Archesgob: 'Y Pasg yn cynnig gobaith i fyd sy’n dioddef'

  • Cyhoeddwyd
Archesgob CymruFfynhonnell y llun, Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Archesgob Cymru, Andrew John: 'Anodd ac yn erchyll i weld be sy'n digwydd yn Wcráin'

Bydd Archesgob yr Eglwys yng Nghymru Cymru yn cyfeirio at y rhyfel yn Wcráin a'r pandemig wrth sôn am "ymdeimlad o ofn yn y byd" ond fod cyfnod y Pasg yn cynnig gobaith.

Yn ei Neges Basg o Gadeirlan Deiniol Sant, Bangor, bydd Archesgob Andrew John hefyd yn cyfeirio at Afghanistan, Myanmar, Yemen, fel dim ond rhai o'r mannau sydd wedi'u hanrheithio gan ryfel.

Mewn cyfweliad cyn ei bregeth flynyddol dywedodd yr Archesgob fod y gred Gristnogol a hanes yr atgyfodiad yn rhoi gobaith.

"Mae'n anodd ac yn erchyll i weld be sy'n digwydd yn Wcráin," meddai.

"Yn ymarferol, ymatebwch. Mae [elusen] Cymorth Cristnogol yn gofyn am bres ac am help a diolch bod pobl sy'n gallu ymateb i'r bobl sy'n dod atom o Wcráin.

"A dwi'n siŵr bydd angen rhoi dillad a phres ychwanegol i helpu pobl cael eu setlo."

Ffynhonnell y llun, Eglwys yng Nghymru

Yn ei bregeth bydd yn dweud ei bod yn amhosibl edrych ar y byd ar hyn o bryd heb deimlo "arswyd, dolur, llanast a cholled".

Bydd o'n cyfeirio hefyd at Covid-19 ac yn holi "rydyn ni'n dal yn tueddu i ofyn a ddaw pethau byth yn ôl fel ag yr oedden nhw cyn y pandemig".

Yn ei gyfweliad cyn y bregeth dywedodd ei fod yn cofio "am y bobl sydd wedi colli rhywun pwysig".

"Wrth i ni ddod allan o'r tywyllwch i'r goleuni mae'n atgoffa fi o'r atgyfodiad oherwydd rydym yn profi ac yn derbyn math newydd o fywyd."

Bydd yn dweud yn ei neges fod yn hawdd anghofio fod yna obaith.

"Anghofio er gwaethaf yr arswyd, er gwaethaf y dolur, er gwaethaf y llanast, er gwaethaf y golled, mai'r hyn sydd gennym yn atgyfodiad Iesu yw sail sicr a chadarn o obaith."

Bydd yr Archesgob, Andrew John, yn pregethu yng Nghadeirlan Deiniol Sant, Bangor, ar Sul y Pasg.

Pynciau cysylltiedig