Ystlumod yn rhoi stop ar ganolfan tollau yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
YstlumFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nifer mawr o ystlumod eu canfod ar y safle yn Sir Benfro

Mae swyddogion yn gorfod ailystyried eu cynlluniau i godi Canolfan Rheoli Ffiniau yn Sir Benfro oherwydd ystlumod.

Y bwriad gwreiddiol oedd codi canolfan ôl-Brexit ar gyfer archwilio anifeiliaid a bwydydd ym mhentre' Johnston.

Fe fyddai'r safle wedi delio gydag allforion a mewnforion i borthladdoedd Abergwaun a Doc Penfro.

Ond mae yna ailfeddwl ar ôl i "nifer fawr" o rywogaethau ystlumod gael eu canfod.

Mae holl rywogaethau ystlumod wedi eu diogelu gan gyfraith gwlad, ac mae'n anghyfreithlon i ddifrodi neu niweidio safle sy'n cael ei ddefnyddio gan yr anifail.

Mewn ymateb ysgrifenedig i'r Senedd dywedodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething: "Fe allaf gadarnhau ein bod wedi rhoi'r gorau i'n trafodaethau ar gyfer y safle penodol yma, yn dilyn adroddiad sy'n datgelu nifer fawr o rywogaethau ystlumod."

Bellach, meddai, nid oes rhaid i swyddogion ystyried safleoedd fydd yn gwasanaethu'r ddau borthladd.

"Mae hyn yn ehangu'r nifer o opsiynau ar gyfer canolfan tollau parhaol ar gyfer de orllewin Cymru, a gallai hynny olygu fod y safleoedd yn agosach i'r ddau borthladd, safle arall yn Johnston neu rywle arall."

Pynciau cysylltiedig