Paratoi am daith 'emosiynol' i helpu ffoaduriaid Wcráin

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"Mae pobl Treforys yn teimlo yn emosiynol iawn wrth weld a chlywed am sefyllfa ffoaduriaid"

Wrth i fi gyrraedd Eglwys Y Sacred Heart, Treforys ar fore Sul y Pasg, mae'r ffenestri yn agored ac mae sŵn gweddïau i'w clywed o'r Eglwys yng nghanol y dref.

Mae'n fore pwysig i offeiriad y Plwyf, y Tad Jason, ond mae wedi cytuno i gwrdd â fi ynghanol ei brysurdeb i drafod y gwaith y mae yr Eglwys yn ei wneud i helpu ffoaduriaid o Wcráin yn ninas Krakow yng ngwlad Pwyl.

"Mae cysylltiad a hanes hir rhwng yr Eglwys hon â gwlad Pwyl a gwlad Wcráin" meddai wrtha' i.

"Roedd arfer bod Clwb Wcranaidd yn y dre' hon gyda nifer o bobl wedi symud i'r ardal o Wcráin i weithio yn y diwydiannau trwm ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Roedd llawer ohonyn nhw yn aelodau yma.

"Hefyd mae yr Eglwys hon yn Nhreforys wedi'i gefeillio â lleiandy Sisters of Divine Mercy yn Krakow."

O ganlyniad i'r cysylltiad yna, fe benderfynodd aelodau yr Eglwys ger Abertawe fynd ati i godi arian i helpu gyda phrynu ambiwlans i fynd i'r ffin ag Wcráin.

Maen nhw hefyd wedi bod yn casglu arian yn ystod tymor y Grawys.

"Bob wythnos yn ystod y Grawys, mae'r aelodau yn fan hyn wedi bod yn casglu, ac ry'n ni wedi anfon arian at y cwfaint yn Krakow, at y chwiorydd yno, sydd wedi bod yn helpu degau o famau a phlant sydd wedi dianc o Wcráin," eglurodd y Tad Jason.

Wrth weld y sefyllfa yn dirywio a'r angen yn cynyddu roedd yr aelodau yn Nhreforys yn teimlo eu bod am wneud mwy, ac fe aethpwyd ati i sefydlu grŵp gweu dillad babis ar gyfer mamau a phlant Wcráin.

Un o'r rhai wnaeth gychwyn y grŵp yw Suzanne Romano. Pan wnes i siarad gyda hi ar ôl yr oedfa roedd hi a chriw bach o fenywod eraill wrthi yn ddyfal yn y festri yn gweu dillad babis - blancedi, hetiau, siacedi a sanau lliwgar.

Mae hi wedi bod yn dilyn argyfwng y ffoaduriaid yn ofalus ac yn dweud bod y sefyllfa yn torri ei chalon.

"Fel mam rwy' methu dychmygu sut mae mamau Wcráin yn teimlo."

Mae Elaine Rees yn aelod arall o'r grŵp. Mae hi yn dweud bod yr ymateb gan yr Eglwys yn Nhreforys wedi bod yn "anhygoel" ers dechrau'r rhyfel.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r criw wedi bod yn gweu blancedi, dillad a rhoddion i fabanod

"Mae cymaint wedi bod yn digwydd yma. Pan ddaeth apêl yn lleol gan bobl oedd yn anfon llawn lori o nwyddau angenrheidiol gan gynnwys cewynnau babis i wlad Pwyl", dywedodd

"Roedd ymateb y plwyf yn anhygoel. Mae pawb wedi gweld y ffoaduriaid ac mae pawb just ishe gwneud rhywbeth i help ac estyn allan i helpu pobl sy'n dioddef."

Un o aelodau yr Eglwys yw Mihangel ap Rhisiart, a dywedodd e wrtha' i bod cyfrifoldeb ar yr eglwys i gydnabod eu bod yn rhan o gorff rhyngwladol.

"Ry'n ni yn trio codi arian ond hefyd ry'n ni yn trio canolbwyntio ar bethau ymarferol i helpu pobl Wcráin," meddai wrtha' i.

"Dyw hi ddim yn bosib i ddweud pa mor bwysig yw hi i ni i drio cefnogi pobl sy yn dioddef ar hyn o bryd.

"Mae yn anodd i fi ddychmygu be' maen nhw yn mynd drwodd a pha mor beryglus yw y sefyllfa.

"Mae dangos cefnogaeth mor bwysig, er mwyn trio gwneud yn siŵr bod pobl Wcráin ddim yn teimlo eu bod nhw ar eu pennau eu hunain."

'Taith emosiynol'

Ar ôl yr oedfa rwy'n dilyn y Tad Jason i'w gartref lle mae mae'n paratoi i deithio i Krakow y diwrnod canlynol.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Tad Jason yn teithio i Wlad Pwyl er mwyn dosbarthu'r holl nwyddau

Mae e yn brysur yn llwytho llond ces gyda dillad babis sy' wedi eu gweu â llaw gan ei aelodau, a bydd rhain yn cael eu rhoi i bobl sydd wedi ffoi o Wcráin.

"Mae pobl Treforys yn teimlo yn emosiynol iawn wrth weld a chlywed am sefyllfa ffoaduriaid ac mae pawb eisiau dangos cariad a chefnogaeth."

Fe fydda' i yn teithio gyda y Tad Jason i Krakow i weld beth fydd pen y daith i'r nwyddau y mae pobl plwyf Treforys wedi eu casglu a'u gweu.

Mae e yn cyfaddef wrtha' i, wrth i fi adael, y bydd y daith yn un emosiynol iddo.

Ond, mae'n dweud ei fod hefyd yn teimlo balchder fod pobl ardal Abertawe yn gallu helpu i rannu cysur a gweddi gyda phobl sy'n wynebu argyfwng enfawr.

Pynciau cysylltiedig