Logan Mwangi yn cael ei 'ddisgyblu yn ei gartref'

  • Cyhoeddwyd
Logan Mwangi
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Logan ei ganfod yn Afon Ogwr ar 31 Gorffennaf 2021

Mae llys wedi clywed bod bachgen pump oed gafodd ei ganfod yn farw mewn afon wedi ei orfodi i sefyll ar ris gyda'i ddwylo ar y banister pe bai'n camymddwyn.

Cafwyd hyd i Logan Mwangi yn farw mewn afon ym Mharc Pandy, ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr, yn gynnar ar fore 31 Gorffennaf y llynedd.

Mae ei fam Angharad Williamson, 30, a'i phartner John Cole, 40, ynghyd â llanc 14 oed na ellir ei enwi yn gwadu ei lofruddio.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd gan ffrind i John Cole, Callum Williams, a ddisgrifiodd weld Logan yn cael ei ddisgyblu yn y tŷ.

Dywedodd Mr Williams y byddai John Cole ac Angharad Williamson yn ceisio siarad â Logan pe bai'n camymddwyn, ond y byddan nhw wedyn yn gwneud iddo sefyll ar y grisiau "gyda'i ddwylo ar y banister", gan syllu ar y wal am 30 munud bob tro.

Clywodd y llys hefyd nad oedd Logan wedi cael bwyd tecawê Tsieineaidd oherwydd ei fod wedi camymddwyn, ac yn lle hynny rhoddwyd grawnfwyd iddo.

Logan yn 'hapus' ddyddiau cyn ei farwolaeth

Dywedodd Mr Williams iddo weld Logan ar alwad fideo ar 27 Gorffennaf 2021 a dywedodd ei fod yn "hapus a llawen iawn" a'i fod yn lliwio llun o gae a blodau.

Mae'r tri diffynnydd wedi'u cyhuddo o lofruddio'r llanc rhwng 28 Gorffennaf a 1 Awst.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Williamson a John Cole yn gwadu llofruddiaeth Logan Mwangi

Clywodd y llys fod Logan wedi cael ei gludo i adrannau damweiniau ac achosion brys yn flaenorol oherwydd anaf i'w fraich neu ysgwydd ar ôl iddo ddisgyn i lawr y grisiau.

Dywedwyd wrth y rheithgor fod staff ysbytai wedi cyfeirio'r mater at y gwasanaethau cymdeithasol oherwydd pryderon am oedi wrth adrodd am yr anaf, a bod Angharad Williamson wedi "ceisio rhoi'r anaf yn ôl yn ei le".

'Bachgen disglair iawn'

Clywodd y llys hefyd gan athrawes feithrin Logan, Catherine Richards, a ddywedodd y byddai Logan "yn goleuo'r ystafell ddosbarth gyda'i wên".

Roedd yn "fachgen bach disglair iawn", meddai, un na fu erioed yn unrhyw drafferth.

Dywedodd fod yna achlysur pan welodd hi Logan gyda chlais ar ei wyneb.

Roedd hi'n cofio Logan yn dweud ei fod wedi "procio'i hun" yn yr ysgol, ond dywedodd fod Angharad Williamson wedi dweud wrthi fod Logan wedi cael ei daro gan 'nerf gun' wrth chwarae gyda John Cole.

Clywodd y llys fod yna ddigwyddiad arall pan oedd Logan wedi baeddu ei hun yn yr ysgol.

Dywedodd Catherine Richards fod Logan "yn gofidio'n fawr am hynny ac nad oedd eisiau i ei fam wybod".

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Logan ei ganfod yn Afon Ogwr ger ei gartref ym mhentref Sarn

Cafwyd hyd i gorff Logan Mwangi yn Afon Ogwr yn Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr, fis Gorffennaf diwethaf gyda 56 o anafiadau "trychinebus", clywodd y llys.

Clywodd y llys fod ei anafiadau yn gyson â chwymp o uchder mawr neu ddamwain car.

Mae mam Logan, Angharad Williamson, 30, llys-dad, John Cole, 40, y ddau o Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr, a bachgen 14 oed, na ellir ei enwi, i gyd yn gwadu llofruddiaeth.

Cafodd y tri hefyd eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder, gan gynnwys symud corff Logan i'r afon ger Parc Pandy, tynnu ei ddillad, golchi dillad gwely â lliw gwaed, a gwneud adroddiad person coll ffug i'r heddlu.

Plediodd Ms Williamson a'r llanc yn ddieuog i'r ddau drosedd, tra cyfaddefodd Cole iddo wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafodd y ddau oedolyn eu cyhuddo hefyd o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, ac mae'r ddau yn gwadu hynny.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig