Torri treth ar danwydd a chodi'r trothwy cyn talu Yswiriant Gwladol
- Cyhoeddwyd
Bydd treth ar danwydd yn cael ei dorri o 5c y litr am 12 mis, wrth i Lywodraeth y DU geisio mynd i'r afael â'r cynnydd sylweddol mewn costau byw.
Wrth gyhoeddi ei Ddatganiad y Gwanwyn ddydd Mercher, dywedodd y Canghellor Rishi Sunak hefyd y bydd y trothwy yn codi ar gyfer y swm y mae pobl yn ei ennill cyn talu Yswiriant Gwladol.
"O fis Gorffennaf ymlaen, bydd pobl yn gallu ennill £12,570 y flwyddyn heb dalu'r un geiniog o dreth incwm nac Yswiriant Gwladol," meddai.
"Mae hynny'n doriad treth personol o £6bn i 30 miliwn o bobl ledled y Deyrnas Unedig.
"Toriad treth i weithwyr gwerth dros £330 y flwyddyn."
Ychwanegodd mai hyn oedd y "cynnydd mwyaf erioed mewn trothwy cyfradd sylfaenol, a'r toriad treth personol unigol mwyaf mewn degawd".
Ond cadarnhaodd ei fwriad i fwrw 'mlaen gyda'r cynnydd o 1.25% mewn Yswiriant Gwladol.
Yn y cyfamser, mae disgwyl i dwf economaidd y DU ar gyfer eleni arafu'n aruthrol oherwydd y rhyfel.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd AS Llafur Rachel Reeves, canghellor cysgodol yr wrthblaid, y gallai ac y dylai'r Canghellor fod wedi cael gwared ar y cynnydd mewn Yswiriant Gwladol.
Yn siarad yn Nhŷ'r Cyffredin, beirniadodd Mr Sunak am beidio â rhoi treth ar gwmnïau olew a nwy.
Byddai TAW ar ddeunyddiau arbed ynni - fel paneli solar ac inswleiddio tai - yn cael ei dorri o 5% i 0%, meddai Mr Sunak.
Dywed y grŵp moduro, yr RAC, y bydd torri treth tanwydd o 5c yn tynnu £3.30 oddi ar y gost o lenwi car teulu 55-litr arferol.
Roedd prisiau i lenwi'r car â thanwydd yn codi cyn y rhyfel yn Wcráin - ac mae goresgyniad Rwsia wedi gwaethygu pethau.
Mae rhagfynegydd y llywodraeth yn disgwyl i economi'r DU dyfu 3.8% eleni, ymhell islaw'r rhagolwg blaenorol o 6.5%.
Dywed Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) ei bod yn "rhy gynnar i wybod effaith lawn rhyfel Wcráin" ar y DU.
Dadansoddiad Elliw Gwawr, gohebydd seneddol
I mi'r frawddeg fwyaf trawiadol heddiw yw hwn gan yr OBR: "Mae'r cynnydd mewn chwyddiant i'r lefel uchaf ers 40 mlynedd yn debygol o arwain at y cwymp mwyaf mewn safonau byw mewn unrhyw flwyddyn ers i'r cofnod ddechrau yn 1956/57."
Dyna'r cyd-destun i ddatganiad Rishi Sunak heddiw, a ddywedodd ei fod eisiau helpu pobl gyda chostau byw.
Mi fydd 'na groeso i'r cynnydd yn y trothwy Yswiriant Gwladol, a'r toriad mewn treth tanwydd, ond mae'r hyn sydd dim yn y datganiad yr un mor bwysig.
Doedd dim byd i'r rheiny ar Gredyd Cynhwysol, mae budd-daliadau yn mynd i gynyddu o 3.1% - fawr o help pan mae disgwyl i chwyddiant godi i 8% neu fwy.
Doedd yna ddim cymorth pellach gyda biliau nwy a thrydan chwaith.
Mi fydd yr addewid i dorri treth incwm yn hawlio'r penawdau dwi'n siŵr, ond os 'da ni wedi dysgu unrhyw beth dros y blynyddoedd diwethaf, mae 'na lot all ddigwydd mewn dwy flynedd.
'Diffyg mesurau ymarferol'
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y Canghellor wedi methu pobl sy'n ei chael yn anodd delio gyda chostau cynyddol.
"Mae biliau'n cynyddu'n sydyn ac incwm tafladwy yn gostwng, ond does dim digon yn y datganiad heddiw sy'n cydnabod yr heriau mae nifer yn eu hwynebu," meddai'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans.
"Mae'n ddatganiad ideolegol fydd yn taro pobl ar gyflogau is yn waeth, ac mae diffyg mesurau ymarferol i helpu'r rheiny sydd ei angen fwyaf.
"Does dim byd i'r rheiny sydd methu gweithio a'r rheiny ar incwm is."
Dywedodd AS Plaid Cymru, Ben Lake fod y datganiad yn "cydnabod o'r diwedd fod teuluoedd yn wynebu argyfwng costau byw, ond mae'n siomedig fod y Canghellor wedi methu â chyflwyno mesurau fydd wir yn mynd i'r afael â graddfa'r broblem.
"Mae difrifoldeb yr argyfwng yn galw am newid sylfaenol yn ein ffordd o ddelio ag ef, nid ceisio trwsio strategaeth sy'n methu."
'Dim' i gefn gwlad
Ychwanegodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds fod ardaloedd gwledig "wedi cael dim" o gyhoeddiad y Canghellor.
"Yn amlwg nid yw ASau Ceidwadol o Gymru yn cael unrhyw ddylanwad ar y Canghellor, er bod bron pob un ohonynt yn cynrychioli ardaloedd cefn gwlad," meddai.
Dywedodd fod y gyllideb yn dangos fod Llywodraeth y DU yn "canolbwyntio yn gynyddol ar Lundain a'r de-ddwyrain" yn unig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2022