'Siom' trefnu gemau Wrecsam a Chymru'r un diwrnod

  • Cyhoeddwyd
Cefnogwyr WrecsamFfynhonnell y llun, Rex Features

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi mynegi siom y gallai gemau tyngedfennol y tîm cenedlaethol a chlwb Wrecsam gael eu cynnal yr un pryd.

Mae Wrecsam yn anelu at gyrraedd gemau ail-gyfle'r Gynghrair Genedlaethol ddiwedd y tymor, gyda'r gobaith o ennill dyrchafiad i Adran 2.

Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal am 15:00 brynhawn Sul, 5 Mehefin, yn Llundain.

Ond dim ond dwy awr yn ddiweddarach bydd Cymru'n chwarae eu gêm hollbwysig yn erbyn Yr Alban neu Wcráin, i benderfynu pwy fydd yn cael lle yng Nghwpan y Byd yn Qatar.

Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, ei fod wedi ysgrifennu at Wrecsam, Cymdeithas Bêl-droed Lloegr ac UEFA i awgrymu symud ffeinal y gemau ail-gyfle'r Gynghrair Genedlaethol i ddyddiad arall.

"Mae CBDC yn siomedig na chafwyd datrysiad," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

London Stadium, cartref West Ham United, fydd yn cynnal rownd derfynol y gemau ail-gyfle

Mae Lesley Griffiths AS, sy'n cynrychioli Wrecsam yn y Senedd, wedi ysgrifennu at y Gynghrair Genedlaethol hefyd, yn galw am symud y dyddiad.

Cwestiynodd Ms Griffiths a oedd y lleoliad yn un "perffaith" ar gyfer cefnogwyr, gan ddweud hefyd bod yr holl dimau fydd yn rhan o'r gemau ail-gyfle o ardaloedd gogleddol y DU - ymhell o Lundain.

Mae Wrecsam yn ail yn y Gynghrair Genedlaethol ar hyn o bryd, ond dim ond y pencampwyr sy'n cael dyrchafiad awtomatig.

Mae'r chwech o dimau o dan y pencampwyr yn cystadlu am yr ail le yn Adran 2, gyda chadarnhad ddydd Llun y byddai'r rownd derfynol yn cael ei chynnal yn y London Stadium.