Anna McMorrin: 'Dylai neb deimlo gwarth am berthynas dan reolaeth'

  • Cyhoeddwyd
Anna McMorrin

Mae Aelod Seneddol Cymreig wedi siarad am ei phrofiad o fod mewn perthynas dan reolaeth gan ddweud na ddylai unrhyw un sy'n profi hyn "deimlo gwarth".

Dywedodd AS Gogledd Caerdydd Anna McMorrin ei bod hi'n teimlo ei fod yn bwysig trafod ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched.

Wrth siarad â BBC Cymru dywedodd y gall rheolaeth drwy orfodaeth o fewn perthynas "ddigwydd i unrhyw un".

"Yn gyffredinol maen nhw'n eich denu i mewn gyda lot o bethau positif, da chi'n cwympo mewn cariad, a dyna pryd mae'r rheoli yn dechrau."

Ychwanegodd: "Dwi'n credu ei fod yn bwysig ein bod ni'n gallu siarad amdano, i dorri drwy'r rhwystrau a'r stigma."

'Tynnu'r cariad, cyn ei roi yn ôl'

Mae Anna McMorrin yn llefarydd i'r blaid Lafur ar gyfer dioddefwyr, ac fe ddisgrifiodd sut y dechreuodd y berthynas yn dda, ond ei bod wedi newid yn fuan iawn.

Dywedodd: "Pan 'da chi mewn perthynas dan reolaeth, dyw o ddim yn ddrwg i gyd, fel arall fydde' chi ddim yn aros.

"Maen nhw'n eich drysu ynglŷn â ble maen nhw, be' 'da chi'n ei wneud, sut 'da chi'n treulio'ch amser.

"Maen nhw'n tynnu'r cariad yn ôl, cyn ei roi yn ôl eto. Yn cael perthynas arall ar y slei, ond yn ei wadu, yn dileu pethau o'ch cyfrifiadur a'ch ffôn.

"Mewn sefyllfa fel 'na, 'da chi eisiau gweld y gorau mewn pobl, a 'da chi eisiau cofio'r dyddiau da. Ond mae'n cymryd lot i adael y math yna o berthynas. Dyw e byth yn hawdd."

Fe gymerodd amser hir iddi fagu'r dewrder i adael, a dywedodd bod yna elfen o reolaeth ariannol yn ogystal ag emosiynol oedd yn ei gwneud hynny yn llawer anoddach.

Drwy siarad am ei phrofiad personol, roedd hi'n gobeithio torri'r stigma a theimlad o warth mae llawer o ddioddefwyr yn ei brofi.

"Y rhan fwyaf o'r amser 'da chi ddim hyd yn oed eisiau ei gyfaddef eich hun - yn enwedig fel dynes gref, rhywun sy'n ymfalchïo ar fod yn ddynes gref.

"Felly falle eich bod chi'n gwneud yn dda yn eich gyrfa, mewn bywyd, neu gyda ffrindiau.

"Ond y tu ôl i ddrysau caeedig mae yna ochr wahanol sy'n poeni, sydd ofn, sy'n cwestiynu eich hunan, beth sy'n wir, beth sydd ddim."

'Dim llawer o ddealltwriaeth'

Mae Ms McMorrin yn dweud ei bod hi'n dal i fyw gyda'r trawma, ond dyw hi ddim yn teimlo bod trais emosiynol yn cael ei ystyried yr un mor ddifrifol â thrais corfforol.

"Mae'n gallu bod yr un mor niweidiol", meddai, "mae'r trawma gyda chi yn ystod y berthynas, a dyw e ddim yn eich gadael wedyn, mae'n cymryd amser hir, hir iawn i ddod drosto."

"Fel llefarydd dros ddioddefwyr, dwi'n teimlo bod gen i gyfrifoldeb i siarad am y ffaith y gall perthynas dan reolaeth ddigwydd i unrhyw un.

"Mae'n anodd iawn gadael, a dwi'n credu ei fod yn bwynt pwysig, nad yw pobl yn teimlo stigma am orfod aros yn y math yna o berthynas."

Yn ôl Ms McMorrin does 'na ddim llawer o ddealltwriaeth o reolaeth drwy orfodaeth o fewn y system gyfiawnder, ac mae'n rhaid i hynny newid.

"Mae angen hyfforddiant ar gyfer y llysoedd, y system gyfan, y CPS, sydd ddim yn deall y trawma mae dioddefwr yn ei wynebu.

"Does dim cefnogaeth o fewn y system gyfiawnder a phrin yw'r ddealltwriaeth o fenywod sy'n dioddef trais domestig, rheolaeth dan orfodaeth, neu drais emosiynol, ac mae'n llawer rhy gyffredin.

"Mae angen gwell dealltwriaeth."