Jade Marsh: Dyn yn cyfaddef iddo ladd ei gyn-wraig

  • Cyhoeddwyd
Jade WardFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jade Marsh, neu Jade Ward, yn 27 oed ac yn fam i bedwar o blant

Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei gyn-wraig wedi cyfaddef ei lladd.

Ond mae Russell Marsh yn gwadu llofruddio Jade Marsh yn Shotton, Sir y Fflint, fis Awst diwethaf.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug ei fod yn derbyn ei fod wedi lladd Ms Marsh, oedd hefyd yn cael ei hadnabod fel Jade Ward, ond nad oedd wedi bwriadu gwneud hynny.

Mae'r rheithgor wedi cael gwybod yn flaenorol ei fod yn genfigennus ac wedi ei thrywanu a'i thagu tra bod ei phedwar plentyn yn cysgu.

Roedd hi wedi dod â'r berthynas i ben wythnos cyn iddi gael ei chanfod yn farw.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Russell Marsh, 29, nad ydy'r plant yn gwybod eto mai ef laddodd eu mam

Gofynnodd bargyfreithiwr Mr Marsh, Christopher Tehrani QC, iddo: "Ydych chi'n derbyn eich bod chi wedi lladd Jade Marsh yn oriau mân 26 Awst 2021?"

Dywedodd Mr Marsh: "Ydw."

Gofynnwyd iddo: "Ydych chi'n derbyn eich bod wedi ei lladd am reswm anghyfreithlon?" Atebodd: "Ydw."

Ond pan ofynnwyd iddo a oedd wedi bwriadu ei lladd, dywedodd: "Na."

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn derbyn bod hynny'n ei wneud yn euog o ddynladdiad, dywedodd: "Ydw."

Gwadu achosi cleisiau

Wrth ddisgrifio'r cyfnod yn arwain at farwolaeth Jade Marsh, dywedodd Mr Marsh wrth y llys ei fod wedi bod i ffwrdd o'r gwaith am saith mis ac ar feddyginiaeth am orbryder ac iselder yn 2017.

Dywedodd fod ei wraig wedi cyfaddef iddi fod yn anffyddlon "sawl gwaith" yn ystod "cyfnod stressful" yn 2019.

Roedden nhw'n gofalu am eu pedwar o blant, meddai, ac mewn dyled o tua £30,000 oherwydd gwaith ar y tŷ a'u priodas.

Gwadodd iddo erioed fod yn ymosodol tuag at ei wraig, a oedd wedi dweud wrth ffrind mai ef oedd wedi achosi cleisiau ar ei braich ym mis Awst 2019.

Fe wadodd hefyd ei gwthio pan yr oedd hi ar dop y grisiau.

Dywedodd wrth y rheithgor nad oedd ei bedwar mab ifanc yn gwybod eto iddo ladd eu mam yn y tŷ yn Chevrons Close.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig