Beirniadu Cyngor wedi awgrym am fwyta llai o gig a llaeth

  • Cyhoeddwyd
gwartheg

Mae 'na alw am ymddiheuriad gan Gyngor Sir Penfro wedi i ddatganiad mewnol gan yr awdurdod i'w staff awgrymu y dylid torri nôl ar fwyta cig a llaeth.

Mae'r datganiad, sydd wedi dod i law BBC Cymru, hefyd yn awgrymu bod diet o fwyta planhigion yn unig yn well i iechyd.

Mae hynny wedi cythruddo nifer mewn ardal wledig.

Gan mai amaethyddiaeth yw un o brif ddiwydiannau Sir Benfro mae nifer o ffermwyr yn credu bod y Cyngor Sir wedi eu bradychu.

Dywed Cyngor Sir Penfro eu bod yn hynod gefnogol i'r gymuned wledig ac amaethyddiaeth yn gyffredinol a bod datganiad wedi ei "gynhyrchu y tu hwnt i'w gyd-destun".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Charles George sy'n ffermio yn Sir Benfro ei fod yn hynod o siomedig gyda'r datganiad

"Ro'n i'n teimlo'n siomedig iawn i glywed hynna. O'dd e bach o ergyd i'r galon - mae Sir Benfro mor wledig ac mae cymaint o amaethyddiaeth yma," meddai Charles George sy'n ffermio yn y sir.

"Maen nhw'n gweud wrth bobl i beidio bwyta cig mewn gwirionedd. Maen nhw moyn i bobl leihau faint maen nhw'n bwyta o gig a chynnyrch llaeth.

"Ma' cymaint o gynnyrch yma yn Sir Benfro - dylen nhw annog pobl i gefnogi busnesau lleol, i fwyta'n lleol."

Tanseilio'r diwydiant

Mae undeb yr NFU wedi galw am gyfarfod gyda Phrif Weithredwr Cyngor Sir Penfro, ac yn ôl cyn arweinydd y sir, y Cynghorydd John Davies, mae'r cyngor wedi anfon y neges anghywir i'w staff.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyn-arweinydd John Davies sy'n ymgeisydd annibynnol yn dweud bod y cyfan yn 'tanseilio y diwydiant amaeth'

"Yn bendant mae'r neges sydd wedi cael ei gyfleu i 6,500 o staff Cyngor Sir Penfro yn tanseilio un o brif ddiwydiannau y sir a dyma un o'r prif ddiwydiannau sy'n bwydo'r sir.

"Mae'r hen ddywediad 'Mae'n bwysig peidio torri llaw yr un sy'n eich bwydo chi' mor wir heddiw ag yw e wedi bod erioed," meddai.

Mae'r cynghorydd John Davies yn sefyll yn ddi-wrthwynebiad fel ymgeisydd annibynnol yn yr etholiadau lleol.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol "na ddylai cynghorau sir geisio rheoli be ddylai staff fwyta neu beidio bwyta".

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae'r pandemig wedi amlygu materion sydd wedi cael eu hanwybyddu yn y gorffennol, gan gynnwys ein dibyniaeth ar fewnforion.

"Wrth i ni nawr wynebu'r argyfwng cynnydd yng nghostau byw, mae angen i ni ymdrechu'n galed i gefnogi busnesau a chynhyrchwyr bwyd lleol. Dyma'r amser i adnewyddu ein cyflenwad bwyd drwy brynu'n lleol a lleihau milltiroedd bwyd."

Ychwanegodd y Ceidwadwyr Cymreig bod "camgymeriad syml" wedi "achosi pryder yn y gymuned ffermio leol".

"Mae Sir Benfro'n enwog am gynnyrch amaethyddol gwych, o safon uchel a chynaladwyedd, felly byddai'r diwydiant yn disgwyl cefnogaeth gan yr awdurdod lleol".

Dyw'r Blaid Lafur ddim wedi ymateb.

Disgrifiad o’r llun,

'Mae'n bwysig gweithredu i ddiogelu'r blaned," medd Sioned Haf Thomas sy'n wreiddiol o Sir Benfro

Yn wreiddiol o Sir Benfro ond erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd, mae Sioned Haf Thomas yn postio ar dudalen Instagram sy'n canolbwyntio ar fyw'n iach drwy feganiaeth. Mae hi'n credu bod angen cymryd camau i ddiogelu'r blaned.

"Fi'n credu bod e'n bwysig annog pobl i fwyta mwy o blanhigion. Fi'n cydnabod ei bod hi'n anodd torri cig mas yn gyfan gwbl," meddai.

"Dyw hi ddim yn hawdd ond mae pob newid bach yn gwneud gwahaniaeth hyd yn oed os yw rhywun yn torri cig mas o gwpwl o brydau'r wythnos mae'n lleihau'r effaith mae'n ei gael ar yr amgylchedd."

Ymateb Cyngor Penfro

Wrth ymateb dywedodd Cyngor Sir Penfro fod y cylchlythyr wedi ei gynnwys fel rhan o gyfres oedd yn rhoi awgrymiadau ar sut mae mynd ati i achub y blaned a bod y manylion wedi eu casglu o ffynhonnell allanol.

Fe gafodd y datganiad ei ail-gynhyrchu y tu hwnt i'w gyd-destun, ac yn ôl yr awdurdod dyw'r cylchlythyr ddim yn cael ei rannu bellach.

Maen nhw'n ychwanegu eu bod yn hynod gefnogol i'r gymuned wledig ac amaethyddiaeth yn gyffredinol.