Covid: Mwy o achosion ond dim effaith ar ofal dwys

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrechuFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y bobl sy'n cael prawf positif am Covid-19 wedi codi, ond mae'r nifer sydd angen gofal dwys ysbyty wedi aros yn sefydlog.

Bu cynnydd yng ngraddfa achosion Covid Cymru dros y 12 diwrnod diwethaf, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ond dim ond cynyddu o 10 i 11 wnaeth cyfartaledd y nifer sydd angen gofal dwys.

Dywedodd Dr Ami Jones, ymgynghorydd gyda bwrdd iechyd Aneurin Bevan bod mwy o staff wedi bod i ffwrdd o'u gwaith gyda Covid.

'Lot ohono mas 'na'

"Mae'r unedau gofal dwys wedi bod yn weddol ddistaw yn nhermau Covid yn ddiweddar, ond dwi wedi sylwi bod llawer o fy nghydweithwyr adre'n sâl," meddai.

"Dwi'n meddwl ei fod o'n effeithio ar y cyhoedd. Dwi'n meddwl bod lot ohono mas 'na."

Mae'r raddfa achosion Covid - sy'n mesur nifer yr heintiadau newydd fesul 100,000 o bobl dros saith diwrnod - wedi cynyddu dros y 12 diwrnod diwethaf, gyda'r ffigwr yn 290.7 ddydd Iau.

Mae hyn wyth gwaith yn is na brig y don yn gynnar fis Ionawr, ond mae gofynion profi wedi newid ers hynny, gyda phobl sydd heb symptomau bellach ddim yn gorfod cymryd profion PCR ar ôl cael prawf llif unffordd positif, sy'n golygu bod y ffigwr hwn yn debygol o fod yn uwch.

Roedd dwywaith cymaint o achosion yn ymwneud â'r is-amrwiolyn Omicron (BA.2) yn yr wythnos ddiwethaf o'i gymharu â'r prif amrywiolyn Omicron (BA.1).

Hwn yw'r amrywiolyn mwyaf amlwg ym mhob rhan o Gymru oni bai am Wynedd a Môn.

Profion Covid-19 positif fesul wythnos yng Nghymru. Cyfanswm y profion positif dros saith diwrnod.  Ers 6 Ionawr dyw'r mwyafrif o bobl sy'n cael prawf LFT positif ddim wedi cael cais i'w gadarnhau gyda PCR.

Bu cynnydd bychan yn nifer y cleifion Covid oedd angen triniaeth ysbyty - i fyny o 21 i 26 y dydd ar gyfartaledd dros yr wythnos ddiwethaf, ond mae tua 80% o gleifion sydd â Covid mewn ysbytai yn cael eu trin am gyflwr arall.

Dyw tri o fyrddau iechyd Cymru heb gael unrhyw gleifion gofal dwys am Covid ers dros wythnos.

Un o'r tri yw Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, sydd wedi bod heb unrhyw gleifion gofal dwys ers wyth diwrnod, tra bod byrddau iechyd Bae Abertawe a Chwm Taf Morgannwg heb gael rhai ers 13 diwrnod.

Mae nifer y bobl sy'n derbyn gofal dwys draean yn is na'r un adeg flwyddyn yn ôl.

Mae Llywodraeth Cymru'n gobeithio diddymu'r cyfyngiadau ar wisgo mygydau a hunan-ynysu erbyn diwedd Mawrth, gyda phrofi am ddim i orffen ym mis Mehefin.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ond dywedodd Dr Jones wrth raglen BBC Radio Wales Breakfast ei bod hi'n credu y dylai pobl barhau i wisgo masgiau a chael profion am ddim.

"Yn bersonol, os ydyn nhw'n tynnu'r cyfyngiadau, byddaf yn parhau i wisgo mwgwd mewn llefydd cyhoeddus dan do," meddai.

"Dwi ddim isio dal Covid, dwi ddim isio gorfod bod i ffwrdd o'm gwaith a ddim yn gallu gwneud fy swydd."

Ychwanegodd bod profion am ddim yn "allweddol" er mwyn rhoi'r gallu i bobl "ymddwyn yn gall".