Ateb y Galw: John Hughes-Jones
- Cyhoeddwyd
John Hughes-Jones sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Arwel Roberts.
Mae John Hughes-Jones yn gyn Brif Arolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru ac yn ymgynghorydd ar blismona rhyngwladol wedi gweithio yn Bosnia, Irac, Yr Iorddonen, Abu Dhabi ac Wcráin. Mae'n briod ac yn byw yn Y Rhyl.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Fy Mam yn dod a fy mrawd bach gartref ar ôl ei eni.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Dathlu y Flwyddyn Newydd yn Abu Dhabi gyda cyd-Gymry Cymdeithas Dewi Sant, Abu Dhabi.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Amyneddgar, pwyllog a chwrtais.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ynys Lawd, Caergybi. Man trawiadol a heddychlon.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl yn ôl?
Neidio dros wal yn y Borth mewn tywyllwch heb sylweddoli beth oedd ochr arall. Ddisgynais 10 troedfedd cyn taro'r llawr!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Cael fy nal wrth ddringo ffens yn Bosnia ar ôl yfed dipyn gormod o Slivovitza mewn parti priodas!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Diweddar iawn yn gwilio lluniau o ddinas Mariupol yn Wcráin.
O archif Ateb y Galw:
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Chwyrnu - medde'r wraig!?
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Shock Doctrine gan Naomi Klein fel llyfr a Apocalypse Now fel ffilm. Fydda'i ddim yn gwrando ar bodlediad. Wedi gweld a chael profiad o'r byd maen nhw yn ei ddisgrifio.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
George Best. Y pêl-droediwr gorau erioed ac yn sicr o fod yn gwmni diddorol.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n ysmygu ambell i cigar.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Chwarae bowls.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun o'n amser yn Mariupol. Oherwydd beth sydd wedi digwydd ers hynny.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Gwynfor Evans.