Trigolion am geisio cadw hen ysgol i'r gymuned

  • Cyhoeddwyd
Cae Top
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr ocsiwn i fod i gael ei chynnal yr wythnos nesaf

Mae ocsiwn ar gyfer safle hen ysgol gynradd ym Mangor bellach wedi ei gohirio - a hynny wrth i drigolion lleol ddod at ei gilydd i drafod ei droi yn fan cymunedol.

Roedd disgwyl i'r adeiladau ar hen safle Ysgol Cae Top ym Mangor Uchaf, sydd wedi bod yn wag ers dros 12 mlynedd, fynd i arwerthiant agored yr wythnos nesaf.

Ond mae hynny nawr wedi ei ohirio tan 9 Mehefin, gydag asiantaeth dai Williams & Goodwin yn rhoi mwy o gyfle i "farchnata'r safle".

Mae trigolion lleol wedi croesawu hynny, gan ddweud bod cyfle nawr iddyn nhw drafod sut allan nhw roi cynnig at ei gilydd fydd "o fudd i'r gymuned".

Fe symudodd Ysgol Cae Top i adeilad newydd yn 2009, ac ers hynny mae'r hen adeiladau wedi'i adael yn wag, ac wedi dadfeilio a'i fandaleiddio.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r hen ysgol ym Mangor Uchaf wedi cau ers dros 12 mlynedd

Cafwyd cynlluniau gan Gyngor Gwynedd yn 2007 i droi'r adeilad yn gartref preswyl ddim mo'u gwireddu, ac yn ôl y cynghorydd lleol fyddai datblygiad sylweddol o dai neu fflatiau ddim yn addas i'r safle.

"Ymhell cyn i ni glywed fod y safle'n mynd ar werth, mae 'na ddyhead i gael gardd gymunedol ar y safle... fyddai o fudd i'r gymuned," meddai Catrin Wager.

"Mae 'na syniadau hyfryd eraill - bod ni'n cael paneli solar cymunedol, hwb cynaliadwyedd yno efo gweithdy beics.

"Neu bod ni'n edrych ar ddatblygiad tai eitha' bach, fel co-operative housing, fel bod cyfle i bobl fyw bywyd cynaliadwy ym Mangor Uchaf.

"Beth sy'n bryder i drigolion ydi fod 'na drafod a chaniatâd cynllunio yn y gorffennol wedi bod am safle efo dros 30 o unedau byw ynddo fo.

"Dwi'n meddwl bod 'na bryder am hyn achos bod mynediad i'r safle mor ddrwg - 'sa hi'n gallu bod yn anodd iawn cael cerbydau mawr, ambiwlans, loris gwastraff, i safle fatha hwn."

Mae Frances Voelcker yn gallu gweld yr hen ysgol o'i thŷ, ac yn dweud bod angen i eraill yn y gymuned fod yr un mor frwdfrydig dros wneud rhywbeth os oedden nhw am wireddu rhai o'r syniadau.

"Os bysa hi'n bosib i grŵp cymunedol i ffurfio, cytuno ar rywbeth a chael syniadau sy'n hyfyw... 'sa fo'n fantais i bawb, hyd yn oed y perchennog presennol sydd am gael gwared o'r safle achos mae o'n faich ariannol iddyn nhw ar hyn o bryd," meddai.

"Os di'r gymuned ddim am wneud o, does dim gobaith, bydd rhaid i ddatblygwyr brynu o - dwi'n realistig am y posibiliadau.

"Ond mae'n werth ceisio," ychwanegodd.

Yn wreiddiol cafodd y safle, sydd yn bron i acer o faint, ei rhestru ar gyfer ocsiwn ar 24 Mawrth gydag amcan bris o £100,000.

Ond mae perchnogion y tir, Stad Penrhyn, nawr wedi cytuno i ohirio'r arwerthiant hwnnw.

Bydd cyfarfod cyhoeddus dal yn digwydd ym Mangor nos Wener fodd bynnag i drafod y mater - a hynny'n gyfle, meddai Ms Wager, i'r gymuned weld beth fydd y camau nesaf.

"Mae'n rhoi ychydig mwy o amser i ni drafod, ac mae hynny'n grêt," meddai.

"Ond 'sa'n hyfryd gweld rhywbeth fyddai'n dod a budd i'r gymuned yn yr ardal yma."

Pynciau cysylltiedig