Dom James: Jamaica, Cymru y Frenhiniaeth a fi

  • Cyhoeddwyd
Dom JamesFfynhonnell y llun, Dom James
Disgrifiad o’r llun,

Y cyflwynydd a cherddor Dom James

Bu gwrthwynebiad chwyrn gan ymgyrchwyr o Jamaica i ymweliad y Frenhiniaeth i'r ynys ym mis Mawrth 2022.

Ar gyrhaeddiad Dug a Duges Caergrawnt yn y Caribî, wnaeth ymweld o flaen dathliadau'r jiwbilî eleni, bu protestiadau gan bobl Jamaica yn galw am ymddiheuriad ac iawndaliadau gan y Teulu Brenhinol am ei rôl mewn sefydlu caethwasiaeth yno yn yr 16eg ganrif.

Wrth i'r wlad agosáu at ddathlu 60 blynedd o annibyniaeth fel trefedigaeth yr Ymerodraeth Brydeinig mae nifer o bobl Jamaica eisiau gweld eu gwlad yn dilyn esiampl Barbados wnaeth ddod yn weriniaeth y llynedd.

Mae'r protestio wedi taflu goleuni ar hanes caethwasiaeth a choloneiddio Jamaica a pherthynas yr ynys gyda Prydain, yn cynnwys y miloedd o bobl gafodd eu hail-leoli oherwydd caethwasiaeth ac yn hwyrach o ganlyniad i Windrush rhwng 1948 a 1970, pan symudwyd hanner miliwn o bobl o ynysoedd y Caribî er mwyn ail adeiladu Ynysoedd Prydain wedi'r Ail Ryfel Byd.

Un sydd yn ddisgynnydd o Genhedlaeth Windrush ydi'r cyflwynydd a cherddor Dom James o Gaerdydd sydd, wrth fynd yn hyn, yn parhau i addysgu ei hun am hanes y wlad y ganwyd ei Dad, ei achau, ei hanes fel person a'i hunaniaeth fel Cymro-Jamaicaidd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl pôl piniwn y Jamaica Observer yn 2020 roedd 55% o blaid cael gwared â'r Frenhines, roedd 30% eisiau ei chadw a doedd 15% ddim yn gwybod naill ffordd

'Ddim yn gwybod unrhyw beth'

"Do'n i heb rili cael y siawns i archwilio ochr Jamaican fi pan o'n i'n ifanc," meddai Dom James, 24, sy'n gyn disgybl yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd.

"O'n i wastad yn teimlo rhyw link cryf i Jamaica achos doedd 'na ddim llawer o fois du oed fi yn yr ysgol. Oedd 'na cwpwl ohonom ac roedd y mwyafrif ohonom yn hanner Jamaican hefyd a gyda theulu o'r Caribî.

"Ond doeddwn i ddim yn gwybod unrhyw beth am bwy o'n i. Mae hanes y Jamaicans yn gymhleth.

"Ond ers tyfu lan fi wedi gwneud fy research fy hun ac actually edrych mewn i hanes fi fel person a lle fi 'di dod."

Ffynhonnell y llun, Dom James
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dom James yn cyflwyno cyfres Dom yn Dangos ar Hansh yn ogystal a chreu cerddoriaeth

Ar ôl sgwrs gyda'r cyflwynydd a cherddor Cymraeg-Jamaicaidd "anhygoel" Aleighcia Scott, cafodd Dom ei sbarduno i ymchwilio mwy i'w hanes.

"Doeddwn i ddim yn gwybod am Windrush. Nes i ddysgu am y ffaith fod llawer ohonom ni wedi dod i fan hyn i helpu adeiladu'r holl o Brydain fel yr NHS a'r docks.

"Felly nes i ddechrau gofyn cwestiynau i Dad fi a nes i ddysgu bo' gen i dal llwyth o deulu yn Jamaica ac addysgu fy hunain am y diwylliant a'r bwyd.

"Wedyn nes i wneud deep dives ar y we a gweld yr hanes crazy caethwasiaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o genhedlaeth Windrush yn cyrraedd Prydain o Ynysoedd y Caribî

'Rydyn ni'n wlad ein hunain'

Xamayca oedd enw'r ynys yn wreiddiol pan roedd llwythau yn bodoli yno o tua 600 OC (oed Crist). Yn 1495 daeth yr ynys o dan reolaeth Sbaen a Christopher Columbus cyn i Brydain ei gipio yn 1655.

Roedd Sbaen yn gyfrifol am gludo cannoedd o bobl Affricanaidd i'r ynys fel caethweision, ond cludwyd y mwyafrif ohonynt yno yn hwyrach gan Brydain gan eu hadleoli o'u cartrefi gwreiddiol yn Nwyrain Affrica.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Am dros 200 mlynedd roedd Prydain wrth wraidd y fasnach caethwasiaeth. Yn ôl cofnodion llongau amcangyfrifwyd bod 12.5 miliwn o bobl wedi'u cludo fel gaethweision o Affrica i'r Caribî ac America

Dihangodd llawer o'r caethweision i fyw yn annibynnol ym mynyddoedd yr ynys ddaeth i'w hadnabod fel y Maroons.

"Dyw hanes caethwasiaeth a choloneiddio Jamaica ddim yn huge, hynny yw, dyw e ddim yn hir iawn i gymharu â gweddill hanes Jamaica," meddai Dom.

"Oherwydd hynny dyw Jamaica heb gael y siawns i fod yn lle sydd wedi gallu adeiladu fel gwlad ei hun a chael yr annibyniaeth yna i allu dweud 'rydyn ni'n wlad ein hunain'.

"Fel roedd Andrew Holness, Prif Weinidog Jamaica wedi dweud... 'mae'n bryd i ni symud ymlaen a dechrau adeiladu fel gwlad ein hunain' - a dyna yw'r peth gorau i fod yn onest."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Protestwyr yn Kingston, prifddinas Jamaica

'Rhoi'r darnau at ei gilydd'

Ni chafodd Dom unrhyw addysg am hanes caethwasiaeth a choloneiddio pan oedd yn ifanc ac mae'n falch y bydd hanes pobl ddu yn cael eu cyflwyno i gwricwlwm ysgolion Cymru o fis Medi eleni yn dilyn ymgyrch Black Lives Matter.

"Es i drwy'r ysgol heb ddeall bod black Kings a black Queens a phethau fel 'na. Doeddwn i ddim yn gwybod unrhyw beth am fy hanes.

"Nes i ddod i ddeall fod Cymru efo rhan huge mewn caethwasiaeth hefyd - doeddwn i ddim yn gwybod hwnna. Roedd un o'r teuluoedd mwyaf yng Nghymru yn berchen ar lwyth o dir a estates lawr yna.

"Roedden nhw yn un o'r teuluoedd gyda'r mwyaf o gaethweision - roedd o yn crazy dysgu hwnna a mynd yn ôl a rhoi'r darnau gyda'i gilydd a thrio deall be' sydd angen cael ei dalu yn ôl nawr."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Syr Henry Morgan o Lanrymni yn berchen ar lawer iawn o dir yn Jamaica ac fe dreuliodd gyfnod fel Is-lywodraethwr y wlad. Mae'n enghraifft o'r ystod eang o Gymry wnaeth chwarae rhan mewn caethwasiaeth yno

Er nad oedd Cymru yn ddiniwed yn ei ran mewn caethwasiaeth, fel Cymro mae Dom yn deall fod llawer o Gymru hefyd yn anghyffyrddus gyda'r Frenhiniaeth. Ac er ei fod yn amhosib cymharu'r caledi mae Jamaica a Chymru wedi profi yn hanesyddol, mae rhai cymariaethau yn bodoli meddai.

"Fi wastad yn dweud fi yn Gymraeg a Jamaican, pan oeddwn yn ifanc roeddwn yn galw fy hunan yn 'Walaican'!

"Mae 'na linc rhwng Cymru a Jamaica o ran yr annhegwch o dan y Frenhiniaeth. Dyw Cymru ddim angen y Frenhiniaeth chwaith, rydyn ni yn entity ein hunain.

"Dyma be' dwi wedi teimlo ers dwi'n ifanc a dyma be' mae teulu fi wedi dweud wrtho fi.

Ond mae "identity crisis" amlwg ar draws Cymru, meddai Dom, ac mae'n crybwyll mai'r rheswm dros hynny yw'r ffaith fod y wlad wedi bod yn ddiwylliant lleiafrifol o dan reolaeth Brydeinig, fel pobl Jamaica, ers amser mor hir.

"O ganlyniad mae gan bobl y teimlad o golli hunaniaeth a cholli pwy ydyn nhw. Ond rydyn ni'n darganfod cryfder o hynny."

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan Lwp

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan Lwp

"Mae'n bwysig edrych mewn i'n hanes"

Mae Dom yn ymfalchïo yn ei wreiddiau Cymraeg ar ochr ei fam a'i wreiddiau Jamaicaidd ar ochr ei Dad, ac yn dweud fod hyn galluogi iddo ddeall Cymru heddiw.

"Mae Cymru yn gartref i loads o bobl fel fi - pobl hil gymysg, pobl Jamaican, Nigerians, Somalis a llwyth o bobl sydd wedi mynd trwy gaethwasiaeth ac wedi dod yma a chreu cartref oherwydd Windrush.

"Mae'r balchder dwi'n teimlo fel Cymro yn enfawr. Ym mhopeth dwi'n gwneud... mae Cymru wastad wedi bod yn rhan ohonof i.

"Fi eisiau gweld mwy o bobl sydd yn cynrychioli Cymru nawr - o wahanol hil, yn siarad yr iaith ac yn teimlo'r cryfder o fod yn Gymraeg a chymysgu diwylliannau."

Ffynhonnell y llun, Eric Aydin-Barberini

Yn y cyfamser mae Dom yn bwriadu edrych yn bellach mewn i hanes Jamaica a'i achau.

"Mae'n bwysig i ni edrych mewn i'n hanes a lle rydyn ni'n dod. Mae'n helpu ni ddeall a chyrraedd lle rydyn ni nawr a deall pam ein bod eisiau bod yn annibynnol o'r Frenhiniaeth.

"Dwi eisiau edrych mewn nawr i lle rwyf wedi dod o cyn Jamaica a sut nes i gyrraedd yno - nes i ddod Ethiopia neu Nigeria?

"Mae loads o hanes i edrych mewn iddo yn Jamaica ac os rydych chi yn Jamaican neu gyda theulu yno edrychwch mewn i'r peth."

Hefyd o ddiddordeb: