Nifer uchaf erioed yn dal Covid-19 tra yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adrodd fod 381 o bobl yn debyg o fod wedi dal Covid tra yn yr ysbyty dros yr wythnos diwethaf, sef y nifer uchaf ers cychwyn y pandemig.
Gyda 106 o'r rheiny o fewn Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd, mae'r ffigyrau yn dangos naid o 20% yn y cleifion yn profi'n bositif - yn bennaf oherwydd yr amrywiolyn Omicron.
Mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn awgrymu fod tua 2,400 o bobl wedi marw ar ôl dal y firws yn ysbytai Cymru ers Mawrth 2020.
Ond er hynny, dim ond 15% o gleifion sy'n profi'n bositif am Covid sydd erbyn hyn yn derbyn triniaeth am y feirws, gyda'r mwyafrif yn cael eu trin am gyflyrau eraill.
Dyw'r ffigwr o 2,400, a gynhyrchwyd mewn adroddiad dadansoddi marwolaethau newydd gan wyddonwyr ac ystadegwyr Llywodraeth Cymru, ond yn nodi'r rhai a'u heintwyd â Covid ac nid o ba gyflwr y buon nhw farw.
Mae ffigurau ar wahân, a gasglwyd gan BBC Cymru, yn dangos bod marwolaethau oherwydd Covid o fewn ysbytai wedi gostwng yn arw dros y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd tua 89% o'r marwolaethau hynny cyn diwedd Ebrill 2021.
Achos marwolaeth
Canfyddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) oedd fod y gyfradd cyffredinol o farwolaethau oherwydd Covid yn 45.7 fesul 100,000 yn ystod Chwefror - sy'n sylweddol îs na'r mis blaenorol.
O ganlyniad, Covid-19 oedd y chweched prif achos o farwolaethau yng Nghymru yn ystod y mis, sef 4.4%.
Clefyd y galon, 10.8%, oedd y prif achos, ond roedd y nifer o farwolaethau yn parhau i fod yn sylweddol is na'r lefelau arferol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2022