Etholiadau Cyngor: Galw am gwotâu amrywiaeth ethnig
- Cyhoeddwyd
Mae yna alwadau ar bleidiau gwleidyddol Cymru i sicrhau lleiafswm o ymgeiswyr o gefndiroedd ethnig amrywiol.
Yn etholiadau lleol 2017, roedd llai na 2% o'r ymgeiswyr yn ddu, Asiaidd neu o leiafrif ethnig.
Gyda 5.2% o boblogaeth Cymru'n perthyn i gymunedau ethnig, dywed ymgyrchwyr bod hi'n "bryd gweithredu" a llunio rhestrau byr ar sail hil.
Mae tair o'r prif bleidiau yng Nghymru'n gwrthwynebu gosod cwotâu.
Mae'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol wedi beirniadu'r diffyg data swyddogol am gefndir ethnig ymgeiswyr etholiadau lleol eleni, ar 5 Mai.
Dangosodd arolwg ymgeiswyr etholiadau 2017, dolen allanol mai 1.8% yn unig o'r 1,682 a ymatebodd wnaeth ddatgan nad oedden nhw'n wyn.
Yn achos ambell gyngor sir, doedd dim un cynghorydd o gymuned ethnig amrywiol. Etholwyd un yn unig i gynghorau dwy o ddinasoedd Cymru - menyw Asiaidd yn Nghasnewydd, allan o 50 o seddi, a menyw ddu yn Abertawe, allan o 72 o seddi.
'Fe welwch eu potensial'
"Mae'n ddychrynllyd," meddai Evelyn James o'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN Cymru).
"Ddylai hyn ddim hyd yn oed fod yn bwnc trafod erbyn hyn, oherwydd rydym yn byw mewn cymdeithas ag amrywiaeth.
"Mae'n bwysig i ni ganiatáu i holl ddinasyddion Cymru fod yn rhan o'r broses benderfynu, i glywed eu lleisiau."
Dywed WEN Cymru mai cam cyntaf goresgyn rhwystrau fel rhagfarn, diffyg gofal plant a ffactorau ariannol yw system sy'n sicrhau bod unigolion na sy'n wyn yn cael eu hethol.
"Man cychwyn" fyddai hynny, medd Evelyn James sy'n dadlau o blaid "rhoi cyfle iddyn nhw fod wrth y bwrdd gwneud penderfyniadau - achos o'i adael i ffawd, mae llawer o rwystrau o'u blaenau sy'n eu cyfyngu".
"Os ydych yn creu system sy'n rhoi'r cyfle iddyn nhw, fe welwch y potensial sydd gyda nhw i'w gynnig."
'Dylid ystyried cwotâu gwirfoddol'
Mae'r corff sy'n cynrychioli'r awdurdodau lleol hefyd awydd sicrhau "mwy o amrywiaeth yn siambrau ein cynghorau, i sicrhau bod cynghorau'n adlewyrchu'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu".
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi cynnal cynlluniau mentora ac mae'r holl gynghorau wedi gwneud addewid i sicrhau amrywiaeth.
Ychwanegodd llefarydd bod cwotâu "yn aml yn ddadleuol yn wleidyddol" ond bod Cyngor CLlLC "yn cytuno y dylai grwpiau neu bleidiau ystyried defnyddio cwotâu gwirfoddol ac adolygu'r defnydd ohonynt yn dilyn yr etholiad".
Ond mae Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru oll yn gwrthwynebu cwotâu wrth ddewis ymgeiswyr.
Dywed y Blaid Lafur bod aelodau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill wedi eu gorgynrychioli yn rhaglenni'r blaid o ran ymgeiswyr y dyfodol.
Ond ym marn Ramesh Patel, cynghorydd Llafur yng Nghaerdydd sy'n camu'n ôl wedi dros 20 mlynedd, dydy'r blaid ddim yn gwneud digon.
"Dylem ni nawr ddechrau edrych o bosib ar restrau byr menywod yn unig o blith cymunedau amrywiol," meddai. "Mae'n teimlo bron fel bod rhaid dod dros sawl rhwystr i gael eich enw ar bapur pleidleisio a dylai hynny ddim digwydd."
Dywed Mr Patel bod cael pobl na sy'n wyn ar gynghorau Caerdydd wedi gwneud "gwahaniaeth anferthol" - yn arbennig wrth gyfathrebu gydag etholwyr mewn ieithoedd gwahanol a deall gwahaniaethau diwylliannol.
Ychwanegodd bod angen i'r "holl bleidiau gwleidyddol" sicrhau mwy o amrywiaeth ymhlith ymgeiswyr, gan ddisgrifio'r sefyllfa'n "fethiant llwyr" yng Nghymru o'i gymharu â rhannau o Loegr.
Dywed ei fod "wedi brwydro ers blynyddoedd" i Gaerdydd efelychu dinasoedd fel Llundain a Birmingham lle mae "canolfannau gofal dydd... ar gyfer cymunedau amrywiol".
"Dydy pobl ddim yn deall yr angen am hynny, ond petai gyda chi gynghorwyr mwy amrywiol, fe allen nhw roi llais i'r angen hwnnw a sicrhau rhai o'r pethau hyn."
'Diraddiol'
Ym marn y Ceidwadwyr Cymreig, mae cwotâu yn "ddiraddiol" ac "yn awgrymu bod rhai pobl mewn dosbarth neilltuol sydd angen ffafrau ar sail demograffi".
Dywedodd llefarydd bod y blaid "yn cefnogi pobl o bob cefndir i ymaelodi" a'u bod â record gref o ymgeiswyr lleiafrif ethnig yn cael eu hethol yng Nghymru.
Y cyn lawfeddyg orthopedig, Altaf Hussain oedd un o'r cynghorwyr cyntaf o dras Asiaidd ar Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr. Wedi pum mlynedd, ac ar ôl cael ei ethol y llynedd yn AS De Orllewin Cymru, mae'n camu'n ôl nawr fel cynrychiolydd ward Pen-y-fai.
I sicrhau'r ymgeisydd gorau, meddai, rhaid i'r broses ddethol fod yn agored i bawb.
"Dylai bod dim gwahaniaeth rhyngoch chi a mi," meddai. "Dydw i ddim yn credu y gallai system gwotâu weithio. Mae'n golygu, mewn gwirionedd, eich bod yn lleihau'r gystadleuaeth."
Dywed Mr Hussain bod swyddi gwleidyddol yn cael eu hystyried yn rhy ansefydlog gan lawer o fewnfudwyr sy'n dod i Gymru i ennill bywoliaeth.
Mae rhai hefyd, ychwanegodd, yn diystyru ymgeisio achos "maen nhw'n dal yn meddwl nad ydym yn gyfartal, sy'n ddychrynllyd".
"Dylid datblygu sgiliau o fewn y pleidiau gwleidyddol a dylid cael mentoriaid, ond dyw hynny ddim yn digwydd ar y funud."
'Potensial i'n tanseilio'
Yn ôl cadeirydd adran du a lleiafrifoedd ethnig Plaid Cymru, Abyd Quinn Aziz, nid yw cwotâu "o reidrwydd yn ateb".
Mae potensial mewn rhai achosion, meddai, iddyn nhw "danseilio" gwleidyddion o gefndir lleiafrif ethnig.
"Mae yna bobl sy'n dweud ichi gael y job, os yw'r gallu gyda chi i'w wneud ai peidio," dywedodd. "Mae gyda ni Imposter Syndrome neu deimlad 'ydw i'n ddigon da' eisoes, heb ychwanegu at hynny."
Mae ystyried amrywiaeth hiliol yn rhywbeth "gymharol newydd" i'r blaid, meddai, ac yn rhan o'r ymdrech i ddangos nad plaid ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn unig mohoni.
Bydd "cysgodi, mentora ac annog pobl i ymuno" a chyflawni gwahanol rolau'n helpu sicrhau mwy o ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol.
Mae Mr Aziz a Mr Hussain yn gytûn bod addysgu pobl ifanc yn allweddol i sicrhau gwell amrywiaeth o fewn gwleidyddiaeth yn y dyfodol.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd "addysg ar ddinasyddiaeth a gwleidyddiaeth" o fewn cwricwlwm newydd Cymru'n helpu disgyblion i fod "yn ddinasyddion moesol a gwybodus".
Senedd Ieuenctid Cymru yw'r corff gwleidyddol mwyaf amrywiol yn dilyn yr etholiad diwethaf fis Rhagfyr y llynedd.
Gobaith cynrychiolydd Gŵyr, Hermione Vaikunthanathan-Jones, 15, yw y bydd mwy o bobl ifanc 16 a 17 oed yn cael eu hysbrydoli i ddefnyddio'u hawl newydd i bleidleisio a chymryd rhan yn yr etholiadau lleol.
"Mae cynghorau a Seneddau'n adlewyrchu'r gymuned ehangach," meddai. "Os mae pobl yn gweld rhywun maen nhw'n uniaethu â nhw mewn sefyllfa o rym, bydd yn eu hysbrydoli i wneud newid eu hunain."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2021
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2022