Breichiau robotig i'w defnyddio i drin canser

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Robot yn ymuno â thîm llawfeddygol Ysbyty Gwynedd

Bydd breichiau robotig yn cael eu defnyddio yn fuan yn ystod rhai llawdriniaethau canser yng Nghymru.

Dywed meddygon ymgynghorol y bydd y dechnoleg yn eu cynorthwyo i gynnal llawdriniaethau yn fwy manwl - ond maen nhw'n pwysleisio mai llawfeddygon fydd yn rheoli'r cyfan.

Mae'r disgwyl i'r robot llawfeddygol cyntaf gael ei ddefnyddio ym Mangor ym Mehefin a bydd llawdriniaethau tebyg yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd yn fuan wedi hynny.

Yn ystod y degawd nesaf bydd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a Llywodraeth Cymru yn gwario dros £17 miliwn ar y dechnoleg.

Ffynhonnell y llun, CMR Surgical
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y breichiau robotig yn cael eu defnyddio i drin canser y prostad i ddechrau

Mae rheolwyr y gwasanaeth iechyd yn gobeithio y bydd technoleg arloesol yn eu helpu i ddenu a chadw staff talentog yng Nghymru.

Mae gan y robot nifer o freichiau ac ar ben bob un mae offer fel cyllyll llawfeddygol a fydd yn perfformio llawdriniaethau twll clo.

Bydd y llawfeddyg ymgynghorol yn eistedd wrth gyfrifiadur gerllaw ac yn rheoli mecanwaith hynod o gymhleth a fydd yn symud breichiau'r robot - weithiau ychydig o filimetrau ar y tro.

Mae camerâu ar waelod y breichiau robotig yn caniatáu i'r llawfeddyg weld be sy'n digwydd a bydd hi'n bosib chwyddo'r llun er mwyn sicrhau y manylder eithaf.

Un o'r bobl gyntaf i dderbyn hyfforddiant ar y robot newydd yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor yw Mohamed Abdulmajed, ymgynghorydd wrolegol.

Ffynhonnell y llun, Mike Dean/Eye Imagery
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mohamed Abdulmajed sy'n ymgynghorydd wrolegol bod nifer o fanteision i'r dechnoleg newydd

"Un o'r pethau cyntaf y byddwn yn ei wneud â'r breichiau robotig newydd yw cynnal llawdriniaethau canser y prostad.

"Bydd modd sicrhau lefel uchel o fanylder, ac osgoi'r nerfau sy'n rheoli gweithgaredd rywiol dynion a lleihau'r risg o anymataliaeth (incontinence) yn sgil llawdriniaeth.

"Ar y cyfan mae llawer iawn o fanteision yn sgil defnyddio braich robotig wrth gynnal llawdriniaeth twll clo.

"Mae'r clwyf yn llai, mae llai o waed ac mae hynna'n golygu llai o amser yn yr ysbyty ac felly mae'r claf yn gwella ynghynt ac yn gallu dychwelyd i'r gwaith yn fuan."

Mae'r GIG yng Nghymru yn gobeithio defnyddio cymorth robot i gynnal llawdriniaethau eraill - llawdriniaethau i drin canser y system dreulio, yr arennau, y bledren a chanser gynaecolegol.

Ffynhonnell y llun, Mike Dean/Eye Imagery
Disgrifiad o’r llun,

Y breichiau robotig yn ymarfer ar fodel

Dywed rheolwyr bod y maes hwn o dechnoleg yn datblygu'n gyflym.

Fe fyddan nhw'n gweithio gyda chwmni CMR Surgical, sy'n adeiladu'r breichiau robotig a'r nod yw ymchwilio sut gall y breichiau robotig gael eu defnyddio yn ehangach yn y dyfodol.

Dywedodd Jared Torkington, sy'n arwain y rhaglen yng Nghymru: "Wrth i lawfeddygaeth drwy gymorth robot barhau i ddatblygu, bydd newid mwy radical fyth i'w weld dros yr 20 mlynedd nesaf, tuag at ddyfodol lle mae gofal iechyd yn amharu llai fyth ar gleifion ac yn gallu addasu i anghenion unigol cleifion yn well."

'Dim angen teithio i Loegr'

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £4.2 miliwn ar gyfer y rhwydwaith dros bum mlynedd, a byrddau iechyd yn darparu £13.35 miliwn dros 10 mlynedd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan: "Mae Rhwydwaith Cymru ar gyfer Llawfeddygaeth drwy gymorth robot yn rhaglen uchelgeisiol a phwysig a fydd yn helpu i wella canlyniadau i gleifion a'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

"Bydd yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran ymchwil ryngwladol ar ddefnyddio technegau llawfeddygol robotig.

"Bydd y gwasanaeth arloesol hwn hefyd yn annog staff arbenigol i ddod i Gymru i hyfforddi ac ymarfer.

"Unwaith y bydd ar waith yn llawn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ni fydd angen i gleifion yn y Gogledd deithio i Loegr mwyach i gael llawdriniaeth drwy gymorth robot."