Pryderon am ddyfodol Clwb Hoci Emlyn yn Nyffryn Teifi
- Cyhoeddwyd
Mae clwb hoci sydd yn chwarae ac yn ymarfer yn Aberteifi yn pryderu y gallai dyfodol y clwb fod yn y fantol.
Daw hyn yn sgil penderfyniad Cyngor Ceredigion i ail ddatblygu'r cae artiffisial sy'n cael ei ddefnyddio gan y clwb.
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi sicrhau grantiau o £500,000 i osod wyneb 3G ar safle presennol y cae artiffisial ger canolfan hamdden y dref, ynghyd â chaeau presennol yn Synod Inn a Llanbedr Pont Steffan.
Ond, dyw hi ddim yn bosib chwarae hoci ar wyneb 3G - rygbi a phêl-droed sy'n cael eu chwarae arno fel arfer.
Mae aelodau Clwb Hoci Emlyn yn honni y bydd y penderfyniad yn cael effaith negyddol ar allu merched lleol i gymryd rhan mewn chwaraeon tîm.
Maen nhw hefyd yn dweud nad ydynt wedi bod yn rhan o ymgynghoriad.
Mae'r awdurdod yn dweud eu bod wedi cynnal "ymgynghoriad eang" y llynedd ynglŷn â chyflwr adnoddau hamdden ac y bydd y buddsoddiad yn "gwella ar gyfleusterau yn ardal Aberteifi" gan ehangu cyfleoedd.
Mae Clwb Hoci Emlyn yn dweud y gallai'r penderfyniad fod yn ergyd farwol i hoci cystadleuol yn ardal Dyffryn Teifi am mai nhw yw'r unig glwb yn yr ardal.
Gan nad yw hi'n bosib chwarae hoci ar wyneb 3G, bydd aelodau yn gorfod teithio naill ai i Grymych, sydd 11 milltir i ffwrdd yn Sir Benfro, neu i Landysul, sy'n 20 milltir i ffwrdd.
Mae yna gae yn Llanbedr Pont Steffan sydd yn daith o 30 milltir.
Cafodd cyfarfod brys o'r Clwb ei gynnal yn gynharach yr wythnos hon, gyda'r aelodau yn penderfynu ymladd yn erbyn penderfyniad y cyngor.
Clywodd y cyfarfod nad oedd cae Crymych ar gael ar y penwythnos, a bod cae Llandysul eisoes yn brysur iawn.
'Mynd i golli aelodau'
Mae Lowri Hubbard o Aberaeron yn un o'r aelodau a dywedodd bod Crymych, Llandysul a Llanbed - yr opsiynau eraill o ran meysydd ymarfer - lawer yn rhy bell i ambell un i deithio.
"Fel aelodau 'dyn ni'n siomedig tu hwnt yn y ffaith 'dyn nhw ddim wedi ymgynghori â neb yn gyhoeddus eto.
"Tua de'r sir, does yna ddim clybiau yn mynd i fod i ferched yn yr ardal," dywedodd.
Ychwanegodd bod symud y clwb yn mynd i "waredu ar y cyfle i ferched i chwarae hoci o fewn yr ardal leol.
"Da ni yn mynd i golli aelodau, yn syml."
Aelod arall sy'n flin yw Sara Patterson. Dywedodd bod y sefyllfa'n "hollol annerbyniol".
"Fel athrawes addysg gorfforol, 'dw i'n annog merched a bechgyn i gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd corfforol.
"Mae cymryd yr astro yma i ffwrdd o blant Aberteifi yn mynd i fod yn golled enfawr, yn enwedig i'r merched o fewn gwersi addysg gorfforol."
Mae Serena Davies yn hyfforddi'r tîm dan 12, ac yn un o sylfaenwyr y clwb.
Dywedodd ei bod wedi sefydlu'r clwb yn sgil "prinder cyfleoedd i fenywod ifanc yn yr ardal".
"Mae'r clwb yn 'neud yn wych, ac i feddwl bod rhywun yn mynd i dynnu'r carped oddi tano ni, heb unrhyw reswm o gwbl, 'dw i ddim yn gweld rhesymeg yn y peth.
"'Dw i ddim yn deall y penderfyniad. Dyw'r ysgol leol ddim wedi cael llais yn y mater, na'r clybiau lleol. Dylen ni fod yn rhan o'r ymgynghoriad."
Dywedodd Serena bod yr aelodau yn benderfynol o frwydo'n erbyn y penderfyniad.
"Chi'n medru gweld, yn y cyfarfod, faint o angerdd sydd yma dros y mater yma.
"Mae'n rhaid i ni [ymladd] oherwydd mae'r bobl yma wedi gwneud rhyw benderfyniad heb feddwl pethau trwyddo.
"Gobeithio byddan nhw yn gallu gweld bod e'n gwneud lot mwy o synnwyr i gael arwyneb sydd yn addas i bawb a bod ni ddim yn eithrio pobl, yn enwedig merched.
"Pan ti'n edrych rownd, does dim hyd yn oed clybiau pêl-rwyd i gael yn lleol rhagor. Ychydig iawn sydd yna i ferched."
Mae disgwyl i'r gwaith adnewyddu ddigwydd dros fisoedd yr haf.
'Deall y pryderon'
Mae Chwaraeon Cymru yn cyfrannu £400,000 tuag at gost y prosiect. Mewn datganiad, dywedodd Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwaraeon Cymru bod y corff yn "deall pryderon Clwb Hoci Emlyn".
"Fydd hi ddim yn bosib i'r Cyngor glustnodi unrhyw arian tan bod yna amserlen addas ar gyfer yr holl glybiau sydd yn defnyddio'r caeau.
"Fe fyddwn ni yn parhau i gydweithio gyda Chyngor Ceredigion a'r cyrff llywodraethol ar y mater hwn."
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Ceredigion mai eu nod yw ateb y galw oherwydd "diffyg darpariaeth cyfleusterau 3G" yn ne Ceredigion a gorllewin Sir Benfro a Sir Gâr.
Dywedon hefyd bod Chwaraeon Cymru, Hoci Cymru, FAW a'r WRU (Grŵp Caeau Cydweithredol Cymru Gyfan), wedi chwarae rhan allweddol yn y trafodaethau ynglŷn â'r datblygiadau.
"Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi derbyn cyfraniad o £500,000 tuag at gyflawni'r gwaith... Trwy dderbyn yr arian byddwn yn medru gwella ar gyfleusterau yn ardal Aberteifi ac ehangu ar gyfleoedd i blant, pobl ifanc ac oedolion y Sir.
"Mae'r ffaith bod yr ATP yn Aberteifi yn newid i fod yn cae 3G yn golygu na fydd yn addas i chwarae hoci arno, ond er hynny mae yna ATP's 2G mewn lleoliadau cyfagos megis, Crymych, Llandysul a Llambed.
"Cwrddodd y Gwasanaethau Canolfannau Lles gyda Clwb Hoci Emlyn, cyn ein bod wedi derbyn cadarnhad ynglŷn â'r cynnig a'r dyraniad ariannol. Nid oedd y penderfyniad yn 'fait accompli'.
Eglurodd y llefarydd bod arian y grant ond yn cael ei gynnig yn seiliedig ar osod cae 3G yn Aberteifi. Fyddai cae 2G ddim yn gymwys am yr arian.
Ychwanegodd: "Cynhaliwyd ymgynghoriad eang rhwng mis Awst a mis Hydref 2021, ynglŷn â gwasanaethau a chyfleusterau hamdden yr awdurdod lleol. Mi ddaeth yn amlwg trwy'r ymgynghoriad bod yna bryderon am gyflwr y cyfleusterau megis yr ATPs.
"Felly, bydd derbyn y cynnig hwn a gwella'r cyfleusterau yn ymateb positif i'r pryderon hynny.
"Trwy uwchraddio'r carped ATP byddwn yn medru cwrdd â gofynion yr holl glybiau eraill sydd hefyd yn ddefnyddwyr cyson o'r cyfleuster hwn h.y. yn dimoedd benywaidd, gwrywaidd a thimoedd plant a phobl ifanc."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2018