Dangos ffilm am ferch fu farw mewn damwain mewn ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Olivia AlkirFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Olivia Alkir ei lladd wrth i ddau ffrind ysgol rasio ei gilydd yn eu ceir

Bydd ffilm emosiynol am ferch o Sir Ddinbych gafodd ei lladd mewn damwain car yn cael ei dangos mewn ysgolion drwy Gymru.

Mae Olivia's Story, ffilm 10 munud o hyd, yn cofio am Olivia Alkir, oedd yn 17 oed o Efenechtyd, ger Rhuthun.

Fis Mehefin 2019 bu farw Olivia mewn gwrthdrawiad wrth i ddau ffrind ysgol rasio ei gilydd rhwng Clawddnewydd a Rhuthun.

Dywedodd ei mam, Jo, wrth BBC Cymru yn lansiad y ffilm bod "ei stori hi am achub bywydau, a dyna dy'n ni eisiau".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd rhieni Olivia, Jo a Masut Alkir, fod "ei stori hi am achub bywydau"

Cafodd y ddau lanc oedd yn rasio ei gilydd - Edward Bell, a basiodd ei brawf gyrru ddiwrnod ynghynt, a Thomas Quick - eu carcharu am bum mlynedd yn 2020 ar ôl pledio'n euog i achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Roedd Bell a Quick yn rasio ar y B5105 pan wnaeth car Bell, oedd yn teithio ar 80mya, daro Mercedes oedd yn teithio i'r cyfeiriad arall.

Bu farw Olivia, oedd yn deithiwr yng nghar Bell ac yn sgrechian arno i arafu, yn y fan a'r lle.

Cafodd dwy ferch arall oedd yn deithwyr eu hanafu'n ddifrifol hefyd, yn ogystal â gyrrwr a theithiwr yn y Mercedes.

Mae'r ffilm yn dangos lluniau dash-cam o'r ceir oedd yn rasio a recordiadau byw o safle'r ddamwain, gan gynnwys llais Jo Alkir, mam Olivia yn erfyn ar ei merch i fyw.

Disgrifiad o’r llun,

Gobaith yr heddlu ydy y bydd Olivia's Story yn cael ei dangos ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru

Gobaith y ffilm gan Heddlu Gogledd Cymru, gafodd ei dangos gyntaf yng Nghyffordd Llandudno ddydd Mawrth, ydy gwneud i bobl ifanc sylweddoli canlyniadau posib gyrru yn anghyfrifol.

"Roedd Olivia yn mynd i gyflawni rhywbeth mewn bywyd. Mae ei stori hi am achub bywydau, a dyna dy'n ni eisiau," meddai ei mam Jo Alkir yn lansiad y ffilm.

"Roeddwn i'n arfer dweud wrthi fod bechgyn yn lladd merched mewn ceir pob blwyddyn - paid bod yn un ohonyn nhw - ond fe aeth hi i mewn i'r car.

"Pe bai wedi gyrru'n ddiogel fe fydden nhw i gyd adref yn ddiogel ac yn iach rŵan, ond fe benderfynodd ei fod am rasio."

Mae'r teulu wedi gweithio gyda'r heddlu ar y ffilm, sy'n cynnwys fideo o'r gwasanaethau brys a theulu Olivia yn cyrraedd y digwyddiad.

"Mae 'na ddarn lle dwi'n cyrraedd y ddamwain - mae'n fyw yn fy nghof - ac yn gweld fy merch yn farw ar ochr y ffordd, heb wybod ei bod hi wedi marw," meddai Mrs Alkir.

"Dydyn ni ddim eisiau i unrhyw un arall fynd trwy hyn. Fe fyddwn ni'n parhau. Fe fyddwn ni'n helpu."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae o'n bwysig iawn bod y neges yn cael ei basio i bawb," meddai PC Llinos Owain

Llinos Owain, swyddog heddlu cymunedol Ysgol Brynhyfryd, lle'r oedd Olivia yn ddirprwy brif ddisgybl, gafodd y syniad o greu'r ffilm.

"Y diwrnod ar ôl y ddamwain o'n i yn yr ysgol a nes i weld yr holl emosiwn oedd yn ymwneud efo'r ddamwain a'r effaith ar bawb - plant, athrawon a'r gymuned.

"Felly o'n i'n meddwl 'dydi hyn ddim yn iawn, mae angen i rywbeth ddigwydd', a dyna pryd ges i'r syniad i wneud gwers newydd ynglŷn â pheryglon ar y ffordd, a dyna sut 'naeth o gychwyn.

"Fel plismones yn byw yn y gymuned, ac fel mam, mae o'n bwysig iawn bod y neges yn cael ei basio i bawb.

"Be fydd yn digwydd rŵan ydy y byddan ni'n delifro'r wers yma i blant blwyddyn 11 a chweched dosbarth, gobeithio i bob ysgol uwchradd yng Nghymru o fis Medi ymlaen.

"'Da ni'n andros o keen i'w ddelifro fo i ffermwyr ifanc, clybiau, unrhyw un. Os wnewch chi gysylltu efo'r heddlu mi wnawn ni sicrhau ein bod ni'n gallu gwneud hynny."