Mwy o arian i gynghorau, ond yr esgid yn dal i wasgu

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gwasanaethau cyngor

Gallai cyllidebau cynghorau barhau i ddod dan bwysau ar ôl yr etholiadau lleol wythnos nesaf, er iddyn nhw dderbyn mwy o arian gan y llywodraeth.

Mae arbenigwyr wedi disgrifio cyflwr y cyllidebau a fydd yn wynebu'r cynghorwyr sy'n cael eu hethol ar 5 Mai.

Er gwaethaf cyllidebau sy'n tyfu, mae pwysau gwario "yn dal yn debygol o fod yn fwy" na'r hyn fydd cynghorau'n eu derbyn yn y blynyddoedd nesaf, yn ôl adroddiad gan Brifysgol Caerdydd.

Daw'r rhan fwyaf o'r pwysau o'r gost gynyddol o ddarparu gofal cymdeithasol.

Etholiadau Lleol 2022

Bu cynnydd o 9.4% yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y 22 cyngor lleol eleni - y mwyaf ers datganoli.

Mae'n wahaniaeth mawr i'r etholiadau lleol diwethaf yn 2017, wnaeth ddilyn blynyddoedd o doriadau.

Fodd bynnag, bydd y cynnydd yn y cyllid yn arafu yn ystod y ddwy flynedd nesaf wrth i gostau godi.

Hyd yn oed pe bai cynghorau'n ychwanegu at eu cyllidebau gyda chynnydd o 4% yn y dreth gyngor, byddai angen arbedion arnyn nhw.

Efallai na fydd torri cyflogau'n "bosibl neu'n ddymunol", meddai adroddiad y brifysgol. Mae angen mwy o staff i weithio ar adfer o'r pandemig ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i godi tâl athrawon a gofalwyr cymdeithasol.

Gallai tymor nesaf y cynghorau hefyd weld newid yn y ffordd y mae treth y cyngor yn cael ei chasglu.

Prisiau tai sy'n gosod bandiau gwahanol y dreth, ac am y tro cyntaf ers 2003, mae 'na gynllun i ailbrisio cartrefi er mwyn gweithio allan faint y dylai pobl ei dalu.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw am i'r dreth, sy'n cyfrannu tua un rhan o bump o gyllid y cynghorau, fod yn fwy teg.