Angen 'mwy o barch': Dewis 74 cynghorydd heb etholiad

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Nerys Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ystadegau'n "arwydd eitha' gwael" am gyflwr llywodraeth leol yng Nghymru, meddai Nerys Evans

Bydd dros 70 o gynghorwyr sir ar draws Cymru yn medru hawlio eu seddau ym mis Mai heb orfod sefyll etholiad.

Fydd yna ddim gornest mewn 74 o seddi gyda'r mwyafrif o'r rhai hynny wedi eu lleoli mewn dwy sir - Gwynedd a Sir Benfro.

Mae un cynghorydd lleol o Sir Benfro sydd wedi penderfynu peidio sefyll eto yn dweud bod angen "newid gwleidyddiaeth Cymru" fel bod "mwy o barch" ym maes llywodraeth leol, ar ôl honni iddo ddioddef ymosodiadau personol chwerw.

Mae'r nifer wedi gostwng ers etholiadau lleol 2017 - yr adeg honno doedd yna ddim etholiad mewn 92 o wardiau.

'Siomedig ond sai'n synnu'

Mae 28 o'r 74 sedd yng Ngwynedd - sydd yn cyfateb i 41% o'r cynghorwyr.

Yn Sir Benfro fydd yna ddim pleidlais mewn 19 o seddi - rhyw 32% o'r holl seddi. Ym Mhowys, mae'r ffigwr yn saith, mae'n chwech yn Wrecsam a phump yng Ngheredigion.

Mae Cyfarwyddwr cwmni Deryn a'r cyn-Aelod Cynulliad, Nerys Evans, yn dweud bod yr ystadegau yn "hynod o siomedig" ac yn "arwydd eitha' gwael" am gyflwr democratiaeth leol yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd arwydd fel hwn i'w weld mewn 74 ward yng Nghymru eleni

"Mae'n rhoi deficit mawr i ni. Dyw e ddim yn rhoi cyfle i bobl leol ethol cynghorwyr sydd yn gwneud rôl bwysig iawn yn ein cynghorau sir - yn llywodraethu dros wasanaethau sydd yn bwysig iawn."

Mae hi'n dweud bod y sefyllfa wedi "gwaethygu" ac ei bod hi'n 'nabod sawl cynghorydd sydd yn rhoi'r gorau i'w swydd oherwydd yr "abiws maen nhw'n cael a ddim eisiau parhau gyda'r swydd".

Etholiadau Lleol 2022

Yn ôl Ms Evans mae angen ystyried pam nad yw pobl yn fodlon cynnig eu henwau.

"Mae unrhyw un sydd yn rhoi eu hunain 'mlaen ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus - maen nhw'n mynd i agor eu hunain lan i gwestiynau ac i abiws ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Mae'n wir am gynghorwyr lleol sydd wedi eu gwreiddio yn eu cymunedau ac mae pawb yn gwybod ble maen nhw'n byw.

"Sai'n synnu bod rhai pobl yn gwrthod rhoi eu henwau mlaen yn y lle cyntaf. Mae hynny yn effeithio ar y penderfyniadau ni'n gweld yn ein cynghorau.

"Ni ddim yn cael y bobl orau yn dod trwyddo.

"Er mwyn cael y penderfyniadau gwleidyddol gorau ar ein cynghorau ni mae'n rhaid i'n cynghorwyr adlewyrchu cymdeithas yn ei chyfanrwydd.

"Yn anffodus dyw hynny just ddim yn digwydd o gwbl. Mae yna ddiffyg o ran amrywiaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ffaith bod Huw George yn weinidog yn "destun sbort a chwerthin", meddai

Un sydd yn rhoi'r gorau i'w swydd ydy'r Parchedig Huw George, ar ôl 16 mlynedd fel cynghorydd "yn sgil ymosodiadau personol" arno fel unigolyn.

"Mae'r ymosodiadau personol wedi bod yn cynyddu dros y blynyddoedd ac wedi bod yn ffyrnig ac yn chwerw ac mae yna amser yn dod pan chi'n gorfod, er eich lles eich hunan, dynnu llinell," meddai.

"O fewn y cyngor, sdim llais gyda ni fel rhai y meinciau cefn. Tu allan i'r cyngor, fel aelod o'r cyhoedd, falle bod mwy o gyfle 'da fi i daflu golau ar hyn sydd yn digwydd yn Neuadd y Sir."

'Diwylliant o chwerwder'

Mae'n cyfaddef bod yr ymosodiadau gan gyd-gynghorwyr wedi mynd yn drech nag e.

"Dwi o blaid addysg Gymraeg. Roedd y pethau roedd pobl yn dweud ac yn gwneud yn ofnadwy. Dwi'n Gristion ac yn weinidog ond roedd hynny yn destun sbort a chwerthin.

"A chi'n dechrau meddwl wedyn, pam codi yn y bore a rhoi eich hunan drwy hynny? Roedden nhw'n meddwl fod hi'n sbort. Mae eisiau newid y diwylliant, yn bendant.

"Mae yna ddiwylliant o chwerwder yn perthyn i'r cyngor. Mae'n rhaid i wleidyddiaeth newid yng Nghymru fel bod ni'n parchu ein gilydd.

"Anghytuno, ond sdim rhaid mynd dros ben llestri a mynd yn bersonol am bob dim."

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Yng Ngheredigion, mae Ceredig Davies yn camu lawr ar ôl cynrychioli ward Canol Aberystwyth am 18 mlynedd.

Mae'n dweud ei fod yn deall pam na fyddai llawer o bobl yn dewis ymgeisio i fod yn gynghorydd.

"Os ydych chi yn rhoi eich hunan ymlaen y'ch chi yn mynd i gael eich herio - does dim problem gyda cael eich herio ond ambell waith mae pobl yn mynd dros ben llestri ac yn bersonol iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sylwadau gan y cyhoedd yn cael effaith ar deuluoedd, yn ogystal â chynghorwyr, meddai Ceredig Davies

"Ac ers mae social media wedi dod yn rhywbeth mor amlwg, mae lot o gynghorwyr wedi'i chael hi'n galed iawn, a dy'n nhw ddim mo'yn hwnna.

"Unigolion ydyn nhw, pobl sydd a theuluoedd eu hunain a dy'n nhw ddim moyn yr hassle.

"Dwi'n credu bod ni i gyd fel cynghorwyr yn magu croen dewach wrth i ni fynd yn hŷn, ond ry'n ni'n defnyddio social media er mwyn cael ein neges ni drosodd, ond ambell waith mae'r neges sy'n dod 'nôl yn cymryd pethau'n llawer rhy bersonol, ac mae'n cael effaith ar y teulu.

"Mae 'efo ni gwragedd a phlant, ac mae rheiny yn teimlo fe hefyd amser mae eu gwyr neu wragedd yn cael y fath abiws ar social media."

Codi cwestiwn am uno cynghorau

Roedd Nerys Evans yn aelod o Gomisiwn Williams yn 2014 wnaeth ystyried ad-drefnu cynghorau.

Mae hi'n dweud bod y diffyg ymgeiswyr yn codi'r cwestiwn unwaith eto am uno cynghorau.

"Mae'n rhaid mynd i'r afael gyda beth yw rôl awdurdodau lleol ar hyn o bryd. Mae'r rhesymau dal yn ddilys a theilwng sef i gael y gwasanaeth gorau drwy ad-drefnu."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro nad oedd hi'n bosib ymateb i sylwadau Huw George yn y cyfnod cyn etholiad.