Cymru 'ar flaen y gad' wrth drin creithiau ar yr wyneb
- Cyhoeddwyd
Gallai cleifion yng Nghymru fod ymysg y cyntaf yn y byd i elwa o driniaeth arloesol ar ddefnyddio celloedd dynol i drin creithiau ar yr wyneb.
Bydd astudiaeth gwerth £2.5m gan Brifysgol Abertawe yn defnyddio celloedd dynol a deunyddiau planhigion i ailadeiladu clustiau a thrwynau mewn labordy.
Y gobaith yw y bydd yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol ar gyfer triniaeth i bobl sy'n cael eu geni heb rannau o'u corff, neu sydd â chreithiau ar eu hwynebau oherwydd llosgiadau, trawma neu ganser.
Mae dioddefwyr creithiau yn dweud y byddai'r datblygiadau yn "newid ein bywydau".
'Ffordd fwy ymarferol i helpu'
Cafodd Tina Morgan o Ferthyr Tudful ddiagnosis o ganser y croen ar ei chlust yn 2010.
Roedd llawdriniaeth i drin y canser yn llwyddiannus, ond roedd yn golygu mai dim ond rhan fach o'r glust sydd ganddi ar ôl.
Ar hyn o bryd, mae gwaith ailadeiladu trwyn a chlust yn digwydd trwy gerfio rhannau o'r asen a'u rhoi o dan y croen, ond mae hyn yn gallu bod yn boenus a gadael creithiau.
Roedd Ms Morgan yn ymweld â'r rhaglen ymchwil arloesol yn Abertawe ochr yn ochr ag Iarlles Wessex, sy'n noddwr i'r Scar Free Foundation.
Yn ôl Ms Morgan, 55, byddai cael clust gyflawn eto yn bwysig iawn i'w bywyd dydd i ddydd.
"Doeddwn i ddim wir eisiau cael llawdriniaeth a chael gwared ar unrhyw un o'm hasennau serch hynny," meddai.
"Felly pan welais yr ymchwil sy'n cael ei gynnal yn Abertawe, ro'n i'n meddwl ei fod yn ffordd fwy ymarferol i helpu nid yn unig fi, ond eraill sy'n byw gyda chreithiau difrifol ar eu hwynebau.
"Gallai hyn newid ein bywydau."
Gwaith 'anhygoel'
Person arall oedd yn ymweld â'r labordy gyda'i theulu oedd Elizabeth Soffe, sy'n chwech oed, a ddioddefodd llosgiadau difrifol mewn tân pan yn chwe mis oed.
Collodd Elizabeth rai o'i bysedd ac un o'i chlustiau oherwydd y difrod, ac mae angen triniaeth ddyddiol ar ei chreithiau poenus.
"Weithiau dwi'n ei chael hi'n anodd agor pethau," meddai, gan ychwanegu bod yr ymchwil newydd yn "gyffrous".
Dywedodd ei thad, Liam, fod y gwaith sy'n cael ei wneud yn "anhygoel".
"Mae gennym ddiddordeb arbennig yn yr argraffu 3D. Collodd Elizabeth glust yn y tân felly pe bai modd argraffu un yn y pen draw gan ddefnyddio ei chelloedd ei hun byddai hynny'n anhygoel," meddai.
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd llawer o'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn y labordy hwn o fudd i blant fel Elizabeth fel nad oes rhaid iddyn nhw ddelio ag effaith corfforol a meddyliol creithiau."
Mae rhan o'r ymchwil, sydd yn cael ei hariannu gan y Scar Free Foundation ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn cynnwys yr astudiaeth fwyaf yn y byd o sut mae creithiau ar yr wyneb yn effeithio ar iechyd meddwl.
'Cyfle i ailadeiladu hyder pobl'
Mae'r ymchwil yn cael ei arwain gan yr Athro Iain Whitaker, sy'n dweud mai dyma'r grŵp mwyaf o'i fath yn y DU, ac o bosib yn Ewrop.
"Rwy'n gobeithio y bydd cleifion yn derbyn y cartilag a adeiladwyd mewn labordy yn llawer gwell na thechnegau traddodiadol fel tynnu'r asen, a fyddai'n arwain at boen a chreithiau," meddai.
Dywed yr Athro Whitaker y byddai defnyddio argraffwyr hefyd yn gwneud llawdriniaethau'n fyrrach, gan wella profiad cleifion yn ogystal â gostwng costau.
"Rydym yn gobeithio yn y ddwy neu dair blynedd nesaf y byddwn yn datblygu protocol ar gyfer treial clinigol, ac rwy'n obeithiol y bydd Cymru ymhlith y llefydd cyntaf yn y byd i gleifion elwa o'r dechnoleg hon."
Dywed yr Athro Whitaker fod ei grŵp "ar flaen y gad" gyda'r ymchwil, gyda'r gobaith o gynnal treialon clinigol yn Abertawe yn "y ddwy i bum mlynedd nesaf".
Mae gan Simon Weston CBE, prif Lysgennad y Scar Free Foundation greithiau dros 85-90% o'i gorff ar ôl i fom daro ei long yn Rhyfel y Falklands.
"Mae'r cyfle i ailadeiladu hyder pobl sydd ag anffurfiadau wyneb a chorff yn aruthrol," dywedodd Mr Weston.
"Ni allwch newid yr hyn sy'n digwydd i bobl ond trwy'r ymchwil a'r datblygiad hwn gallwch newid sut y gall eu dyfodol edrych."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd5 Awst 2021
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2014