Gweld y byd trwy lygaid dyn sain
- Cyhoeddwyd
Mae gyrfa Aled Edwards fel dyn sain ers dros 40 mlynedd wedi ei arwain ar draws y byd ar sawl antur i greu rhaglenni teledu i S4C.
Ers dechrau ei yrfa ar raglen Newyddion y BBC ac yna gweithio ar raglenni fel Bacha'i o 'Ma, Hel Straeon, Cefn Gwlad, Dei a Tom, Pengelli, Uned 5 a Rownd a Rownd, mae gan Aled, sy'n wreiddiol o Rostryfan ger Caernarfon, lu o straeon a lluniau i'w atgoffa o'r cyfnod.
Ble oedd y lle cyntaf est ti ar dy deithiau tramor a pha raglen oedd hi?
Dwi'n cofio gwneud Am Daith, rhaglen aeth â ni yr holl ffordd o Efrog Newydd i Los Angeles. Roedd rhaid i ni deithio ar drên. Roedd rhyw hogyn ifanc efo ni o'r enw Tudur Owen yn gweithio fel rhedwr!
Mi wnaethon ni ymweld efo'r cowbois un diwrnod ar y Great Plains. Dwi'n cofio'r tir ffrwythlon a'r cowbois yn dal lloi bach efo lasso.
Y gwrthwyneb i hyn oedd ein ymweliad efo un o lwythi'r Cenhedloedd Cyntaf yng nghanol y diffeithwch efo'r tymheredd yn cyrraedd 140 Fahrenheit.
Ychydig iawn oedd gan y bobl yma mewn cymhariaeth â'r cowbois ond fe gafon ni groeso cynnes mewn mwy nag un ystyr!
Daeth gwahoddiad i ni fynd i mewn i tipi pennaeth y llwyth. Cafodd powlen o ddŵr ei basio rhwng pawb a chan ei bod hi mor boeth fe lowcion ni'r dŵr mewn eiliad.
Edrychon nhw yn syn arnon ni. Roedd y powlen i fod yn rhan o'r seremoni ble roedd y pennaeth i fod dweud ychydig o eiriau cyn i ni yfed. Roedd y cawl ddaeth ar ôl hynny'n debyg i lobsgows ac roedd yn flasus iawn!
Sut brofiad oedd gweithio ar Cefn Gwlad?
Arbennig. Mi fuon ni allan yn Seland Newydd yn ymweld â chwe brawd a chwaer a symudodd yno gyda'u rhieni yn yr 1930au. Roedd y teulu'n wreiddiol o ardal Penmachno, ger Betws y Coed. Roedd y plant yn eu 50au a 60au erbyn hynny a phob un ohonynt yn dal i siarad Cymraeg.
Heb os, dyna'r wlad harddaf i mi ymweld â hi erioed.
Roedd Patagonia'n brofiad unigryw hefyd. Ro'n i wrth fy modd efo'r bobl â'r acen Sbaeneg wrth iddyn nhw siarad Cymraeg.
Doeddwn i ddim mor hoff o'r paith ond roedd y trefi'n arbennig.
Cafon ni noson hyfryd yng nghwmni criw yn eu hugeiniau cynnar, Cwmni'r Bwthyn Gwyn. Roedd y criw'n cwrdd un noson yr wythnos ger bwthyn gwyn er mwyn cymdeithasu efo barbiciw cig oen. Ar ôl i'r oen gael ei goginio dros dân agored byddai pob person yn sleisio darn o gig a'i fwyta efo'u cyllyll.
Dwi dal ddim y gwybod beth oedd yn y pâst cafodd ei bastio dros y cig ond dyna un o'r pethau mwya' blasus i mi ei flasu erioed.
Wedi i ni gyrraedd y Gaiman aeth y bobl leol ati i agor y dafarn pan glywon nhw fod criw o Gymru wedi dod draw i wneud ychydig o ffilmio. Tafarn Las oedd enw'r lle a dim ond unwaith yr wythnos byddai'r lle'n agored fel arfer ond yn ystod ein ymweliad bu'r lle'n agored bob nos!
Roedd 'na gymeriad yn sefyll wrth y bar ac yn syllu arno ni. Doedd gan neb syniad be' oedd o'n neud heblaw am syllu a sgwennu rhywbeth ar ddarn o bapur. Dwi'n cofio gofyn i Dai Jones os oedd o'n adnabod y dyn ond doedd o ddim. Ta be', roedd y gŵr yn tynnu lluniau cartŵn ohono' ni ac mae'r llun gen i ers hynny.
Mi fuon ni allan yn Awstria yn saethu Dai'n sgïo ar y llethrau. Dwi erioed 'di chwerthin cymaint ar job!
Roedd yn brofiad arbennig gweld Dai yn ceisio teithio ar y drag lift, sef sedd rhwng dy goesau a llinyn yn dy dynnu i fyny'r llethr. Pan oedd Dai'n llwyddo i symud i fyny roedd yn disgyn ar lawr o fewn deg llath i'r dechreuad.
Ro'n i'n gosod radio mic arno er mwyn iddo symud o gwmpas ac i mi recordio'r hyn roedd o'n ei ddeud. Bydden i yn fy nyblau'n aml iawn oherwydd dim ond fi oedd yn medru clywed Dai'n bytheirio i'w hun wrth iddo geisio sgïo (a dannod y cyfarwyddwr). "Be' mae o'n ei ddeud?" basa hwnnw'n gofyn a minnau'n methu ei ateb oherwydd ro'n i'n chwerthin cymaint.
Pa wlad sy'n aros yn y cof a pham?
Bolifia yn Ne America. Roedd hi'n dipyn o daith i gyrraedd yno. Pan lanion ni ym maes awyr La Paz ro'n i'n cwffio am aer oherwydd roedd yr aer mor denau. Dyna'r maes awyr uchaf yn y byd. Bu raid i ni logi 4x4 oedd yn hen fel pechod.
Roeddwn i'n cyfweld efo dyn o'r enw Gwilym Parry o Garndolbenmaen yn wreiddiol ar gyfer rhaglen Gwyn a'i Fyd. Symudodd allan i weithio yno a chyfarfod efo dynes leol o'r enw Raquel mewn pentref o'r enw Jorochito. Roedd ganddo ddwy o ferched, Damris a Gwyneth. Roedd Gwilym yn cadw dros fil o ieir ger ei dŷ ac yn y jyngl er mwyn gwerthu'r wyau yn y farchnad a chig i'r trigolion.
Dwi'n cofio'r tlodi a phawb yn cnoi dail coca oedd yn tyfu ymhob man. Dwi hefyd yn cofio Gwilym yn ein cynghori un diwrnod tra'n teithio yn y 4x4, "Os 'da chi'n amau eich bod chi ar fin cael damwain a bod 'na fuwch ar un ochr i'r lon a pherson ar yr ochr arall, hitiwch y person oherwydd mae modd cael llaeth a chig oddi wrth y fuwch." Roedd hynna'n dipyn o sioc!
Roedd y bobl yn byw mewn cytiau o fwd a thoeau sinc ar eu pennau, ond roedd eglwys y pentref yn newydd ac yn enfawr. Yn ôl Gwilym mi fuodd anghydfod rhwng y barwn cyffuriau oedd yn berchen ar yr holl dir oddi cwmpas a rhai o'r pentrefwyr. Cafodd dau neu dri eu lladd ac er mwyn ennill maddeuant adeiladodd y barwn eglwys ar gyfer y gymuned.
Beth oedd y profiad mwyaf rhyfedd ges ti ar dy deithiau?
Mae cymaint i'w dewis. Efallai mai rhaglen Dei a Tom yn chwilio am Timbuktu sy'n sefyll allan. Ro'n i'n teithio ar gefn camel, ar droed ac ar yr afon Niger. Pan oedd hi'n nosi byddai'r cychod yn tynnu mewn i'r lan a ninnau'n cysgu ar doeau mwd y pentrefi.
Roedd pawb yn lapio'u hunain mewn rhwyd er mwyn atal y mosquitos ac yn defnyddio'n dillad fel clustogau o dan ein pennau. Ges i'r anrhydedd o aros ar do y gitarydd Ali Farka Touré!
Un bore daeth plentyn o'r pentref atom a gofyn os oeddwn ni eisiau mynd i weld yr esgyrn yn y graig? Bant â ni i fyny'r creigiau tuag at y lle roedd y pentrefwyr yn claddu'r meirw. Y gred oedd bod y cyrff yn agosach at y nefoedd yno.
Dwi'n cofio sylwi fod y cyrff wedi eu lapio mewn cewyll o frwyn ac roedd tipyn o rai byr yn eu plith. Nes i ddarganfod ar ôl i mi ddychwelyd fod pennaeth y pentref yn aberthu plant er mwyn gofyn am law. Dim ond tri deg mlynedd yn ôl oedd hyn. Mae'n parhau i wneud i mi deimlo'n annifyr heddiw!
Wyt ti erioed wedi cael dy demtio i symud i fyw i un o'r gwledydd nes ti ymweld a nhw?
Na, oherwydd ro'n i bob amser yn falch i ddod adre ar ôl bob trip. Dwi'n falch fy mod i'n Gymro ac yn byw yng Nghymru yn enwedig ar ôl i mi weld yr holl dlodi sydd yn y byd. Mae teithio'n braf a dwi'n gwerthfawrogi'r hyn dwi 'di brofi a'i weld ond mae'n medru bod yn anodd hefyd.