Arestio dyn wedi ymosodiad difrifol yng Nghlydach

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae'r heddlu wedi arestio dyn 37 oed yn dilyn ymosodiad difrifol ar ddyn 68 oed yng Nghlydach, Abertawe, dros y penwythnos.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad am tua 17:30 ddydd Sadwrn.

Cafodd y dyn 68 oed ei gludo i'r ysbyty ar ôl cael anafiadau difrifol i'w wyneb, ond fe ddywedodd Heddlu De Cymru ei fod mewn cyflwr sefydlog.

Roedd yr heddlu wedi apelio am wybodaeth er mwyn canfod y dyn 37 oed, oedd wedi dianc cyn i swyddogion gyrraedd.

Mae'r dyn yn parhau yn y ddalfa, a dywedodd y llu nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig