Mwangi: 'Siawns 80% o fyw gyda thriniaeth ysbyty'

  • Cyhoeddwyd
Logan Mwangi
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Logan Mwangi fis Gorffennaf y llynedd

Mae llys wedi clywed y byddai gan fachgen siawns 80% o oroesi anafiadau trawmatig pe bai wedi ei gludo i'r ysbyty heb oedi.

Cafwyd hyd i gorff Logan Mwangi yn Afon Ogwr ger ei gartref yn ardal Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr fis Gorffennaf y llynedd.

Mae Llys y Goron Caerdydd wedi clywed eisoes bod ganddo 56 o anafiadau allanol, a niwed mewnol difrifol i'w abdomen.

Mae mam Logan, Angharad Williamson sy'n 31, ei lystad John Cole, 40, a bachgen 14 oed na ellir ei enwi yn gwadu llofruddiaeth.

Dywedodd y pediatregydd Dr Deborah Stalker wrth y rheithgor bod cyfraddau marwolaeth ymhlith plant ag anafiadau tebyg i'r coluddyn a'r afu oddeutu 20%.

Petai Logan wedi cael ei gludo i'r ysbyty, meddai, fe "allai fod wedi goroesi" yn dilyn triniaeth effeithiol a buan.

'Sefyllfa beryglus'

Dywedodd fod y rhwyg i afu Logan "yn wir yn eithaf prin o ran anaf damweiniol ond yn fwy cyffredin o lawer o ran niwed yn sgil camdriniaeth".

Awgrymodd y gallai'r afu fod wedi gwasgu'n erbyn asgwrn y cefn yn sgil rhyw fath o ymosodiad fel "dyrnu, ciciau neu stampio ar yr abdomen".

Bu'n rhaid atal clywed tystiolaeth am hanner awr wedi i aelod o'r rheithgor amlygu gofid wrth glywed am effaith anafiadau Logan. 

Eglurodd Dr Stalker y byddai Logan wedi colli o leiaf 20% o'i waed oherwydd ei anafiadau a fyddai wedi achosi "sioc waedlifol". Fe fyddai dwylo a thraed Logan wedi oeri'n eithriadol a'r bachgen wedi gwelwi'n gyffredinol.  

Dywedodd bod hynny'n "sefyllfa beryglus" ac fe fyddai'n "amlwg bod plentyn yn ddifrifol wael".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Williamson a John Cole yn gwadu llofruddiaeth Logan Mwangi

Ychwanegodd y byddai holl anafiadau Logan, gan gynnwys cleisio helaeth, wedi bod yn "boenus iawn", a bod anafiadau tebyg i'r abdomen mewn plant fel arfer yn cael eu trin gyda morffin.  

Clywodd y llys bod cleisiau i'r llygad yn anarferol mewn anafiadau damweiniol. Roedd gan Logan gleisiau o gwmpas ei ddau lygad, gan gynnwys un 6.5cm o hyd o amgylch ei lygad chwith.

Dywedodd Dr Salter bod y cleisio hwnnw "yn wir yn eithaf helaeth" a bod yr "eglurhad bod tegan wedi bownsio oddi ar ei lygad yn annigonol i esbonio maint y cleisio".

Tystiolaeth cyd-garcharor

Clywodd y llys dystiolaeth hefyd gan ddynes a fu yn y carchar yr un pryd ag Angharad Williamson wrth iddi aros am yr achos llys.

Dywedodd Joanne Brooks iddi ddod i adnabod y diffynnydd oherwydd bod y ddwy ar ddyletswyddau glanhau yng ngharchar Eastwood Park yn sir Gaerloyw.

Yn ôl Joanne Brooks roedd Ms Williamson yn mwynhau ei statws wrth gael ei chyfeirio at fel mam "y babi o Ben-y-bont".

"Roedd o fel pe bai hi am gael sylw. Roedd hi'n falch o'r sylw drwg oedd yn cael o fod yn fam i'r babi o Ben-y-bont," meddai yn ei thystiolaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Logan ei ganfod yn Afon Ogwr ar 31 Gorffennaf 2021

Dywedodd fod Angharad Williamson wedi adrodd tair stori wahanol am yr hyn ddigwyddodd.

Ar un achlysur dywedodd fod Logan wedi cael ei guro gan John Cole, yn yr ail fersiwn dywedodd fod Logan wedi syrthio a tharo ei ben, ac y trydydd tro "doedd ganddi ddim syniad o'r hyn ddigwyddodd oherwydd ei bod yn ei hystafell yn gwrando ar gerddoriaeth uchel".

Clywodd y llys hefyd dystiolaeth am y noson gafodd Angharad Williamson ei chyhuddo o lofruddiaeth, pan oedd hi yn y carchar.

"Roedd hi yn eistedd ar ei gwely yn gwylio 'Married At First Sight Australia', yn bwyta byrbrydiau ac yn chwerthin ar y sgrin.

"O'r hyn o'n i'n gallu ei weld, pe bai un o swyddogion yn dod i'w gweld, byddai'n dechrau crio a byddai hynny yn stopio'r un mor fuan a wnaeth ddechrau unwaith i'r swyddog adael," meddai Joanne Brooks.

Y cyhuddiadau

Mae'r tri diffynnydd yn gwadu llofruddiaeth.

Maen nhw hefyd wedi eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder, gan gynnwys symud corff Logan i'r afon ger Parc Pandy, tynnu ei ddillad, golchi dillad gwely â lliw gwaed, a gwneud adroddiad person coll ffug i'r heddlu. John Cole yw'r unig un o'r tri sydd wedi pledio'n euog i'r cyhuddiad hwnnw.

Mae'r ddau oedolyn hefyd wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig