Eluned Morgan yn gwrthod honiadau bod y GIG 'wedi torri'
- Cyhoeddwyd
Mae'r gweinidog iechyd wedi gwadu honiadau doctoriaid bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru "wedi torri".
Ond, fe ddywedodd Eluned Morgan ar raglen Politics Wales ddydd Sul bod y system "dan bwysau aruthrol".
Yn dilyn cyhoeddiad am yr amseroedd aros gwaethaf eto i adrannau brys, fe ddywedodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys bod y GIG "wedi torri" a bod hynny'n "ofid mawr" i gleifion a staff.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod targedau'r GIG yn "mynd i'r cyfeiriad anghywir" ac yn ôl Plaid Cymru, mae problemau "wedi bodoli ers blynyddoedd" cyn y pandemig.
Mae ffigurau newydd, a gafodd eu cyhoeddi ddydd Iau, yn dangos bod amseroedd aros adrannau brys am bedair awr a 12 awr ar eu lefelau gwaethaf unwaith eto ym mis Mawrth.
Roedd amseroedd aros am ambiwlans hefyd wedi gwaethygu.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan ei fod yn "anodd, does dim dwywaith amdani, a beth allwn ni wneud yw ein gorau glas i fynd i'r afael â'r system.
"Mae'r pwysau ar y system fel rhywbeth nad ydym erioed wedi ei weld," ychwanegodd.
'Pwysau aruthrol'
Wrth ymateb i honiadau doctoriaid bod y GIG "wedi torri", dywedodd Ms Morgan: "Dw i ddim yn credu ei fod wedi torri.
"Ry'n ni'n llwyddo i weld tua 200,000 o bobl y mis - dyw hynny ddim yn system sydd wedi torri.
"Fe wnes i ymweld yn ddi-rybudd ag Uned Damweiniau ac Achosion Brys Caerdydd nos Wener ac roedd y golygfeydd yn anodd iawn.
"Mae'n amlwg fod pobl yno, dyw nhw ddim yn wastraffwyr amser, mae'r rhain yn bobl sydd wirioneddol mewn poen ac angen cael eu gweld.
"Ond mae'r pwysau ar y system yn aruthrol a dyna pam mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gweld llai yn llifo mewn i'r system, mwy o ataliaeth," ychwanegodd.
Roedd 8,757 o gleifion mewn ysbytai yng Nghymru ddydd Iau yn ôl ffigurau swyddogol.
Yn ôl y gweinidog, roedd "dros fil" yn barod i gael eu rhyddhau ond doedden nhw ddim yn gallu "oherwydd pa mor fregus yw'r system gofal iechyd".
Ddydd Mawrth, bydd llywodraeth Cymru yn cyhoeddi eu cynllun ar sut i fynd i'r afael â'r rhestrau aros.
Y nod yw dychwelyd i lefelau cyn y pandemig erbyn diwedd tymor presennol y Senedd yn 2026.
Fe awgrymodd y Gweinidog Iechyd y gallai cleifion deithio ar draws Cymru er mwyn cael eu trin yn y dyfodol.
Ymateb y pleidiau
Fe ddywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod y rhain yn "gynlluniau y dylem ni fod wedi cael amser maith yn ôl.
"Dyw'r rhain ddim yn broblemau sydd wedi ymddangos yn sydyn oherwydd y pandemig, mae'r rhain yn broblemau sydd wedi gwaethygu yn sgil y pandemig... ond roedden nhw'n bodoli ers blynyddoedd oherwydd diffyg cynllunio strategol gan lywodraeth Cymru i roi ein system iechyd a gofal ar sylfaen sefydlog a chynaliadwy.
"Mae angen i ni gyrraedd y pwynt hwnna ac yn anffodus ry'n ni'n bell oddi wrtho," ychwanegodd.
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Russell George AS: "Fy mhryder i yw bod targedau'n mynd i'r cyfeiriad anghywir.
"Fel man lleiaf, fe ddylen ni fod yn sefydlogi targedau amseroedd amser.
"Nid y prif broblem yw recriwtio staff - ond cadw staff - a dwi'n meddwl pan ry'ch chi dan bwysau aruthrol mae'n rhoi pwysau ar yr holl staff, a'r staff hynny sy'n edrych o gwmpas yn meddwl 'ai dyma'r yrfa i mi?'"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2022