Rhybudd am 'drychineb' gan goed heintiedig sy'n berygl i bobl

  • Cyhoeddwyd
Coed ynn

Mae coed ynn sy'n "malu'n rhacs" am eu bod wedi'u heintio'n wael yn peri risg gwirioneddol i weithwyr coed a'r cyhoedd, medd cyrff iechyd a diogelwch.

Daw hyn wrth iddyn nhw rybuddio am gyfres o ddamweiniau a marwolaethau wrth i bobl gael eu taro gan frigau wrth dorri coed.

Bellach mae yna alw ar i bobl ddefnyddio peiriannau trwm i ddelio â'r rhai sydd wedi'u heintio waethaf.

Ond mae 'na bryderon y bydd rhai tirfeddianwyr yn anwybyddu'r cyngor oherwydd y gost ariannol - cam allai arwain at "drychineb".

Dywedodd un arbenigwr bod angen i'r neges sy'n cael ei gyflwyno i'r cyhoedd fod "yn fwy cyson" hefyd - gyda choed ynn yn amlwg mewn gerddi preifat ar hyd a lled y wlad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r coed yn "hynod o frau a pheryglus" meddai Gethin Hughes

Mae clefyd coed ynn wedi gwasgaru drwy ran helaeth y Deyrnas Unedig erbyn hyn, degawd ers iddo gael ei ddarganfod yma gynta'.

Cymru sydd ymysg y llefydd i ddioddef waethaf - gydag achosion wedi'u cadarnhau ar draws 80% o'r wlad yn ôl un arolwg yn 2018.

Mae'r coed yn marw gydag amser, gan ddod yn "hynod o frau a pheryglus", eglurodd Gethin Hughes, torrwr coed o Ben Llŷn sy'n lefarydd ar ran corff iechyd a diogelwch y diwydiant FISA.

Maes o law mae'r coed yn "malu'n rhacs" wrth gael eu cyffwrdd â llif, meddai, "ac yn saff 'sa chi ddim isio gyrru boi fyny'r goeden i'w thorri lawr".

"Mae 'na lot o ddamweiniau wedi bod a dyna pam ein bod ni fel diwydiant yn trio gwthio mlaen gyda gwneud y job mor saff ac y fedrwn ni."

Bellach mae FISA yn galw ar dorwyr coed i ddefnyddio dulliau mecanyddol i ddelio ag ynn sydd wedi'u heintio'n wael.

Gall hyn gynnwys peiriannau trwm lle mae'r llif ar fraich hir sy'n ymestyn, a'r peiriannydd yn ddiogel mewn cab.

Ond tra bod y diwydiant ar y cyfan yn gwrando gan ddod yn llawer fwy parod i ddefnyddio'r math yma o ddulliau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, dywedodd Mr Hughes bod y corff yn dal i geisio lledu'r neges.

"Mae o'n flaenoriaeth o flaen bob dim ar hyn o bryd - oherwydd mae 'na gymaint o goed onnen o'n cwmpas ni ar ochr lonydd a chymaint o berygl."

'Pobl yn agos iawn at niwed'

Cadarnhaodd gweithgor iechyd a diogelwch y DU - yr HSE - eu bod hwythau hefyd yn poeni ynglŷn â chynnydd yn nifer y digwyddiadau difrifol yn ymwneud â gwaith coed.

Mae clefyd coed ynn - yn ogystal â difrod i goed gan stormydd - yn rhan o'r darlun, yn ôl Christopher Maher, sy'n arwain gwaith yr HSE ar goed.

Tra bod y corff yn derbyn sylw o oddeutu tair achos o bobl yn marw wrth dorri coed mewn blwyddyn arferol - yn 2020-21 roedd yna 10, gydag wyth wedi'u hachosi gan frigau neu ddarnau o goed yn syrthio ar bobl.

"Dwi'n gwybod am ddigwyddiadau eraill hefyd o bobl yn agos iawn at niwed, neu yn syrthio yn bell, coed yn cwympo gan dorri esgyrn - sefyllfaoedd allai fod wedi bod yn wahanol iawn oni bai am ryw chwech i ddeg modfedd," ychwanegodd Mr Maher.

Disgrifiad o’r llun,

Wrth dorri coed yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae David Jack Thomas yn dweud nad oes modd bod yn rhy ddiogel

"Ry'ch chi yn clywed sôn am bobl yn brifo ac yn marw," meddai David Jack Thomas, perchennog The Arb Team, sydd ar hyn o bryd yn torri coed ynn ar hyd yr A4109 ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Cyn bod peiriant y tîm yn bwrw ati, mae goleuadau dros dro yn cau'r ffordd i'r ddwy gyfeiriad a phawb yn symud yn ôl rhyw 70 metr er mwyn osgoi cael eu taro gan ddarnau sy'n syrthio i'r ddaear.

"Yn amlwg mae 'na lot o waith papur i'w gwblhau a ry'n ni'n trio defnyddio cymaint o beiriannau mawr ac y medrwn ni, yn trio lleihau faint o waith llaw sy'n rhaid i'n gweithwyr ei wneud.

"Gallai ddim pwysleisio pa mor bwysig yw hyn," meddai Mr Thomas.

Mae gen i glefyd coed ynn ar fy nhir - be' ddylwn i wneud?

  • Cysylltu â thorrwr coed proffesiynol am asesiad.

  • Mae cynllunio ac asesu risg yn allweddol, medd yr HSE.

  • Dylid osgoi gweithio ar goed sydd ddim mewn lleoliad fydd yn peri risg i bobl.

  • Ble mae 'na risg dylid cadw draw, a defnyddio peiriannau trwm lle bod modd i'w torri.

Ar stad Penllyn ger y Bontfaen ym Mro Morgannwg, mae'r gwaith o reoli clefyd coed ynn ar draws 350 erw o goetir wedi bod yn parhau ers chwe blynedd.

Dywedodd Andrew Downden, o Afan Treescapes sy'n gyfrifol am y gwaith, iddo ddechrau cymryd y peth o ddifrif ar ôl derbyn galwadau gan dorwyr coed yn y gorllewin "lle tarodd y clefyd gyntaf, gyda straeon brawychus iawn".

"Ry'n ni'n adolygu sut ry'n ni'n gweithio yn gyson o ganlyniad," meddai, " gan edrych am ddulliau newydd ac offer fydd yn galluogi i ni gadw ein hunain yn saff."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew Downden yn dorrwr coed ac yn gorfod ystyried ffyrdd o gadw'n ddiogel

Ond ymysg yr heriau mae agwedd amrywiol awdurdodau lleol tuag at y clefyd, honnodd.

"Gallai un cyngor weld ash dieback ar ffurflen o dorrwr coed profiadol a just pasio'r peth drwyddo yn syth, ond bydd 'na rai eraill sy'n holi a allwn ni dynnu'r brigau yn unig ac ati.

"Yn fy marn i dyw, hynny ddim yn opsiwn."

Roedd angen cysoni'r neges sy'n cael ei gynnig i'r cyhoedd hefyd, meddai - gan annog y sawl sydd â choeden wedi'i heintio yn eu gerddi i weithredu yn ystod dyddiau cynnar yr afiechyd.

"Wrth i'r goeden waethygu mae'n mynd yn anoddach ac yn fwy costus - weithiau yn amhosib - i'w thorri mewn modd diogel," dywedodd.

Drwy'r DU bydd angen torri miliynau o goed ynn maes o law.

Fel coeden sy'n hadu yn rhwydd, mae wedi datblygu yn un o'n rhywogaethau amlycaf - i'w ganfod ar hyd ffyrdd a rheilffyrdd, mewn coedwigoedd, parciau a gerddi.

"Dyw lot o berchnogion tai neu dirfeddianwyr preifat ddim yn sylweddoli mai chi sy'n gyfrifol am goed ynn ar eich tir chi," meddai Sean Reilly sy'n berchen ar gwmni offer coedwigaeth yn Hirwaun, Rhondda Cynon Taf ac yn un o gyfarwyddwyr FISA.

Ond byddai ceisio mynd i'r afael â'r gwaith eich hun heb drafod gyda thorrwr coed proffesiynol yn "un o'r pethau mwyaf peryglus y galle' chi wneud", meddai.

"Ddylech chi byth trio taclo clefyd coed ynn ar eich pen eich hun, waeth bynnag eich profiad chi achos mae eisiau ystyried y coed yma fel rhai peryglus iawn os ydyn nhw wedi'u heintio," meddai.

Pynciau cysylltiedig