Cannoedd yn mynychu angladd Dai Jones yn Llanilar

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Angladd Dai Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cynhaliwyd angladd Dai Jones yn Llanilar, lle treuliodd y rhan fwyaf o'i oes

Fe ddaeth cannoedd i angladd y cyflwynydd poblogaidd Dai Jones yn Llanilar brynhawn Sadwrn.

Bu farw wedi gwaeledd ddechrau mis Mawrth yn 78 oed.

Ers ei farwolaeth mae teyrngedau lu wedi'u rhoi iddo - ac yntau yn gyflwynydd poblogaidd ac yn ffermwr o fri.

Ar brynhawn braf o wanwyn cynhaliwyd yr angladd yng Nghapel Carmel, Llanilar, yng ngofal y Parchedig John Gwilym Jones.

Ymhlith y rhai a fu'n rhoi teyrngedau roedd Charles Arch, Huw Tudor a Beti Griffiths, cyfeillion oes iddo.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Dai Jones ei eni yn Llundain ond roedd e wastad yn dweud mai dyn y wlad oedd e

Wrth roi teyrnged iddo ar ddydd ei farwolaeth dywedodd Beti Griffiths, a fu hefyd yn bennaeth Ysgol Gynradd Llanilar, bod Dai yn "gyfathrebwr penigamp" a bod ganddo wastad amser i siarad yng nghanol ei brysurdeb.

"Roedd e'n un o fil," ychwanegodd.

Disgrifiwyd ef gan Huw Tudor fel "ffrind i bawb, gwir Dywysog Cymru a chefn gwlad".

Fel rhan o drefn y gwasanaeth fe gyhoeddwyd Englyn gan y Prifardd Tudur Dylan Jones.

"Dai'r ardal hyd y dalar, - Dai â'i lais

"Hyd y wlad, Dai'r cymar,

"Dai frenin ei werin wâr...

"Llawn o hwyl yw Llanilar."

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth cannoedd i angladd y cyflwynydd poblogaidd Dai Jones yn Llanilar brynhawn Sadwrn

Oes o wasanaeth

Daeth nifer o anrhydeddau i Dai Jones yn ystod ei yrfa, gan gynnwys Gwobr Goffa Syr Bryner Jones am wasanaeth i'r Sioe Frenhinol, yr MBE ac ef oedd Llywydd y Sioe Frenhinol yn 2010 pan oedd Sir Ceredigion yn ei noddi.

Yn 2004 enillodd Dai Jones wobr BAFTA Cymru am ei gyfraniad i ddarlledu yng Nghymru ac yn 1970 yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman fe wnaeth ennill cystadleuaeth y Rhuban Glas ac yntau ond yn 26 oed.

Roedd Dai Jones hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn treialon cŵn defaid rhyngwladol.

Yn Llundain y ganwyd Dai Jones ac fe symudodd i Gymru yn blentyn at berthnasau iddo yn Llangwyryfon, Ceredigion.

Disgrifiad o’r llun,

Dai Jones yn cofio'n ôl dros hanner canrif o ddarlledu mewn digwyddiad ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni

Roedd gan ei rieni, y ddau yn enedigol o Geredigion, fusnes laeth yn ardal Holloway.

Ond doedd y Dai ifanc ddim yn hoff o fywyd y ddinas ac wedi un gwyliau yn Llangwyryfon fe benderfynodd aros gydag ewythr a modryb a pheidio mynd yn ôl i Lundain.

Yn Llanilar y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes.

Mae'n gadael gweddw, Olwen, ac un ma ,John.