Cwest Sala: Beio piben fwg ddiffygiol am nwy gwenwynig
- Cyhoeddwyd
Piben gwagio mwg ddiffygiol oedd y rheswm mwyaf tebygol dros lefelau uchel o nwy gwenwynig yng nghaban yr awyren oedd yn cario'r pêl-droediwr, Emiliano Sala, pan gwympodd i'r môr.
Clywodd y cwest i farwolaeth yr Archentwr 28 oed mai dim ond dau eglurhad posib oedd i gyfrif am y lefel uchel o garbon monocsid ar yr awyren - tân neu ddifrod i'r biben gwagio mwg.
Datgelwyd hefyd nad oedd y biben nwyon llosg wedi cael ei phrofi dan bwysedd, er nad oes unrhyw reidrwydd cyfreithiol i wneud hynny.
Dywedodd Brian McDermid, arolygwr gyda'r Air Accidents Investigation Branch (AAIB), wrth Lys Crwner Dorset nad oedd tystiolaeth o dân yng nghaban yr awyren, ac mai piben fwg ddiffygiol oedd fwyaf tebygol o fod ar fai.
Bu farw Emiliano Sala a'r peilot, David Ibbotson, 59, pan gwympodd yr awyren i'r môr ger Guernsey tra'n hedfan o Ffrainc i Gymru ym mis Ionawr 2019.
Roedd yr ymosodwr, oedd yn chwarae i glwb pêl-droed Nantes ym mhrif gynghrair Ffrainc, newydd gael ei drosglwyddo i Gaerdydd, a oedd ym Uwch-gynghrair Lloegr ar y pryd, am £15m.
Nwy heb arogl na blas
Dywedodd Mr McDermid nad oedd arogl na blas ar garbon monocsid a bod nwyon llosg yn cynnwys 5% i 7% ohono, sy'n gallu arwain at farwolaeth mewn cyn lleied ac un i dri munud.
Daeth yr AAIB yn ymwybodol o'r lefelau o garbon monocsid mewn adroddiad tocsicoleg, meddai.
"Ar y pryd roeddem wedi bod yn edrych ar golli rheolaeth yn ystod yr hediad, a thorri i fyny wrth hedfan [fel achosion posib]," meddai.
Mae'r rheithgor yn y cwest eisoes wedi clywed tystiolaeth bod lefel y carbon monocsid yng ngwaed Emiliano Sala yn 58%, lefel a ddisgrifiwyd gan y patholegydd fel "gwenwyno difrifol".
Wrth egluro sut y gallai'r nwy fod wedi dod i mewn i gaban yr awyren Piper Malibu, un injian, dywedodd Mr McDermid bod system wresogi'r awyren yn tynnu aer oer i mewn o'r tu allan.
Mae'r aer yn pasio drwy siambr wedi'i selio, ac yn cael ei gynhesu gan nwyon llosg wrth iddynt lifo drwy'r system.
Yr achos mwyaf tebygol, meddai Mr McDermid, oedd bod y carbon monocsid wedi gollwg mewn i fwffler y gwresogydd ac yna i mewn i'r caban.
"O gymryd popeth i ystyriaeth, y ffordd mwyaf tebygol i'r nwyon llosg ddod i mewn i gorff yr awyren oedd drwy system awyru'r awyren.
"Mi gymerodd dipyn o amser i ni ddod i'r casgliad hwnnw am nad oeddem yn gallu adnabod ffordd i'r carbon monocsid ddod i mewn.
'Dim byd tebyg'
"Mi es i drwy grynodebau 190 o adroddiadau damweiniau heb ddod o hyd i unrhyw beth yn cyfeirio at broblemau gyda charbon monocsid - doedd dim hanes ohono.
"Ers 1984 nid ydym wedi medru darganfod unrhyw beth tebyg.
"Pan edrychon ni ar yr holl bosibiliadau, hwn oedd yr eglurhad mwyaf tebygol ac mae'n rhaid bod amhariad sylweddol [i'r system nwyon llosg].
"Drwy ystyried pob tebygolrwydd daethom i'r casgliad mai mwffler y gwresogydd [oedd ar fai]."
Ychwanegodd y byddai system nwyon llosg yn dirywio, a bod cynnal a chadw rheolaidd yn hollbwysig i sicrhau diogelwch yr awyren.
Clywodd y cwest yn Bournemouth bod peilotiaid awyrennau ysgafn yn cael eu hannog i gario offer synhwyro carbon monocsid ar hediadau, ond nad oedd hynny'n orfodol.
"Un o'r problemau efo carbon monocsid yw nad oes arogl iddo ac mae'n bosib na fyddwch yn ymwybodol o'i bresenoldeb yn y caban," meddai Mr McDermid.
"Dyna pam rydym yn credu y dylai defnyddio synwyryddion carbon monocsid fod yn orfodol ar awyrennau ysgafn."
Yn ddiweddarach dywedodd Mr McDermid wrth y cwest nad oedd cofnod bod unrhyw brofion dan bwysedd wedi cael eu cynnal ar y system nwyon llosg, er nad oedd unrhyw ofynion cyfreithiol i wneud hynny.
"Pan adawodd yr awyren ei harchwiliad cynnal a chadw olaf nid oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu nad oedd hi'n addas i wneud yr hediad," meddai.
Cyfeiriodd hefyd at sŵn yr oedd y peilot wedi ei glywed ar y ffordd i Nantes.
"Roedd rhywbeth ar y ffordd i Nantes - y bang hwnnw. Fe siaradon ni gyda lot o bobl. Beth allai fod, ac a oedd o'n ollyngiad ynni a allai fod wedi gwanhau rhywbeth?
"Byddwn wedi cael peiriannydd i edrych ar yr awyren i ganfod beth oedd y bang - dydi pethau ddim yn digwydd heb unrhyw reswm," meddai.
Mae'r cwest yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2019