Gobaith i ddynes o Ben Llŷn wedi siom caniatâd cynllunio
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Ben Llŷn wedi croesawu penderfyniad cynghorwyr Gwynedd i roi caniatâd cynllunio iddi droi hen adfail ar dir y teulu yn gartref ar ôl i swyddogion argymell gwrthod y cais yn mis Ionawr.
Dywed Catrin Williams, 28 o Langwnnadl, ei bod am drosi hen dŷ yn gartref yn ei phentref genedigol - a hynny gan fod y farchnad dai leol mor ddrud.
Dadl y swyddogion dros eu hargymhelliad i wrthod oedd bod y cais yn groes i bolisi am nad oedd modd diffinio'r adeilad yn gyfreithlon fel tŷ gan fod cymaint o amser wedi pasio ers defnydd o'r fath.
Penderfynodd y pwyllgor cynllunio i wrthod argymhelliad y swyddogion, gan roi caniatad cynllunio.
"Da ni'n hynod o ddiolchgar i'r cynghorwyr wnaeth bleidleisio (heddiw) yn unfrydol yn erbyn yr argymhelliad i wrthod caniatâd oherwydd ei fod yn erbyn polisi neu fel arall byddai ddim yn bosib, byddai yna ddim gobaith," meddai Miss Williams
"Ni'n hynod o falch ni wedi cael be' o ni isio sef caniatâd i adeiladu."
Er bod cynghorwyr o blaid rhoi caniatad yn y cyfarfod gwreiddiol, dadl y swyddogion oedd bod angen cael cyfnod o gnoi cil tan 21 Mawrth.
Ond mae yna amod gyda'r caniatad sef amod 106, sy'n dweud byddai'n rhaid i'r tŷ newydd gael ei restru fel tŷ fforddiadwy.
Byddai hynny'n golygu byddai'n rhaid ei werthu am hanner pris y farchnad.
"Mae hynny yn ei gwneud o'n anoddach, o ran cael mortgage. Bydd yn rhaid i ni newid pethau o ran hynny, a bydd hynny yn ddrytach, mae'n siŵr.
"Ond de ni yn hapus o sail y flaenoriaeth, sef cael y caniatad."
Prisiau nwyddau
Er bod y tŷ ym mhentref Llangwnnadl wedi bod yn wag ers dros hanner canrif ac yn fwy o adfail erbyn hyn, gobaith Miss Williams yw gwneud cymaint o ddefnydd â phosib o'r waliau presennol.
"Y gwaith cyntaf fydd clirio'r safle. Wedyn bydd yn rhaid mynd ati i drefnu sut i fynd yn ein blaenau.
"Hefyd bydd hi'n syniad o bosib i aros, gan fod prisiau nwyddau mor uchel ar hyn o bryd i weld os wnawn nhw ostwng."
Mae'r adeilad wedi'i leoli ar dir sy'n eiddo i'r teulu a heb fod ymhell o'i chartref.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mewn cyfarfod o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd penderfynodd aelodau i ganiatáu cais gydag amodau i drosi adeilad allanol i ddarparu annedd fforddiadwy, ynghyd ag addasiadau i'r fynedfa gerbydol bresennol, gosod gwaith trin pecyn a gwaith cysylltiedig yn Caerau, Llangwnnadl.
"Gan fod aelodau wedi argymell cymeradwyo'r cais mewn cyfarfod blaenorol (10/1/22), a hynny yn groes i argymhelliad swyddogion, roedd y cais wedi ei gyfeirio i gyfnod cnoi cil er mwyn rhoi cyfle i'r pwyllgor ystyried goblygiadau'r penderfyniad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd10 Medi 2020