Hermon: 'Rhwygo' baneri Wcráin yn 'warthus', medd pentrefwyr
- Cyhoeddwyd
Mae pobl o bentref gwledig yn Sir Benfro wedi mynegi eu sioc ar ôl i faneri Wcráin gael eu rhwygo i lawr.
Cafodd nodyn ei adael gyda'r geiriau "NAZI sympathiser" ar faner hefyd ym mhentref Hermon.
Prynwyd y fflagiau i godi arian i bobl oedd yn byw trwy'r rhyfel yn Wcráin.
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cael gwybod am y digwyddiad.
Cafodd baner Sue Warfield ei "rwygo i lawr", ac mae'n dweud bod hynny wedi ei "gwylltio".
Mae hi bellach wedi prynu baner newydd a fydd yn cymryd lle'r hen un.
Dywedodd Ann Howells, sy'n byw yn yr ardal, ei fod yn sioc i'r gymuned gan "nad ydych chi'n disgwyl i rywbeth fel hyn ddigwydd yn Hermon".
"Doedd hyn [prynu'r fflagiau] ddim yn wleidyddol, dim ond ymdrech i godi arian," meddai'r cynghorydd lleol, Cris Tomos.
"Mae'n gymaint o drueni. Mae pobl leol wedi dweud ei fod yn beth gwarthus i'w wneud ac mae pawb yn ddigalon.
"Mae gennym ni sgwrs grŵp pentref gyda tua 90 o bobl arno ac mae pawb yn grac iawn am y peth."
Mae Cris Tomos yn ymgeisydd Plaid Cymru yn yr etholiadau cyngor lleol ar gyfer ward Crymych a Mynachlog Ddu.
Mae gan ymgeiswyr hyd at 5 Ebrill i gyflwyno eu henwebiadau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2022