Cynllun £3.5m i ailwampio amgueddfa forwrol ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Cynlluniau ehangu'r amgueddfa forwrolFfynhonnell y llun, DEWIS Architecture
Disgrifiad o’r llun,

Dyma sut mae disgwyl i'r amgueddfa forwrol edrych os caiff y cynllun ei wireddu

Mae'r gwirfoddolwyr sy'n rhedeg amgueddfa forwrol ar Ynys Môn yn gobeithio ehangu'n sylweddol fel rhan o gynllun gwerth £3.5m.

Does fawr o gymunedau yng Nghymru sydd wedi'i chysylltu'n agosach â'r môr na Chaergybi, sy'n adnabyddus am ei phorthladd prysur a'r gwasanaethau rheolaidd i Iwerddon.

Ond tra bod amgueddfa wedi bod yn adrodd hanes morwrol gyfoethog yr ardal ers canol yr 1980au, gobaith cefnogwyr yw ehangu'n sylweddol dros y blynyddoedd i ddod.

Mae'r amgueddfa wedi'i leoli yng nghwt bad achub cyntaf y dref, credir i fod yr hynaf yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Amgueddfa Forwrol Caergybi fel mae'n edrych ar hyn o bryd, wedi'i leoli yng nghwt bad achub cyntaf y dref

Yn y gobaith o sicrhau cyllid fel rhan o gynllun codi'r gwastad Llywodraeth y DU, mae cais cynllunio wedi'i gyflwyno i Gyngor Môn ar gyfer estyniad o'r safle yn ardal Newry y dref.

Os yn llwyddiannus, byddai'r arddangosfeydd presennol yn cael eu symud i'r adeilad newydd sbon.

Byddai hyn yn galluogi'r amgueddfa i drawsnewid yr adeilad cyfredol - oedd yn gartref i fad achub cyntaf y dref - fel arddangosfa i un o gychod hanesyddol yr ynys, wedi'i ddylunio i edrych fel cwt o'r cyfnod.

Y Thomas Linghamoedd cwch bad achub Rhosneigr o 1904 tan cau'r orsaf yn 1924, yn dilyn pryderon bod arfordir y pentref yn rhy beryglus i gynnal gorsaf ei hun.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Forwrol Caergybi
Disgrifiad o’r llun,

Cwch achub y Thomas Lingham yn dychwelyd nol i Gymru yn 2017, gyda'r gobaith o'i arddangos yn barhaol.

Yn 2016 penderfynodd yr amgueddfa achub y cwch wedi iddo'i ddarganfod mewn cyflwr truenus mewn cae yn Ffrainc.

Credir mai'r Thomas Lingham yw un o'r cychod hynaf o'i fath sydd â chysylltiad â'r ynys ac sydd wedi goroesi.

Yn ôl y cais sydd wedi'i gyflwyno i gynllunwyr Cyngor Môn, mae'r adeilad y bad achub gwreiddiol yn deillio'n ôl i tua 1850, cyn iddo'i drawsnewid i gartref yr amgueddfa forwrol yn 1996 wedi sawl defnydd arall.

Yn adeilad rhestredig Gradd II, mae'r amgueddfa'n dweud mai'r cwt bad achub byddai canolbwynt yr atyniad ar ei newydd wedd.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Forwrol Caergybi
Disgrifiad o’r llun,

Cartref presennol Amgueddfa Forwrol Caergybi pan roedd yn orsaf bad achub

Neil Humphreys yw un o dywyswyr gwirfoddol yr amgueddfa, tra'i fod hefyd yn un o'r ymddiriedolwyr.

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Y prif atyniad, dwi'n meddwl, ydy'r adeilad ei hun sef y cwt bad achub gwreiddiol.

"Ond pan maen nhw'n cyrraedd yma mae'r arddangosfeydd RNLI a Capten Skinner i'w gweld yn boblogaidd iawn.

"Dwi'm yn meddwl bod pobl wastad yn gwerthfawrogi'r hanes sydd yma ar ei stepan drws, mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n ymweld yn dwristiaid mwy na phobl leol.

"Ond dwi'n siŵr tasa nhw'n dod yma y byddan nhw'n sylweddoli pa mor gyfoethog ydy hanes Caergybi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil Humphreys yn gwirfoddoli yn yr amgueddfa ers pum mlynedd

Ymysg yr arddangosfeydd yn yr amgueddfa mae modelau o rai o'r cychod sy'n gysylltiedig â'r dref, yn ogystal ag arteffactau yn deillio o longddrylliau adnabyddus.

Ymysg y rheiny mae'r llong danfor HMS Thetis, a'i collwyd yn 1939 gan arwain at farwolaeth 99 o bobl, gydag ond pedwar yn goroesi. Mae'r mwyafrif wedi'u claddu yn y dref.

Mae hefyd adran yn coffau'r Connemara, sef llong oedd yn teithio rhwng Caergybi a phorthladd Greenore yn Iwerddon pan fu mewn damwain gyda llong yn cludo glo, y Retriever yn 1916.

Disgrifiad o’r llun,

Model o'r Connemara, a'i suddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Roedd holl griw'r Connemara, sef 30 i gyd, yn dod o Ynys Môn gydag ond un dyn o'r ddwy long yn goroesi.

Yn ôl Tudor Roberts, cadeirydd yr amgueddfa dros gyfnod o 18 mlynedd, mae'n rhaid disgwyl am benderfyniad cynllunwyr y cyngor sir yn ogystal â dyfarniad Llywodraeth y DU ynglŷn â'r cyllido angenrheidiol.

"Mae'n llawn iawn yma, mae'r cypyrddau a'r arddangosfeydd yn llawn dop," meddai wrth Cymru Fyw.

"Dwi'n teimlo'n gryf fod angen i'r amgueddfa ehangu i oroesi.

Disgrifiad o’r llun,

Tudor Roberts: "Mae 'na gais cryf iawn yn mynd i fewn o Gaergybi"

"'Da ni wedi cyflwyno'r cynlluniau ar gyfer yr ehangu hwnnw i'r cyngor, ac os byddwn yn llwyddiannus efo'r cynllunio a'r cais levelling up yna 'da ni'n gobeithio cario allan y prosiect 'ma.

"Fydd be sydd 'na ddim yn unig ar gyfer yr amgueddfa forwrol ond yn ganolbwynt twristiaeth hefyd, yn cyfeirio ymwelwyr at atyniadau arall yn yr ardal.

"Ar hyn o bryd 'da ni'n edrych ar gost o tua £3.5m, ond mae 'na gais cryf iawn yn mynd i mewn o Gaergybi, felly croesi bysedd nawn ni gyrraedd yna."

Mae'r cais am arian o Gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU wedi ennyn cefnogaeth wleidyddol ar yr ynys, gydag aelodau lleol y ddwy senedd yn gefnogol i gynlluniau'r amgueddfa.

Disgrifiad o’r llun,

Gyda arfordir Môn yn adnabyddus am fod yn ddigon peryglys, mae badau achub y dref wedi derbyn 49 medal am ddewrder

Mae cais y cyngor sir wedi'i ganolbwyntio ar Caergybi, er cydnabyddiaeth bod Ynys Môn yn cael ei chysidro fel ardal eilradd o ran blaenoriaeth gan weinidogion sy'n gweinyddu'r cynllun.

Dywedodd Aelod Seneddol yr Ynys, Virginia Crosbie: "Credaf byddai adfywio Caergybi yn cefnogi adfywio'r ynys gyfan ac mae'r cais hwn yn rhan bwysig ohono.

"Rwyf wedi awgrymu y dylid tynnu ceisiadau Caergybi at ei gilydd yn un cais i adfywio'r dref. Byddai'r cais hyd at £20m.

"Mae cynlluniau'r Amgueddfa Forwrol wedi creu argraff arnaf. Mae'n atyniad gwych gydag uchelgais mawr."

Disgrifiad o’r llun,

Ffenest achubwyd o Eglwys Sant Seiriol y dref, gafodd ei ddymchwel yn 1992

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth, sy'n cynrychioli Môn yn Senedd Cymru: "Mae'r amgueddfa'n cynnig cymaint o gyfle i drigolion lleol a thwristiaid ddysgu mwy am hanes morwrol cyfoethog Caergybi, diolch i'r tîm ymroddedig o wirfoddolwyr y tu ôl iddo.

"Mae gena'i atgofion melys o ymweld dros y blynyddoedd, ac mae'r potensial o'i weld yn datblygu yn un rwyf yn ei groesawu."