Gogledd Cymru i weld cynnydd mwyaf y DU am drydan
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i'r tâl sefydlog ar filiau trydan amrywio rhwng ardaloedd yn y DU pan fydd y cap ynni'n cynyddu ddydd Gwener.
Bydd tâl sefydlog yn dyblu i gwsmeriaid yng ngogledd Cymru, gan gynyddu o 23c y diwrnod i 45c - neu 102%.
Yn ne Cymru, bydd cynnydd o 94%, i 46c y dydd.
Bydd hynny'n ychwanegu mwy na £80 i'r bil trydan blynyddol.
Ond, yn Llundain, fydd y cynnydd ddim mwy na £30.
Dywedodd y corff sy'n rheoleiddio'r diwydiant ynni, Ofgem, eu bod yn cydnabod ei fod yn "gyfnod heriol" ond bod cynlluniau ar waith i gefnogi cwsmeriaid sy'n ei chael hi'n anodd.
Taliad dyddiol sy'n cynnwys costau cyflenwi yw tâl sefydlog - ac mae'r swm yn aros yn gyson o ddydd i ddydd.
Mae'r taliad yn arfer amrywio rhwng cartrefi beth bynnag oherwydd costau gwahanol i gyflenwi tai mewn ardaloedd gwledig, er enghraifft.
Ond, mae ymchwil gan y BBC yn dangos bod y cynnydd y gwanwyn hwn yn anghymesur mewn gwahanol ardaloedd o'r DU.
Dywedodd dadansoddwyr wrth y BBC bod cyflenwyr lleol yn cynyddu'r tâl sefydlog i'w lefel uchaf posib ym mhob rhanbarth, sy'n golygu cynnydd mwy mewn ambell ardal.
'Ystyried rhywle arall i fyw'
Un o'r ardaloedd fydd yn gweld cynnydd uwch yw Llan Ffestiniog yng Ngwynedd.
Mae Amanda Brown, sydd yn fam i ddau o blant eisoes yn talu dros £300 y mis am drydan. Dywedodd fod y cynnydd uwch yn "annheg" ac mae'n bosib y bydd yn rhaid iddyn nhw chwilio am rywle arall i fyw.
"Bydd o'n ofnadwy i ni yn de… ni'n talu cyn gymaint yn barod de ni 'efo electric heating - electric ydy bob dim yn tŷ ni basically," eglurodd.
"'Efo £80 yn mynd i fyny mae o'n mynd i effeithio ni lot a dim ond gweithio yn rhan amser ydw i - mae'r gŵr yn full time a geno ni ddau o blant.
"Dydy o ddim yn deg. Bydd cyflog fi i gyd yn mynd i dalu'r 'letric. Os de ni ddim yn gallu fforddio fo bydd yn rhaid i ni edrych am rhywle arall i fyw.
"Dwi'n poeni am y dyfodol. Dydy hi ddim yn hawdd cael tŷ yn Blaenau... mae'r rhent yn mynd i fyny hefyd."
Un arall sy'n poeni ydy Wendy Roberts. Dywedodd y bydd yn rhaid cynilo'n ofalus.
"'Den ni'n mynd i weld gwahaniaeth mawr yn trydan ac yn y ffordd da ni'n byw… 'den ni'n gorfod cynilo a bod yn fwy gofalus o ran be' da ni'n iwsio fel egni.
"Dwi'n ffodus, mae'n plant ni wedi tyfu i fyny ond mae gennai bechod mawr dros bobl 'efo teuluoedd neu bobl di-waith - sut mae'r cre'duriaid yne yn mynd i allu fforddio… mae'n mynd i gymryd dewisiadau ofnadwy," dywedodd.
Ergyd arall yw'r cynnydd yn ôl un arall o'r trigolion, Rhydian Morgan.
"Mae'n glec arall yn ariannol i bobl mewn amseroedd hynod o anodd y dyddia' yma," dywedodd.
"Yn anffodus felly mae'r byd yn mynd."
'Cyfnod heriol'
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y corff sy'n rheoleiddio'r diwydiant ynni, Ofgem, mai'r flaenoriaeth yw cael pris teg i gwsmeriaid.
"Ein prif flaenoriaeth yw gwarchod prynwyr gan gynnwys sicrhau fod cwsmeriaid yn talu pris teg.
"Ry'n ni'n gwybod ei bod hi'n gyfnod heriol.
"Gallai cwsmeriaid sy'n talu am ynni fod yn gymwys ar gyfer help ychwanegol fel cynlluniau ad-dalu dyled, credyd brys ar gyfer cwsmeriaid â mesurydd rhagdalu... a chynlluniau fel y Taliad Tanwydd Gaeaf neu ad-daliad Gostyngiad Cartref Cynnes."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2022