Vaughan Roderick: Beth i'w ddisgwyl o'r etholiadau?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gorsaf bleidleisio

O dan gysgod rhyfel Wcráin a thrafferthion Boris Johnson mae etholiadau lleol eleni wedi denu hyd yn oed llai o sylw nag arfer.

Serch hynny, ar ddechrau'r wythnos lawn olaf o ymgyrchu mae'r pleidiau i gyd yn gweithio'n galed i ennill cefnogaeth ac, yn bwysicach efallai, yn darbwyllo eu cefnogwyr i droi allan i bleidleisio.

Ychydig iawn o etholwyr fydd yn wynebu'r fath o ddewis sydd gan bleidleiswyr ward Cathays yng Nghaerdydd lle mae 20 o ymgeiswyr yn chwennych tair sedd ar bapur pleidleisio troedfedd a hanner o hyd - y papur pleidleisio hiraf ym Mhrydain.

Dim ond yng Nghaerdydd ac, i raddau llai, Abertawe, Bro Morgannwg, Casnewydd, Sir Fynwy a Wrecsam y mae 'na ornestau amlbleidiol go iawn gyda'r pleidiau i gyd yn enwebu nifer sylweddol o ymgeiswyr.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Yn y Gymru wledig a'r Gymru ôl-ddiwydiannol ymgiprys rhwng un neu ddwy blaid ac ambell i ymgeisydd annibynnol yw'r norm.

Oherwydd natur anghyflawn yr etholiadau mewn sawl ardal mae'n anodd darllen gormod mewn i etholiadau lleol Cymru.

Yn nhermau dyfodol Boris Johnson, er enghraifft fe fydd etholiadau Lloegr a'r Alban, lle mae'r pleidiau'n ymgiprys am bron pob un sedd, llawer yn fwy dylanwadol.

Serch hynny, fe fydd 'na graffu manwl ar y canlyniadau mewn ambell ardal yng Nghymru.

Yn y gogledd ddwyrain, er enghraifft, fe fydd gwleidyddion yn ceisio mesur i ba gyfeiriad mae llanw Ceidwadol 2019, wnaeth droi'n drai yn etholiad Senedd Cymru, yn llifo erbyn hyn.

Etholiadau Lleol 2022

Fe fydd canlyniadau dinasoedd y de hefyd yn rhoi darlun go dda i ni o'r sefyllfa wleidyddol fwy eang tra bod ardaloedd ôl-ddiwydiannol y cymoedd yn cynnig her i Lafur.

Hen faes glo de Cymru oedd yr unig wal goch draddodiadol ym Mhrydain i beidio ag ildio i lif glas 2019 ond dyw gafael Llafur ar ei siambrau cyngor ddim yn gadarn gyda chymysgedd o ymgeiswyr annibynnol a rhai pleidiol yn ei herio ar draws y rhanbarth.

Fe fydd Llafur yn gwneud ei gorau i ail-sefydlu ei goruchafiaeth draddodiadol.

Fe fydd 'na ddigon o gnoi cil ar ôl yr etholiadau felly er y bydd hi'n cymryd rhai wythnosau i wybod pwy fydd yn arwain ac yn rheoli yn oddeutu hanner y cynghorau lle nad oes disgwyl mwyafrif i unrhyw un blaid.

Pynciau cysylltiedig