel pan gafodd ei wasanaethau gofal eu tynnu'n ôl yn ystod y cyfnod clo cyntaf

Dywedodd ei fod yn teimlo fel bod "tunnell o frics" ar ei ysgwyddau heb "unman i ddianc" wrth iddo geisio osgoi cael Covid.

"Mae'r pandemig wedi cael effaith arnaf," meddai Sannan, sy'n byw gyda'i rieni yng Nghaerdydd.

"Rwy'n teimlo'n fwy blinedig, rwy'n teimlo'n fwy pryderus, rwy'n teimlo fy hun yn cwestiynu fy mhenderfyniadau."

Mae Sannan, y mae ei gyflwr yn effeithio ar ei symudedd, yn cofio bod wedi "gludo i'r teledu" pan darodd Covid y DU, gan geisio deall y cyfyngiadau a'r ystadegau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cynhaliodd y Prif Weinidog Boris Johnson gynadleddau dyddiol i'r wasg yn ystod anterth Covid

"Mae gen i broblemau iechyd meddwl yn barod oherwydd fy anabledd, felly wnaeth yr holl straen a phwysau ychwanegol ddim helpu," meddai wrth y BBC.

Dywedodd fod ei wasanaethau gofal wedi'u tynnu'n ôl yn ystod y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020, gan adael ei lefelau o bryder yn "eithriadol o uchel", ac yn effeithio ar ei berthynas â'i rieni, sydd ill dau yn weithwyr allweddol.

'Beth fydd yn digwydd os bydd fy rhieni'n dal Covid?'

"Fe wnes i ddibynnu ar y gwasanaethau hynny i roi ychydig o seibiant i mi a'm rhieni oddi wrth ein gilydd," meddai.

"Roeddwn i ychydig yn betrusgar hyd yn oed i gofleidio fy mam fy hun yn ystod mwyafrif y pandemig.

"Beth sy'n digwydd pe bai un o fy rhieni'n dal Covid neu'n asymptomatig ac yn dod ag e adref? A fyddwn i'n ddiogel? A fyddwn i'n gallu ymdopi?"

Mae gwyddonwyr yn meddwl bod newidiadau rheolaidd mewn rheolau cyfnodau clo, cyfyngiadau teithio, pryderon ynghylch cael y feirws a chyswllt wyneb yn wyneb cyfyngedig ag eraill wedi effeithio ar iechyd ymennydd rhai pobl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gofynnwyd i bobl gadw eu pellter i helpu i leihau lledaeniad Covid

I Abbie Wright, effeithiodd colli ei swydd mewn cwmni yswiriant yn ystod y pandemig ar ei threfn, ac effeithio ar ei ffocws.

"Yr ansicrwydd, roedd e yn ofnadwy. A doeddech chi ddim yn gallu gweld y diwedd," meddai Abbie, 27 oed o'r Barri ym Mro Morgannwg.

"Rwy'n teimlo bod fy nghof wedi diflannu.

"Mae niwl yr ymennydd wedi bod yn beth mawr pendant i mi. Anghofio geiriau i'w defnyddio mewn brawddeg ac anghofio swm syml."

Ffynhonnell y llun, Abbie Wright
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Abbie Wright ei bod hi'n arfer caru mynd i gigs a'r sinema - ond bod hynny wedi newid yn sgil Covid

Cafodd Abbie ddiagnosis o anhwylder personoliaeth ffiniol ym mis Hydref 2019, ychydig fisoedd cyn y pandemig, ac roedd yr ansicrwydd yn golygu iddi roi'r gorau i wneud pethau a fyddai fel arfer yn ei helpu.

"Rwyf wrth fy modd yn mynd i'r sinema, rwyf wrth fy modd yn mynd i gyngherddau," meddai.

"Mae hynny'n rhan fawr o fy mywyd - unrhyw beth sy'n tynnu fy meddwl oddi ar bethau. Mae pethau rydych chi'n eu cymryd yn ganiataol ac a oedd yn normal cyn y pandemig nawr yn ymddangos yn ddieithr.

Ffynhonnell y llun, Abbie Wright
Disgrifiad o’r llun,

Mae Abbie Wright bellach yn poeni am ddychwelyd i gymdeithasu nawr bod cyfyngiadau Covid yn lleddfu

"Yna dyma'r pryder o fynd yn ôl allan, nawr bod cyfyngiadau'n codi."

'Angen mwy o ymchwil'

Nawr mae galwadau am fwy o ymchwil i effaith seicolegol byw trwy bandemig ar y rhai na chafodd Covid.

"Mae'r defnydd o'r term 'ymennydd pandemig' wedi cynyddu - a'r peth hynod ddiddorol amdano yw y bydd gwahanol bobl yn cael profiadau gwahanol," meddai Dr Yhnell, uwch-ddarlithydd niwrowyddoniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r niwrowyddonydd ymddygiadol Dr Emma Yhnell eisiau mwy o ymchwil i'r ffenomen a elwir yn 'ymennydd pandemig'

"Rydyn ni'n gwybod bod pobl sydd wedi profi straen cronig neu bryder cronig yn gweld rhai newidiadau i'w hymennydd yn y rhannau sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau a sylw.

"Ond mae angen llawer mwy o ymchwil arnom i benderfynu a yw profiad y pandemig wedi achosi newidiadau strwythurol yn ymennydd pobl."

Os ydych wedi cael eich effeithio gan unrhyw un o'r materion yn y stori hon, mae gan BBC Action Line gymorth a chyngor.