Dyn yn cyfaddef dynladdiad ei nain yn Rhiwabon
- Cyhoeddwyd
![Car heddlu tu allan i dŷ Susan Hannaby yn Rhiwabon](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/140C8/production/_116902128_ruabon4.jpg)
Mae dyn 26 oed wedi cyfaddef dynladdiad ei nain ym mis Chwefror y llynedd.
Cafodd corff Susan Hannaby, 69, ei ganfod yn dilyn tân yn ei thŷ.
Roedd Kyle Ellis o Riwabon ger Wrecsam wedi gwadu llofruddiaeth, ond fe wnaeth y llys dderbyn ei ble i gyhuddiad o ddynladdiad.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod gan Ellis sgitsoffrenia, a bod ganddo "salwch dwys" ar y pryd.
Mae Ellis yn cael ei gadw mewn uned iechyd meddwl diogel, a bydd yn cael ei ddedfrydu ym mis Mai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2021