Wrecsam: Dyn yn prynu tŷ ar gyfer teulu sy'n ffoi o Wcráin
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Wrecsam, yn ei awydd i helpu ffoaduriaid o Wcráin, wedi prynu tŷ lleol ar gyfer un teulu.
Mae Jamie Hughes wedi cynnig yr eiddo i deulu o bedwar ar ôl datgan ar y cyfryngau cymdeithasol ei fwriad i noddi ffoaduriaid.
Mae'n gobeithio y bydd yr eiddo'n barod ar gyfer Maria a'i meibion 14, 12 a 10 oed o fewn wythnos neu ddwy.
Ond mae'n rhaid i'r teulu gyrraedd canolfan yng Ngwlad Pwyl yn y lle cyntaf er mwyn ceisio am fisas i ddod i'r DU.
Dywedodd Mr Hughes, a werthodd fusnes y llynedd, iddo benderfynu gwneud beth bynnag y gallai gan fod "gwylio miliynau o bobl yn ffoi, y bomiau'n ffrwydro" wedi cael effaith ddofn arno.
Yn wreiddiol, fe wnaeth ystyried addasu rhan o'i gartref ei hun ond fe benderfynodd y byddai hynny wedi cymryd rhy hir ac na fyddai'r gofod yn sicrhau digon o le a phreifatrwydd i deulu arall.
Mewn cyfweliad gyda'r BBC dywedodd: "Mi es i edrych ar sawl eiddo gyda meddiant gwag (vacant possession), ac mi wnes i gynnig a phrynu un.
"Dwi'n gobeithio ei gael mewn sefyllfa lle gallwn ni ddechrau derbyn rhoddion hael a gwneud rhywfaint o waith atgyweirio erbyn penwythnos nesaf."
Mae Maria a'i meibion yn teithio o orllewin Wcráin i wersyll ffoaduriaid yng Ngwlad Pwyl lle gallai gwblhau'r dogfennau iddyn nhw allu deithio ymlaen i'r DU.
"Fe ddechreuodd y bomiau ffrwydro o amgylch ei thŷ tua 10 milltir i ffwrdd felly roedd rhaid iddi ffoi," meddai Mr Hughes.
Dynes Wcreinaidd o'r enw Renata, sy'n byw yn y DU ers 20 mlynedd, wnaeth drefnu'r cysylltiad rhyngddo a'r teulu "i helpu hwyluso'r lloches ar gyfer Maria a'i bechgyn".
Mae Mr Hughes yn siarad gyda Maria bob dydd. Dywedodd ei bod hi "methu credu'r peth" pan ddywedodd wrthi bod tŷ ar gael iddi.
Roedd Maria, meddai, yn gweithio mewn adran anesthetig ysbyty yn ei mamwlad cyn gorfod ffoi.
Mae hi'n deall Saesneg ond gan nad ydy hi'n gallu siarad yr iaith mae hi'n bwriadu mynd ar gwrs dwys ar ôl cyrraedd y DU.
Y bwriad ydy ei rhoi mewn cysylltiad â'r ysbyty lleol yn y gobaith o sicrhau gwaith iddi.
Addewid o groeso
Mae Julie Simkins yn helpu Mr Hughes i baratoi'r eiddo ar gyfer Maria a'i meibion, ac mae wedi trefnu tudalen ar Facebook, dolen allanol er mwyn tynnu sylw i'r ymdrech ar eu rhan.
"Rydan ni fwy neu lai wedi darfod trefnu dodrefnu'r tŷ cyfan erbyn hyn," meddai.
Ond mae'n apelio am gymorth unrhyw "beintwyr ac addurnwyr fyddai'n fodlon dod a helpu peintio'r tŷ o'r top i'r gwaelod".
Mae hi hefyd yn chwilio am seiri dodrefn a fyddai'n fodlon creu cypyrddau dillad ar gyfer teulu o bedwar.
Ychwanegodd: "Os oes yna unrhyw gwmnïau a allai cyfrannu unrhyw fatresi - rydan ni'n chwilio am un dwbl a thri sengl - byddai hynny'n wych."
Mae'r bechgyn yn ddilynwyr pêl-droed mawr, yn ôl Jamie Hughes, sydd ei hun yn gefnogwr CPD Wrecsam.
Mae wedi cysylltu â'r clwb ac mae'n dweud eu bod wedi gwneud addewid "i wneud ffỳs fawr ohonyn nhw - roi crysau iddyn nhw, rhoi croeso iddyn nhw a gwneud iddyn nhw deimlo'n rhan o'r gymuned".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2022