Pêl-droedwyr ifanc Rhuthun yn ymarfer gyda Brasil

  • Cyhoeddwyd
Brasil a RhuthunFfynhonnell y llun, Bryn Edmunds
Disgrifiad o’r llun,

Carfan dan-16 Brasil gyda rhai o chwaraewyr ifanc Rhuthun yn Ninbych

Cafodd rhai o chwaraewyr ifanc clwb pêl-droed Rhuthun ymarfer anarferol iawn yn Ninbych nos Fercher, wrth iddyn nhw gael ymuno â sesiwn hyfforddi carfan dan-16 Brasil.

Mae'r gogledd wedi bod yn gartref i Dwrnament Datblygiad UEFA yr wythnos hon, wrth i fechgyn dan-16 Cymru herio Sbaen, Twrci a Brasil.

Fe fydd Cymru'n wynebu Sbaen nos Iau wedi iddyn nhw golli o 2-1 yn erbyn Brasil a chael gêm gyfartal 4-4 yn erbyn Twrci.

Wrth i garfan Brasil baratoi i chwarae yn erbyn Twrci yn Y Fflint nos Iau, fe wnaeth rhai o chwaraewyr Rhuthun ymuno â nhw ar gyfer eu hymarfer yn Ninbych.

"Bydd 'na rai ohonyn nhw yn chwaraewyr proffesiynol mewn rhyw bum mlynedd, ella'n chwaraewyr byd enwog," meddai un o'r chwaraewyr ffodus, Gwion Williams.

"Mae just meddwl am y ffaith bo' fi 'di cal ymarfer efo nhw, mae hwnna'n anhygoel."

'Arwyddo i Real Madrid am £9m'

Roedd yr ymarfer yn gyfle i fechgyn Rhuthun weld "sut brofiad ydy bod yn rhan o dîm proffesiynol".

Er yn ifanc, roedd rhai o chwaraewyr Brasil eisoes ar eu ffordd i ymuno â goreuon y byd pêl-droed.

"Dwi'n meddwl bod un o'r chwaraewyr newydd arwyddo cytundeb efo Real Madrid, [fydd yn dechrau] unwaith mae'n 18," medd Gwion wrth raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru.

"Dwi'n meddwl 'na £9m oedd y pris oedd y chwaraewr yna 'di mynd am."

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth tîm dan-16 Cymru golli i Frasil o 2-1 yn y twrnament ieuenctid

"Un o'r gwahaniaethau mwya' nes i sylweddoli oedd y manylder maen nhw'n mynd mewn i wrth ymarfer," medd Gwion.

Roedd hi'n her i gyfathrebu ar adegau yn sgil Saesneg cyfyngedig carfan Brasil, a diffyg Portiwgeaidd chwaraewyr Rhuthun.

"O'dd o'n andros o anodd 'neud rhai o'r drills - a bach yn embarrassing really!"

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Sgorio ⚽️

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Sgorio ⚽️

Fodd bynnag, roedd hi'n brofiad gwerth chweil, medd Gwion - ac fe gafodd y bechgyn gadw'r cit Brasil wisgon nhw i'r ymarfer.

"[Roedd derbyn y cit yn] andros o garedig, ac yn rhywbeth i gofio am y profiad," meddai.

Wedi'i ofyn beth ddysgodd carfan Brasil o gael y bechgyn yn rhan o'r ymarfer, dywedodd Gwion: "Pa mor oer ydy hi yn Rhuthun!"

"O'dd lot ohonyn nhw fatha o'ddan nhw'n rhewi, o'ddan nhw mewn cotiau gaea' mawr, mewn menig, ac yn dweud yn gaea' ym Mrasil y lleia' ydy rhyw 25 gradd Celsiws!"