Pennu amserlen achos dynladdiad merch 16 oed o Bowys
- Cyhoeddwyd
![Llys Y Goron Yr Wyddgrug](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/4269/production/_110810071_mold.jpg)
Roedd gwrandawiad diweddaraf yr achos yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug fore Iau
Mae disgwyl mai fis Ionawr nesaf y bydd dau berson o Bowys yn sefyll eu prawf ar gyhuddiad o achosi dynladdiad merch yn ei harddegau trwy adael iddi fynd yn beryglus o ordew.
Cafwyd hyd i Kaylea Louise Titford, oedd yn 16 oed, yn farw yn ei chartref yn Y Drenewydd ym mis Hydref 2020.
Mae ei rhieni - Alan Titford, 44, a Sarah Jane Lloyd-Jones, 39, yn cael eu cyhuddo o achosi neu ganiatáu'r farwolaeth drwy esgeulustod difrifol.
Mewn gwrandawiad yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug ddydd Iau, fe gofnodwyd 30 Mehefin ar gyfer gwrandawiad ble y bydd disgwyl i'r ddau gyflwyno ple.
Hefyd fe gofnodwyd 16 Ionawr fel dyddiad tebygol dechrau'r achos llawn, sy'n debygol o bara rhwng tair a phedair wythnos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2022