Safbwynt heddychwr am ryfel Wcráin

  • Cyhoeddwyd
Rhun DafyddFfynhonnell y llun, Rhun Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

"Nid oes modd trechu unrhyw anghydfod gyda thrais," meddai Rhun Dafydd, cadeirydd Cymdeithas y Cymod

"Dwi ddim yn gwybod sut byddwn i'n ymateb pe bawn i yn y sefyllfa maen nhw ynddo yn Wcráin," meddai'r heddychwr Rhun Dafydd, cadeirydd ieuengaf erioed Cymdeithas y Cymod yng Nghymru.

"Mae eu safiad nhw'n hynod o ddewr; rhywbeth rydym ond yn gallu dychmygu dygymod ag o."

Ond er gweld pobl gyffredin Wcráin yn codi arfau i amddiffyn eu gwlad yn erbyn grym enfawr Rwsia a'u harlywydd Volodymyr Zelensky yn ymbil am fwy o help militaraidd gan wledydd Ewrop a'r UDA nid yw cred Rhun mewn dulliau di-drais wedi newid.

I'r gwrthwyneb meddai: "Mae wedi cryfhau fy naliadau oherwydd mae rhywun yn gweld yr effaith mae trais yn ei gael ar bobl ddiniwed ac yn meddwl pa mor hawdd gallai ddigwydd inni.

"Felly mae wedi dangos mai'r unig ffordd o gael heddwch a diwedd i hwn yw trwy gymodi."

Gweithredu di-drais

Nid mwy o arfau sydd ei angen yn Wcráin, ond cymodi meddai'r gymdeithas sy'n gangen o fudiad heddwch rhyngwladol IFOR (International Fellowship of Reconciliation).

Wedi ei sefydlu yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 mae'r mudiad yn credu mewn gweithredu heb drais a bod heddychiaeth yn golygu dangos yn barhaus fod grym cariad yn gryfach na grym arfau.

Mewn cyfarfod heddwch a gafodd ei gynnal ddechrau mis Mawrth fe glywodd y gymdeithas yr un neges gan heddychwyr yn Rwsia, ble gallech fynd i'r carchar am leisio barn yn erbyn y rhyfel, ac yn Wcráin ei hun.

"Mae'r broses o gael heddwch a chymodi yn un llawer anoddach i'w weithredu na thrais," meddai Rhun, a olynodd Mererid Hopwood fel cadeirydd y gymdeithas fis Ionawr 2021 pan oedd yn 26 oed.

"Nid oes modd trechu unrhyw anghydfod gyda thrais - mae'n rhaid cael bobl i wrando ar ei gilydd os ydym am weld unrhyw ganlyniad parhaol.

"Dylem fel cenedl sydd â hanes hir o heddychiaeth gondemnio'r trais nid ei gefnogi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Volodymyr Zelensky wedi gofyn eto am fwy o help gan yr Unol Daleithiau

Ymladd gyda chydwybod

Ond mae Rhun yn gwerthfawrogi y cyfyng-gyngor posibl i heddychwyr yn Wcráin sy'n wynebu ymosodiad real yn eu herbyn fel unigolion, cymdeithas a gwlad.

"Mae lot o bwysau arnyn nhw i ddewis beth yw eu dyletswydd; maen nhw angen ymladd yn fewnol efallai gyda'u cydwybod personol nhw o fod yn heddychwr a be maen nhw'n weld sy'n digwydd ar hyn o bryd yn eu gwlad nhw eu hunain, mae hynna'n anodd iawn."

Fe glywodd y gymdeithas gan un o heddychwyr blaenllaw Wcráin, Yurri Sheliazhenko, yn y gynhadledd fis Mawrth.

Anfonodd Yurii ei gyfraniad, dolen allanol o Kyiv, lle mae wedi aros gyda'i fam.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Taflegryn yn taro bloc o fflatiau yn Kyiv ddiwedd Chwefror 2022

Meddai: "Pan fo gwlad yn datgan ei bod yn casglu byddin ac yn dod dan reolaeth filwrol, reifflau yn cael eu rhoi i filoedd o filwyr dinesig newydd, selffis gyda gynnau yn dod yn trendi ar Facebook a neb yn gwybod pwy sy'n saethu'n sydyn yn y stryd na pham...

"Pan fo hyd yn oed dinasyddion yn eu cartrefi yn paratoi i gwrdd â'r gelyn gyda coctêls Molotov, fel mae'r fyddin yn ei argymell... pan fo sŵn ffenestri'n ffrwydro yn y pellter yn gymysg yn eich meddwl gyda negeseuon am farwolaeth a difrod a chasineb a diffyg ymddiriedaeth a phanig a'r alwad am ryfel a mwy o golli gwaed dros sofraniaeth... mae'n awr dywyll i ddynoliaeth y mae'n rhaid inni ei goroesi a dod drosti, a'i rhwystro rhag digwydd eto."

Chaiff Yurii ddim gadael y wlad gan ei bod yn orfodol i ddynion rhwng 18 a 60 mlwydd oed ymuno â'r fyddin a brwydro.

Mae gwrthod ymladd yn golygu cael eich rhestru fel bradwr a bod mewn perygl o ymosodiadau gan elfennau asgell-dde yn y wlad meddai Yurii.

Ond mae'n credu mai drwy ddulliau di-drais a thrafodaeth mae dod at ddatrysiad nid trwy filitareiddio Wcráin ymhellach.

"Maent yn mynnu mwy a mwy o gymorth milwrol i Wcrain a sancsiynau economaidd niweidiol yn erbyn Rwsia," meddai.

"Fe gasglwyd miliwn o lofnodion yn galw am ymyrraeth gwledydd NATO i gau'r awyr uwchben Wcrain a phenodi 'cadwyr heddwch' y Gorllewin i ymladd 'cadwyr heddwch' Putin; yn sylfaenol, galw am ddwysáu'r rhyfel gan greu'r perygl o ymosodiad niwclear.

Disgrifiad o’r llun,

Un o fenywod Dnipro yn ymuno yn yr ymdrech i wneud coctêls Molotov i ymosod ar y gelyn

"Mae Rwsia yn cynnal rhyfel ffyrnig yn erbyn Wcráin y mae'n rhaid ei gondemnio a'i stopio, does dim amheuaeth am hynny; ond yn lle torri ein cysylltiad dynol olaf â'n gilydd yn ein cynddaredd, rhaid i ni, yn fwy nag erioed, gynnal a chryfhau y llwybrau cyfathrebu a chydweithio rhwng holl bobl y Ddaear."

'Gwlad niwtral'

Yn ôl Yurii mae angen i'r ddwy ochr dawelu pethau a thrafod yn ddidwyll ac mae'n feirniadol o drais a chasineb ar y ddwy ochr. Mae eisiau i Wcráin fod yn wlad niwtral nad yw'n ochri gydag unrhyw un o'r pwerau mawr.

Mae hefyd am weld swyddogaeth NATO yn newid.

"Wrth edrych i'r dyfodol dylai NATO fod yn fudiad sy'n galw am ddiarfogi nid ymyrryd yn filwrol a chynyddu arfogaeth i amddiffyn gwledydd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd pobl yn dal i gynnal protestiadau heddychlon yn Melitopol ar ôl i'r Rwsiaid feddiannu'r ddinas

Yma yn y DU mae Rhun yn dweud bod "dim digon o sylw i'r safbwynt heddychol ar ein cyfryngau, "

"Y naratif rydyn ni'n ei weld [gan gyfryngau a gwleidyddion] ydy'r gefnogaeth dreisgar a'r defnydd o arfau," meddai.

Mae'n creu tensiynau a chasineb yn hytrach na gwella'r sefyllfa meddai Rhun "ac yn profi bod imperialaeth yn bodoli a'r ddwy ochr y 'frwydr'."

Mae'n cyfeirio at straeon am brotestio heddychlon, am drigolion yn siarad gyda milwyr heb drais ac yn rhoi bwyd iddyn nhw.

Felly sut allwn ni helpu'r sefyllfa?

Yn un peth rhoi cymorth ymarferol a dyngarol fel rhoi croeso a chefnogaeth ariannol i ffoaduriaid, meddai Rhun.

"Y rhai sydd yn dioddef fwyaf yw'r bobl fwyaf gyffredin, felly yn bersonol fi'n meddwl mai nhw sydd angen y gefnogaeth fwyaf a dim o reidrwydd bod ni'n cefnogi trwy filwyr neu arfau."

Mae hefyd yn credu bod "rhannu a siarad gyda phobl am heddwch," yn gyfraniad gwerthfawr.

"Yn amlwg mae'r mwyafrif o bobl yn credu mewn heddwch, ond bod ni'n gweld e yn broses yn hytrach na'r canlyniad - ei fod yn rhan o'r peth i gyd felly rhannu neges dros gymodi hefyd boed hynny yn y cyfryngau neu wrth sgwrsio gyda chyfoedion hefyd.

"Nid nod yn unig yw heddwch, ond ffordd o weithredu, dylai heddwch fod yn rhan o'r dechrau. Ond mae hwnna'n anodd iawn i'w drafod oherwydd be sy'n digwydd nawr."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig