Hynt a helynt ar lwyfannau cerddoriaeth Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Ticedi a phosteri gigs CaerdyddFfynhonnell y llun, Hanes Miwsig Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Tocynnau a phosteri rhai o'r cewri sydd wedi perfformio yng Nghaerdydd yn y gorffennol

Mae Gŵyl BBC 6 Music wedi cyrraedd Caerdydd a dros y penwythnos bydd rhai o fandiau ac artistiaid mwyaf y byd yn perfformio ar draws y brifddinas.

Bydd enwau fel Pixies, Khruangbin, Little Simz, Father John Misty, IDLES a Johnny Marr yn chwarae i dorfeydd sydd wedi gwneud eu ffordd yma o bob rhan o Brydain.

Mae Caerdydd wedi denu mawrion y byd cerddorol erioed. Wyddoch chi fod The Beatles, Nina Simone, Buddy Holly, The Beach Boys a Dusty Springfield wedi bod yno?

Mae'r ddinas wedi cael ei siâr o helyntion hefyd wrth i fandiau deithio yma o bob cornel o'r byd yn aml yn rhan o daith. Glywoch chi am ffeit The Kinks ar lwyfan y Capitol? Be am power-cut gig Led Zeppelin?

Diolch i archif Hanes Miwsig Caerdydd, sy'n cael ei redeg gan y cyn llyfrgellydd David Taylor, mae'r hanesion hyn i gyd ar gofnod mewn lluniau, hen bosteri, tocynnau a phapurau newydd. Mae Cymru Fyw wedi cael y pleser o bori drwy'r deunydd am rai o'r chwedlau.

Ffynhonnell y llun, Hanes Miwsig Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Ar ei dudalen Facebook mae David Taylor yn cadw cofnod o ddigwyddiadau cerddorol Caerdydd sydd bellach yn hen hanes. Mae'n le i bobl rannu atgofion a hel straeon am fandiau lleol a byd enwog sydd wedi chwarae yn y ddinas

Cythrwfl ar lwyfan y Capitol

Ar ôl cipio'r safle gyntaf oddi ar The Beatles yn y siartiau ar ddechrau 1965 gyda'u sengl You Really Got Me cyrhaeddodd y brodyr Davies yng Nghaerdydd yn hogiau ifanc wedi cael blas ar rywbeth tebyg i Beatlemania.

Ond er llwyddiant ysgubol The Kinks y flwyddyn honno yn teithio Awstralia a Seland Newydd bron iawn i'r grŵp ddod i ben, a hynny ar lwyfan The Capitol.

Ar ôl gorffen canu You Really Got Me fe giciodd y brawd fenga', Dave Davies, git dryms Mick Avery. Ymatebodd Avery drwy daro Davies gyda'i symbal o flaen torf Caerdydd cyn ffoi yn meddwl ei fod wedi ei ladd.

Ffynhonnell y llun, Hanes Miwsig Caerdydd/ Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

The Kinks. 19 a 17 oed yn unig oedd Ray Davies a'i frawd Dave Davies ar y pryd. Maen nhw'n cael eu hystyried fel un o'r grwpiau roc mwyaf dylanwadol erioed gyda chaneuon fel Sunny Afternoon, Lola, Waterloo Sunset a You Really Got Me. Roedd eu tad yn dod o'r Cymoedd

Wrth lwc roedd Dave Davies dal yn fyw ac nid yng Nghaerdydd wnaeth The Kinks ddod i ben. Er hynny, parhau wnaeth eu hymddygiad gwallgo' ac yn ddiweddarach cafodd y grŵp eu gwahardd rhag teithio'r Unol Daleithiau am bedair blynedd.

'Torf gwallgo Caerdydd'

Nid y perfformwyr yn unig oedd yn creu cythrwfl yn y Capitol. Yn ôl y drymiwr byd-enwog Ginger Baker o'r grwpiau Cream a Fela Kuti, wnaeth chwarae yno gyda'i fand cynnar The Graham Bond Organisation, doedd o erioed wedi profi torf mor "wallgo" a honno yng Nghaerdydd.

Mae hynny'n dweud llawer gan ddrymiwr sydd wedi teithio'r byd, sy'n adnabyddus am ei anturiaethau boncyrs, a wnaeth enwi ei hunangofiant yn Hellraiser.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ginger Baker. Mae'r drymiwr o Loegr yn cael ei weld fel un o'r goreuon erioed ac fe gyfrannodd ei waith o'r 60au a'r 70au iddo gael ei ystyried fel "drymiwr seren cyntaf y byd roc a rol"

Mewn un pennod yn y llyfr mae'n hel atgofion am pan gefnogodd Chuck Berry yn y brifddinas ble mae'n nodi fod gan "y dorf Gymraeg enw am ei ymddygiad gwyllt" cyn ychwanegu "dim ond yng Nghymru byddech chi'n cael torf fel hyn."

"Dyma un o'r gigs mwyaf gwallgof rwyf wedi brofi," meddai'r hellraiser wedyn.

Ffynhonnell y llun, Hanes Miwsig Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n ymddangos fod Ginger Baker yn iawn am dorf Caerdydd hefyd...

Led Zeppelin yn plymio

Tybed ydi staff siop Matalan ar Heol y Frenhines yn ymwybodol fod Jimmy Page, Robert Plant, John Bonham a John Paul Jones o Led Zeppelin wedi chwarae, neu drio chwarae, yn eu selar yn 1969?

Clwb o'r enw The Top Rank, nid siop ddillad, oedd y lleoliad hwnnw o'r 60au i'r 80au a daeth y grŵp roc yno i chwarae i godi arian i'r Biafran Relief Organisation.

Ffynhonnell y llun, Hanes Miwsig Caerdydd/ Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Poster Led Zeppelin yn chwarae yn y Top Rank (top chwith). Led Zeppelin yn dychwelyd i chwarae yn The Capitol (canol). John Bonham yn chwarae drymiau a Jimmy Page ar ei gitâr yn The Capitol

Roedd gan y clwb lwyfan oedd yn troelli ac, yn ôl hen chwedl, fel roedd Jimmy Page yn barod i ddechrau ar solo epig 15 munud ac uchafbwynt eu sioe, mi lwyddodd i'r peiriannydd sain gychwyn y troellwr ar gamgymeriad gan achosi i'r ceblau dorri yn hanner.

Un o fandiau roc gorau yn hanes cerddoriaeth yn sefyll ar lwyfan yng Nghaerdydd yn troi yn eu hunman yn dawel bach... dyna ddarlun.

Eira Gerddi Soffia

Fuodd pafiliwn Gerddi Soffia yn gartref i nifer o sioeau enwog gydag enwau mawr fel The Clash, Nina Simone, Pink Floyd, B.B King, Fleetwood Mac a mwy yn chwarae yno.

Dyma hefyd ble chwaraeodd Geraint Jarman gig i godi arian at gael clwb Cymraeg yng Nghaerdydd wnaeth arwain at greu Clwb Ifor Bach.

Ffynhonnell y llun, Hanes Miwsig Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Posteri gigs Pafiliwn Gerddi Soffia. Adeiladwyd yn 1951 a daeth ei oes i ben o ganlyniad i'r eira yn 1982

Ond eira trwm, nid roc trwm oedd yng Ngerddi Soffia ym mis Ionawr 1982. Mor drwm nes i do'r Pafiliwn gael ei ddinistrio mor wael bu rhaid i gig Iron Maiden a Motorhead gael ei chanslo.

Ni lwyddodd i Iron Maiden ddarganfod lleoliad newydd, ond tanio eu hinjans ac i'r Afan Lido ger Port Talbot yr aeth Motorhead.

Y Manics yn Clwb Ifor... o'r diwedd

Mae'r Manic Street Preachers yn chwarae gig arbennig yng Nghlwb Ifor Bach ar 31 Mawrth a phan ddaeth y cyhoeddiad eu bod am chwarae yno roedd hi'n syndod mawr nad oedden nhw wedi gwneud o'r blaen.

Ond os drowch y cloc yn ôl 32 mlynedd i fis Hydref 1990 fe welwch enw'r Manics wedi ei leoli drws nesaf i rai o fandiau iaith Gymraeg mwyaf y cyfnod gan gynnwys Tynal Tywyll, Beganifs a Hanner Pei mewn gig a drefnwyd gan Fudiad Ieuenctid Plaid Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Y gig Manics yng Nghlwb Ifor wnaeth ddim digwydd...

Cafodd Clwb Ifor alwad gan y basydd Nicky Wire yn dweud fod rhaid canslo gan fod ganddyn nhw gytundeb record i'w arwyddo yn Llundain. "Esgus da," meddai Huw Stephens.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig