Mayhill: Chwech arall yn pledio'n euog wedi'r terfysg
- Cyhoeddwyd
Mae chwe pherson arall wedi pledio'n euog i gymryd rhan yn nherfysgoedd Mayhill yn Abertawe y llynedd.
Plediodd Joshua Cullen, 31, a Keiran Smith, 19, o Mayhill, Christopher Munslow, 22, a Keiron Argent, 18, o Townhill, Niamh Cullen, 18, o Waunarlwydd a Mitchell Meredith, 19, o Borth Tennant, i gyd yn euog o derfysg.
Bu i Meredith hefyd bledio'n euog o losgi bwriadol a bod yn ddi-hid ynghylch a fyddai bywyd rhywun arall yn cael ei beryglu.
Mae pump o ddynion wedi pledio'n ddieuog o fod yn rhan o'r anhrefn, gyda disgwyl i'w achosion gael eu cynnal fis Awst.
Y rheiny ydy Lewis James, 20, Connor Beddows, 22, Kian Hurley, 23, Kye Dennis, 24, ac Aaron Phillips, 23.
Bydd y rheiny a blediodd yn euog yn Llys y Goron Abertawe fore Gwener yn cael eu dedfrydu yn ddiweddarach.
Cyhuddwyd cyfanswm o 27 mewn cysylltiad â'r digwyddiad ar Ffordd Waun Wen, Mayhill, fis Mai 2021.
Mae tri pherson yn eu harddegau eisoes wedi'u dedfrydu, mae wyth o ddynion wedi pledio'n euog yn barod, yn ogystal â thri arall am eu rhan ddydd Iau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2022