Hanes Cymru'n erbyn Les Blues

  • Cyhoeddwyd
biggar a dupontFfynhonnell y llun, Getty Images

Ar nos Wener, 11 Mawrth mae Cymru'n croesawu Ffrainc i Gaerdydd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Y Ffrancwyr yw'r ffefrynnau ac yn anelu eu Camp Lawn gyntaf ers 2010, a gyda rhai o'r chwaraewyr mwyaf dawnus yn y byd yn eu plith mae'r gobeithion yn uchel ar gyfer y gleision eleni.

Felly dyma gyfle i edrych ar hanes y gemau rhwng Cymru a Ffrainc dros y blynyddoedd, a hefyd asesu maint y sialens fydd yn wynebu carfan Wayne Pivac.

Y gêm gyntaf

Cafod y gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad ei chwarae yng Nghaerdydd ar 2 Mawrth, 1908. Roedd hi'n fuddugoliaeth gyfforddus i Gymru, 36-4.

Disgrifiad o’r llun,

Y gêm gyntaf rhwng Cymru a Ffrainc yn1908

Fe enillodd Cymru'r bencampwriaeth y flwyddyn honno, gan guro Lloegr a'r Alban gartref a churo Iwerddon ym Melfast.

Ond doedd Ffrainc ddim yn rhan o'r bencampwriaeth yn swyddogol ar y pryd, ond fe chwaraeodd Cymru a Lloegr yn eu herbyn, gyda Lloegr hefyd yn eu trechu 0-19 ym Mharis.

Dros y blynyddoedd

Ers yr ornest gyntaf yn 1908 mae'r timau wedi chwarae'i gilydd 101 o weithiau - 51 buddugoliaeth i Gymru, 47 buddugoliaeth i Ffrainc, a thair gêm yn gorffen yn gyfartal.

Fe enillodd Cymru y 15 gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad, ac 19 o'r 20 gêm gyntaf. Daeth cyfnod cryfaf Ffrainc yn erbyn Cymru rhwng 1982 ac 1994, pan enillon nhw 12 gêm yn olynol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r goreuon i chwarae dros Ffrainc erioed, Serge Blanco, yn chwarae yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd yn 1991 - fe enillodd Ffrainc 9-22 y dydd hwnnw.

Mae Ffrainc wedi ennill y Gamp Lawn naw gwaith - y cyntaf yn dod yn 1968, ac yr un mwyaf diweddar yn 2010. Mae Ffrainc wedi ennill Camp Lawn deirgwaith ers dyfodiad y Chwe Gwlad yn 2000.

Mae Cymru wedi ennill y Gamp Lawn deuddeg gwaith - y cyntaf yn 1908 ac yr un mwyaf diweddar yn 2019. Mae Cymru wedi ennill chwe Champ Lawn ers dyfodiad y Chwe Gwlad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cais enwog Scott Quinnell wrth i Gymru guro Ffrainc 24-15, 19 Chwefror 1994.

Gemau diweddar

Mae Ffrainc wedi ennill y tair gêm ddiwethaf rhwng y ddwy wlad ym mhob cystadleuaeth, ond fe enillodd Cymru wyth o'r naw gêm cyn hynny.

Y tro diwethaf i Ffrainc ymweld â Chaerdydd roeddent yn fuddugol 27-23 - honna oedd y fuddugoliaeth gyntaf i'r Ffrancwyr yng Nghymru ers 2010.

Mae Cymru wedi ennill 10 o'r 11 gêm ddiwethaf yng Nghaerdydd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad... ac Ffrainc oedd yr unig dîm i drechu'r cochion, yn Chwefror 2020.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

George North yn croesi am gais yn y fuddugoliaeth mwyaf diweddar i Gymru dros Ffrainc yn y Chwe Gwlad - 19-24 ym Mharis, 1 Chwefror 2019.

Gemau agos

Mae Ffrainc wedi sgorio 28 pwynt neu fwy yn eu wyth gêm brawf diwethaf, gan sgorio 33.8 pwynt ar gyfartaledd.

Yn y pum gêm fwyaf diweddar rhwng y ddwy wlad yn y Chwe Gwlad mae'r tîm buddugol wedi ennill o bum pwynt neu lai, ac 2.5 pwynt yw'r fantais ar gyfartaledd.

Newyddion tîm

Mae gan Gymru nifer o chwaraewyr sy'n absennol gydag anafiadau hirdymor - Alun Wyn Jones, George North a Ken Owens yn eu plith. Ond mae Josh Navidi nôl yn y tîm am ei ymddangosiad cyntaf o'r bencampwriaeth yn dilyn pum mis allan gydag anaf i'w ysgwydd.

Mae Gareth Thomas wedi ei ddewis yn y reng-flaen yn lle Wyn Jones, Seb Davies yn dechrau yn flaenasgellwr ac mae Jonathan Davies yn dechrau yn y canol wedi i Nick Tompkins ddioddef cyfergyd yn erbyn Lloegr.

Bydd Ffrainc heb yr ail-reng Romain Taofifenua na'r gwibiwr Damian Penaud - mae'r ddau wedi profi'n bositif gyda Covid-19.

Y newyddion da i Ffrainc ydy bod y capten a chwaraewr gorau'r byd y llynedd yn ôl yr IRB, Antoine Dupont, yn holliach i ddechrau'r gêm wedi iddo anafu ei fraich wrth ymarfer ar ddechrau'r wythnos.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Seren Ffrainc a Toulouse, Antoine Dupont, yn ymarfer yn Stadiwm y Principality

Pwysigrwydd y llinell

Cymru sydd â'r record waethaf yn y bencampwriaeth yn ôl ystadegau'r llinell (83%) - mae Cymru wedi colli eu tafliad saith gwaith yn y tair gêm agoriadol.

Yn 2021 Cymru oedd gan y record orau gan golli tafliad eu hunain chwe gwaith dros bum gêm y bencampwriaeth gyfan.

Cymru sydd hefyd wedi gwneud y mwyaf o daclo ym mhencampwriaeth eleni hyd yma - 199 tacl mewn tair gêm.

Tîm Cymru: L Williams; Cuthbert, Watkin, J Davies, Adams; Biggar (c), T Williams; G Thomas, Elias, Francis, Rowlands, Beard, S Davies, Navidi, Faletau.

Eilyddion: Lake, W Jones, D Lewis, Moriarty, J Morgan, Hardy, Anscombe, Rees-Zammit.

Tîm Ffrainc: Jaminet; Moefana, Fickou, Danty, Villiere; Ntamack, Dupont (c); Baille, Marchand, Atonio, Woki, Willemse, Cros, Jelonch, Alldritt.

Eilyddion: Mauvaka, Gros, Haouas, Flament, Cretin, Lucu, Ramos, Lebel.

Hefyd o ddiddordeb: