Ffermwyr yn colli her gyfreithiol dros reolau llygredd

  • Cyhoeddwyd
Gwasgaru slyriFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gofyn i ffermwyr allu storio hyd at bum mis o slyri dan y rheolau newydd

Mae ffermwyr wedi colli her gyfreithiol yn erbyn rheolau llymach ar wasgaru slyri a gwrtaith.

Penderfynodd barnwr yn yr Uchel Lys nad oedd gweinidogion wedi mynd yn groes i'r gyfraith wrth gyflwyno'r rheoliadau er mwyn atal llygredd afon.

Dywedodd undeb NFU Cymru ei fod yn siomedig, gan alw am ragor o gymorth ariannol i helpu ffermwyr ymdopi â'r newidiadau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r dyfarniad gan ddweud ei fod yn "caniatáu i ni barhau gyda'r gwaith pwysig" o dargedu gweithgareddau sy'n achosi llygredd.

Fe ddechreuodd y rheolau gael eu cyflwyno'n raddol o fis Ebrill 2021, gan olygu bod ffermwyr yn wynebu mwy o waith papur a'r angen i sicrhau bod ganddyn nhw'r gallu i storio gwerth hyd at bum mis o slyri.

Maes o law fe fydd yna waharddiad dri mis o hyd ar wasgaru slyri dros gyfnod y gaeaf, er mwyn ei atal rhag redeg i nentydd yn ystod tywydd gwlyb.

Mae pysgotwyr a grwpiau amgylcheddol wedi galw ers tro am gyfyngiadau llymach a fyddai'n cynnwys Cymru gyfan, ond mae undebau amaeth wedi rhybuddio nad ydyn nhw'n ymarferol ac y gallai'r rheolau beryglu dyfodol sawl busnes.

Teuluoedd 'yn gadael y diwydiant'

Mynnodd llywydd NFU Cymru, Aled Jones, nad oedd her gyfreithiol yr undeb yn ymdrech i "anwybyddu achosion o lygredd amaethyddol na cheisio lleihau'r mesurau sydd yn eu lle i warchod yr amgylchedd".

Dywedodd: "Dwi'n gobeithio y bydd y dadleuon gafodd eu codi yn ystod yr achos yn helpu Llywodraeth Cymru sylweddoli'r effaith y bydd y rheoliadau yma yn eu cael ar ffermydd Cymru."

Mae asesiad y llywodraeth ei hun o'r costau fydd ynghlwm ag uwchraddio isadeiledd ffermydd yn cyrraedd hyd at £360m, meddai, gan ddisgrifio'r pecyn o gymorth sydd wedi'i gynnig i helpu'r diwydiant hyd yma fel un sy'n "drallodus o anaddas".

"Yn anffodus ry'm ni'n barod yn clywed am deuluoedd sy'n gadael y diwydiant o ganlyniad i'r rheoliadau," meddai.

Ffynhonnell y llun, Steffan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y rheolau'n mynd i'r afael ag achosion o lygru afonydd sy'n lladd pysgod a bywyd gwyllt

Mae'r broses o gyflwyno'r rheolau yma - sy'n cael eu hadnabod gan ffermwyr fel NVZs - wedi bod yn un o'r pynciau mwyaf dadleuol ym myd amaeth yng Nghymru ers blynyddoedd, gyda'r ymgynghoriad cyntaf yn cael ei gynnal yn 2016.

Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau bod yn rhaid iddi weithredu gan bod tri achos o lygredd amaethyddol yn cael eu cofnodi bod wythnos ar gyfartaledd, gan ladd pysgod a bywyd gwyllt a pheryglu iechyd y cyhoedd hefyd.

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi disgrifio'r sefyllfa fel un sy'n achosi "embaras" i Gymru.

'Cydweithio sy'n cyfri nawr'

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth brynhawn Mercher eu bod yn croesawu'r dyfarniad ac am barhau i weithio gyda phartneriaid o fewn y diwydiant i leihau effaith llygru amaethyddol.

"Yr hyn sy'n cyfri nawr yw ein bod ni gyd yn cydweithio i fynd i'r afael â'r llygredd sy'n parhau yn ein dyfroedd a chefnogi ein diwydiant amaeth.

"Byddwn yn gweithio gyda'r gymuned amaethyddol i wella ansawdd dŵr ac ansawdd awyr, gan ddefnyddio Rheoliadau Adnoddau Dŵr 2021, gan dargedu'r gweithgareddau hynny y gwyddwn sy'n achosi llygredd.

"Mae dyfarniad heddiw'n caniatáu i ni barhau gyda'r gwaith pwysig yma."