Y Gyfrinach gan Harri - stori fuddugol Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd
Harri, enillydd categori Cyfnod Allwedol 2a, i blant rhwng 7-9 oedFfynhonnell y llun, Ysgol Pont y Gof
Disgrifiad o’r llun,

Harri, enillydd categori Cyfnod Allwedol 2a, i blant rhwng 7-9 oed

Harri o Ysgol Pont y Gof, Botwnnog yw un o enillwyr Cystadleuaeth Sgwennu Stori Aled Hughes ar BBC Radio Cymru eleni.

Daeth Harri yn fuddugol yng nghategori Cyfnod Allwedol 2a, i blant rhwng 7-9 oed am ei stori dan y teitl 'Y Gyfrinach'. Y gyflwynwraig a'r awdures Mari Lovgreen oedd y beirniad ac fel gwobr i Harri, yr artist Sioned Medi Evans sydd wedi darlunio llun clawr i'w stori. Mwynhewch stori Harri.

Ffynhonnell y llun, Sioned Medi Evans
Disgrifiad o’r llun,

Yr artist Sioned Medi Evans sydd wedi darlunio llun clawr yn wobr i Harri, yr awdur buddugol

Pennod Un

Roedd hi'n ben-blwydd arna i a chefais ddafad yn anrheg pen-blwydd. Dafad gwerth chweil oedd Cadi, ag o - mi oedd hi yn frid croes defaid lleyn, a texel. Roedd hi'n ddafad gyflym a mi rasiais hi i lawr i'r afon. Gwelais lwch piws rhyfedd o gwmpas yr afon a rhoddais y llwch yn fy sach a cherdded am adref.

Pan agorais ddrws y tŷ, rhedais i fyny'r grisiau a chau'r drws yn glep. Mi wnes i adael y sach gyda'r llwch ar y silff ffenest a mynd i'r gwely. Deffrais y bore wedyn a baglu dros degan a syrthiais ar y silff ffenest. O NA! Disgynnodd y sach o lwch drwy'r ffenest. Roedd y llwch i gyd wedi disgyn ar y ddafad!

Es i â Cadi i'r sied ac es i 'nôl i'r tŷ. Ar ôl brecwast es i yn ôl i'r sied i weld Cadi. Pan gyrhaeddais y sied roedd Cadi yn llyfu oen! Sut? Meddyliais. Roeddwn i bron â marw eisiau oen yn anrheg pen-blwydd. Tybed? Meddyliais.

Pennod Dau

Es i at yr afon a chymryd llond llaw o lwch a chau fy llygaid a dymuno cael cacen ben-blwydd bendigedig. Y munud nesaf, rhedais i'r tŷ a gwelais y gacen ben-blwydd orau erioed ar fwrdd y gegin.

Fedrwn i ddim stopio sbio arni. Rhedais i ddeud wrth Mam a Dad ac yna stopiais yn stond.

A meddwl wrtha i fy hun: Wneith Mam a Dad ddim coelio fi. Mi ga i row am ddweud clwydda'!

Mi es i'r sied i weld yr oen bach, a rhoi blawd i Cadi, a mi oedd yna oen bach arall yn sefyll wrth ymyl y ddafad, efeilliaid! meddyliais gan wirioni. Piciais allan i helpu Dad dynnu oen yn y cae a phan ddois yn ôl, fedrwn i ddim coelio fy llygaid, roedd yna oen arall yno! Triplets!Nes i drio cael yr ŵyn i setlo hefo'r ddafad, rhoi gwair yn y pen, a llenwi bwcad ddŵr, ac yna roedd hi'n amser fy mharti a mi es i'r tŷ am y noson. Cefais barti gwerth chweil! Mi oeddwn i wedi blino yn lân, a'r noson honno fe es i gysgu yn sownd.

Pennod Tri

Pan ddeffrais y bore wedyn, mi oedd Mam yn gweiddi arna i i fyny'r grisia', "Harri Morus! Coda y munud 'ma, mae dy Dad angen dy help, wnei di ddim credu beth sydd wedi digwydd."

Pan es i'r cae, mi oedd Cadi y ddafad yn sefyll ynghanol y cae hefo chwe deg o'i ŵyn yn brefu o'i chwmpas, a mi oedd Dad yn pwyso ar y giât yn crafu ei ben cyrls. Mi es i lenwi 60 potel i'r sied a cafodd pob un oen ei fwydo ond mi oedd Dad yn poeni am Cadi a beth oedd wedi digwydd. Roedd yn poeni gymaint, penderfynais ddweud wrtho fy nghyfrinach. Mi es i â Dad i lawr at yr afon, a mi ddangosais y llwch hud iddo, a mi gasglodd Dad y llwch a'i roi yn saff yn ei boced, i'w gadw tan amser lloi.

Ar ddydd Iau 7 Ebrill byddwn yn cyhoeddi stori Owain, enillydd categori Cyfnod allweddol 2b, 9-11 oed.

Hefyd o ddiddordeb: