Cerddor wedi cael ei sarhau'n hiliol yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Morris PleasureFfynhonnell y llun, Morris Pleasure
Disgrifiad o’r llun,

Mae Morris Pleasure yn gyn-aelod o'r band Earth, Wind and Fire

Mae cerddor blaenllaw o'r Unol Daleithiau yn dweud y cafodd ei dargedu mewn ymosodiad hiliol yn Aberystwyth.

Dywedodd Morris Pleasure, sy'n cael ei adnabod fel Mo, ei daro ar gefn ei ben a'i sarhau yn hiliol wrth iddo fynd mewn i glwb nos Pier Pressure yn oriau mân fore Sul.

Fe wnaeth y cerddor - cyn-aelod o'r band Earth, Wind and Fire - adael y clwb nos bum munud wedi'r digwyddiad.

Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i achos honedig o ymosod ar sail hil.

'Ei alw'n bob enw dan haul'

Mae Mo Pleasure bellach yn byw yn Aberystwyth gyda'i bartner Kedma Macias, a dywedodd hi ei fod ar noson allan gyda'i chwiorydd hi ar y pryd.

"Roedd Mo yn cerdded i mewn i'r clwb, ac fe gafodd ei slapio ar gefn ei ben," meddai.

"Pan drodd o gwmpas cafodd ei alw'n bob enw dan haul - pob peth hiliol allwch chi ei ddychmygu."

Dywedodd fod y dyn wedi rhegi ar ei phartner a chyfeirio at liw ei groen.

Ffynhonnell y llun, Morris Pleasure
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mo Pleasure bellach yn byw yn ardal Aberystwyth gyda'i bartner Kedma Macias

"Fel dyn du o America mae wedi profi hiliaeth trwy'r adeg - mae'n 59, ac mae o'r de felly mae wedi tyfu fyny gyda hynny - ond dyw erioed wedi cael profiad fel hyn yn Aberystwyth," meddai Ms Macias.

"Mae wedi'i ypsetio gan hyn ac wedi blino gyda'r peth - mae'n rhywbeth mor negyddol.

"Mae gennym ni ferch dy'n ni'n magu yn yr ardal yma - dydyn ni ddim eisiau iddi hi weld pethau fel hyn."

Dywedodd Ms Macias fod ei phartner wedi disgrifio'r dyn fel rhywun yn ei 30au canol, tal gyda gwallt tywyll cyrliog, ond does dim lluniau CCTV ohono.

CCTV wedi'i basio i'r heddlu

Dywedodd Lee Price, rheolwr Pier Aberystwyth, sy'n cynnwys y clwb nos Pier Pressure fod gwrthdaro wedi bod rhwng y ddau ddyn wedi'r digwyddiad a bod aelod o staff oedd yn gweithio ar y drws wedi ymyrryd.

Ychwanegodd fod y person yr oedd Mr Pleasure yn honni oedd wedi'i sarhau wedi cael gwybod na fyddai hiliaeth yn cael ei oddef ac na fyddai croeso iddyn nhw.

Dywedodd nad oedd y staff wedi clywed yr iaith hiliol, a'u bod wedi rhoi fideo CCTV i'r heddlu.

Pynciau cysylltiedig