'Ymateb anhygoel' i gig er budd ffoaduriaid Wcráin
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr gig elusennol er budd ffoaduriaid o Wcráin, dolen allanol yn dweud bod yr ymateb wedi bod yn "anhygoel" ar ôl gwerthu 1,500 o docynnau o flaen llaw.
I'w gynnal ar faes y sioe ym Mona ar Ynys Môn, bydd Bryn Fôn a'r Band, Meinir Gwilym, Elin Fflur a Bwncath ymysg yr artistiaid yn perfformio ddydd Sadwrn, 9 Ebrill.
Mae disgwyl i gannoedd deithio i'r ynys ar gyfer y digwyddiad, gyda bysiau wedi'i trefnu o Ben Llŷn a rhannau eraill o Wynedd.
Bydd yr holl elw yn mynd tuag at gefnogi ffoaduriaid o Wcráin.
'Pethau yn dod at ei gilydd rŵan'
Dywedodd Bryn Fôn, sydd hefyd yn cyd-drefnu'r diwrnod gydag Arwel Hughes o gwmni MAD, fod yr ymateb wedi bod yn "anhygoel".
"Allan o rhyw 1,500 does 'na ond tua 100 o docynnau ar ôl, mae lefel y gefnogaeth o fewn ychydig o wythnosau 'di bod yn wych ac yn amlwg mae pwrpas y diwrnod yn golygu lot i bobl," dywedodd wrth Cymru Fyw ddydd Gwener.
Erbyn nos Wener roedd pob un tocyn wedi mynd, dolen allanol.
"Mae pethau yn dod at ei gilydd rŵan a 'da ni'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cytuno i berfformio a chyfrannu eu hamser, mae gynnon ni griw da iawn.
"Mae na gymaint o bobl wedi rhoi eu hamser, gan gynnwys aelodau o'r ffermwyr ifanc lleol, criw Sioe Môn a'r gymuned ehangach, maen nhw i gyd 'di bod yn wych."
Yn cyflwyno'r artistiaid ar y diwrnod bydd Dewi Pws, Rhys Mwyn a Tudur Owen, gyda pherfformwyr eraill yn cynnwys Phil Gas, Band Pres Llareggub, Di-Enw ac Alffa.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ychwanegodd Bryn Fôn: "Digwyddiad teuluol ydy hwn felly mae 'na groeso i bawb, ond ni fydd modd prynu tocynnau ar y drws a rhaid eu harchebu o flaen llaw.
"Yn anffodus bu'n rhaid i Blodau Papur dynnu allan oherwydd Covid, ond da ni'n ffodus iawn fod Morgan Elwy wedi camu fewn yn eu lle.
"Mi fydd gynnon ni westai arbennig, sydd â chysylltiad gydag Wcráin, ar y llwyfan yn nes ymlaen yn y noson."
Fe fydd uchafbwyntiau'r gig i'w clywed ar BBC Radio Cymru yr wythnos nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2022