Gwylnos er cof am seiciatrydd a gafodd ei lofruddio

  • Cyhoeddwyd
Gwylnos Dr Gary Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymgasglodd cannoedd o bobl ger Amgueddfa Cymru i gofio'r Dr Gary Jenkins

Cafodd gwylnos ei chynnal yng Nghaerdydd brynhawn Sul i gofio seiciatrydd a gafodd ei lofruddio mewn ymosodiad homoffobig yn un o barciau'r ddinas.

Bu farw Dr Gary Jenkins 16 o ddiwrnodau ar ôl cael ei adael i farw ym Mharc Bute fis Gorffennaf y llynedd.

Fe ddyfarnodd rheithgor yn Llys Y Goron Merthyr Tudful ddydd Iau bod tri diffynnydd - dau ddyn a merch oedd yn 16 oed adeg yr ymosodiad - yn euog o lofruddiaeth.

Bydd Lee Strickland, 36, Jason Edwards, 25, a Dionne Timms-Williams, 17, yn cael eu dedfrydu ar 25 Mawrth.

Fe ddaeth pobl oedd yn nabod ac yn gweithio gyda Dr Jenkins ynghyd tu allan i Amgueddfa Cymru, ynghyd ag aelodau'r gymuned LGBTQ+.

Roedd yna funud o dawelwch yn ystod y digwyddiad, ac mewn lleoliadau eraill ar draws y ddinas.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dr Gary Jenkins yn dad i ddwy ferch ac yn seiciatrydd uchel ei barch

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd blodau a chanhwyllau eu gosod ar risiau'r amgueddfa er cof am Dr Gary Jenkins

Cyn y digwyddiad, dywedodd un o drefnwyr yr wylnos, Yan White ei fod yn gyfle "i bobl ddod at ei gilydd i ddangos parch ac i gofio bywyd Dr Gary Jenkins".

Ychwanegodd: "Rydym yn gobeithio y bydd pobl oedd yn nabod Gary yn teimlo'n ddigon cyffyrddus i ddod a rhannu atgofion ohono oherwydd mae'n swnio fel cymeriad a hanner ac yn berson gwirioneddol rhyfeddol."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr wylnos yn gyfle i ddangos parch a rhannu atgofion, medd un o'r trefnwyr Yan White

'Pethau'n bell o fod yn iawn'

Yn sgil yr achos llys, mae ymgyrchwyr ac aelodau'r gymuned LGBTQ+ wedi datgan bod ymosodiadau corfforol a geiriol yn parhau i ddigwydd yn rhy aml.

Un o fwriadau'r wylnos oedd dangos undod yn erbyn rhagfarnau.

"Fel aelod o'r gymuned, rwy'n gweld ac yn clywed straeon," meddai Yan White, "nid o reidrwydd ar yr un raddfa [ag achos Dr Jenkins] ond yn sicr achosion o gam-drin corfforol a geiriol o wythnos i wythnos.

"Dydy e ddim yn rhywbeth sydd wedi diflannu o fewn cymdeithas. Rwy'n meddwl bod llawer o bobol yn meddwl hynny oherwydd mae yna enfysau ymhob man ym mis Mehefin [mis traddodiadol dathliadau Pride].

"Ond mae pethau'n bell o fod yn iawn ac mae gan gymdeithas ffordd bell eto i fynd."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dafydd Wyn Orritt a aeth i'r wylnos, fe ddangosodd y digwyddiad pa mor gryf yw'r undod o fewn cymuned hoyw'r brifddinas

Yn ddyn hoyw ei hun, dywedodd Dafydd Wyn Orritt, 22, oedd yn yr wylnos wrth raglen Newyddion S4C ei fod yn teimlo'i bod hi'n "bwysig [iddo] ddangos parch" a "thalu teyrnged" i Dr Gary Jenkins.

"Mae'r wylnos wedi arddangos pa mor gryf ydy'r undod a'r cariad o fewn y gymuned hoyw yma yng Nghaerdydd," ychwanegodd.

"Mae o hefyd di dangos bod y gymuned yma yng Nghaerdydd ddim yn mynd i ganiatáu unrhyw fath o homoffobia o fewn ein dinas ni."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sarah Jones bod gwrando ar bobl yn siarad am Dr Gary Jenkins yn "bwysig iawn".

Dywedodd Y Parchedig Sarah Jones o Eglwys Sant Ioan yng nghanol y ddinas bod y "digwyddiad wedi ei drefnu'n hyfryd" ac yn "wahoddiad i'r gymuned i sefyll, siarad a bod ynghyd".

"Mae llawer o'r gymuned LGBT yn teimlo, gadewch i ni ddweud, ychydig yn ofnus ar brydiau. Dw i'n meddwl bod hyn wedi dod â ni ynghyd.

"Do'n i ddim yn adnabod Gary, ond roedd y bobl a siaradodd amdano, ro'ch chi'n gallu teimlo pa mor arbennig oedd e fel person a dw i'n meddwl bod hynny'n bwysig iawn achos nid dim ond digwyddiad oedd e, roedd e'n fod dynol go iawn."

'Rhy gyffredin o lawer'

Mewn cyfweliad ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales ar drothwy'r wylnos, dywedodd AS Llafur De Caerdydd a Phenarth, Steven Doughty bod cymdeithas "yn mynd am yn ôl", a'i fod yntau wedi dioddef bob math o ymosodiadau homoffobig.

Ffynhonnell y llun, Tŷ'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr Aelod Seneddol Steven Doughty ei fod wedi dioddef ymosodiadau homoffobig corfforol a geiriol ac wedi cael ei sarhau ar-lein

Mae ystadegau'r Swyddfa Gartref yn dangos bod nifer troseddau casineb ar sail rhywioldeb wedi dyblu mewn pedair blynedd.

"Rydym hefyd wedi gweld troseddau'n dyblu yn erbyn pobl o'r gymuned trans," meddai Mr Doughty.

"Rwyf innau yn sicr wedi cael profiad personol o hynny... mi wn bod llawer o aelodau eraill o'r gymuned yng Nghaerdydd, Cymru, ar draws y DU wedi cael profiadau o hynny yn ddiweddar."

Dywedodd Mr Doughty, sy'n is-gadeirydd grŵp hawliau LGBT+ trawsbleidiol yn San Steffan, ei fod wedi dioddef ymosodiad homoffobig corfforol "yng ngolau dydd" ac ar-lein.

"Mae'n rhestr eitha' hir, yn anffodus, ac mae nifer go lew ohonom yn gwrthod trafod y pethau hyn yn gyhoeddus oherwydd, yn amlwg, maen nhw'n annymunol iawn, ond maen nhw'n rhy gyffredin o lawer, mae arna'i ofn."