Kaylea Louise Titford: Dau yn y llys ar gyhuddiad o ddynladdiad

  • Cyhoeddwyd
Llys Ynadon Y TrallwngFfynhonnell y llun, Google

Mae dau o bobl wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o ddynladdiad merch yn ei harddegau drwy esgeulustod difrifol.

Cafwyd hyd i Kaylea Louise Titford - oedd yn 16 oed - yn farw yn ei chartref yn Y Drenewydd, Powys ym mis Hydref 2020.

Mae Alun Anthony Titford, 44, a Sarah Jane Lloyd-Jones, 39, wedi'u cyhuddo o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol ac o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn neu berson bregus.

Roedd Kaylea Titford yn anabl ac yn byw gyda'r ddau ddiffynnydd.

Ymddangosodd y ddau gyda'i gilydd yn Llys Ynadon Y Trallwng fore Mawrth, ac fe siaradon nhw i gadarnhau eu henwau a dyddiadau geni.

Roedden nhw'n wynebu'r cyhuddiadau'n ffurfiol, sef eu bod wedi lladd Kaylea Titford yn anghyfreithlon rhwng 24 Mawrth 2020 a 11 Hydref 2020 oherwydd esgeulustod difrifol.

Ni ofynnwyd iddyn nhw gyflwyno ple a chafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol i ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 14 Ebrill.